brodor o Gydweli, Sir Gaerfyrddin. Cadwyd llawer o'i waith mewn llawysgrifau, y rhan fwyaf ohono yn gywyddau i gylch eang o foneddigion cyfoes. Yn eu plith ceir rhai i Wiliam, iarll Penfro, a'i frawd Syr Rhisiart Herbert, a laddwyd ym mrwydr Banbury (1469), ac i fab ifanc Syr Rhisiart, i Dr. Siôn Morgan, esgob Tyddewi, Wiliam Siôn o Lanegwad, Dafydd Llwyd ap Gwilym o Gastell Hywel, Llywelyn ap Dafydd ab Einion o Lanllawddog a'i deulu, Siôn ap Dafydd o'r Llys Newydd, a Siôn Lewys a'i dad o Brysaddfed ym Môn. Canodd gywyddau crefyddol a serch, a hefyd gywydd ymryson i Bedo Brwynllys. Yr oedd Ieuan yn bleidydd poeth i wŷr York, ac un o'r pethau y mae'n ei ddannod i Bedo Brwynllys yw ei fod 'yn chwarae'r ffon ddwybig yn y mater hwn. Cedwir cywydd marwnad Hywel Rheinallt (neu Hywel ap D. ab Ieuan ap Rhys, yn ôl un llawysgrif - gweler Mynegai) iddo ef a'r tri bardd, Dafydd Nanmor, Deio ab Ieuan Du, a Tudur Penllyn; cadwyd hefyd gywydd marwnad Tudur Aled i D. ab Edmwnd, Rhys Nanmor, a Ieuan Deulwyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.