Mab Ieuan ap Llywelyn Fychan. Yr oedd yn byw yn Llannerch, Llewenni Fechan, gerllaw Llanelwy.
Cyhoeddodd J. C. Morrice Detholiad o Waith Gruffydd ab Ieuan ab Llewelyn Vychan a gasglwyd o wahanol lawysgrifau yn y British Museum (Bangor, 1910) a rhoes beth o hanes y bardd; ceir cyfeiriadau at lawysgrifau eraill yn y llyfryddiaeth. Ceir gan T. A. Glenn yn ei lyfr a enwir The Family of Griffith of Garn and Plasnewydd in the County of Denbigh … (London, 1934) lawer o fanylion am fywyd Gruffydd ap Ieuan wedi eu casglu o ddogfennau teulu Griffith (disgynyddion Gruffydd ap Ieuan) ac o ffynonellau eraill; y mae Glenn yn cywiro rhai pethau a gyfrifai ef yn wallau yn rhagymadrodd J. C. Morrice.
Ar wahân i'w farddoniaeth y mae i Gruffydd ap Ieuan bwysigrwydd oblegid ei gysylltiad ag eisteddfod gyntaf Caerwys ac â llawysgrif y dywedodd yr esgob Richard Davies ei bod yn cynnwys cyfieithiad Cymraeg o Bum Llyfr Moses. Yn eisteddfod gyntaf Caerwys (1524) bu ef a'r bardd Tudur Aled yn cynorthwyo tri chomisiynwr, sef Richard ap Howel ap Ieuan Fychan, Mostyn, Sir y Fflint (tad-yng-nghyfraith Gruffydd ap Ieuan), Syr William Gruffydd o'r Penrhyn, Sir Gaernarfon (tad-yng-nghyfraith Thomas Mostyn, mab Richard ap Howel), a Syr Roger Salusbury, Llewenni, yn yr 'eisteddfod' a gynhaliwyd er mwyn 'graddio' ac 'urddo' beirdd, etc.
Am hanes y llawysgrif o Bum Llyfr Moses a welodd yr esgob Richard Davies yn nhŷ 'hen ewythr' iddo (William Salesbury sydd yn dywedyd mai Gruffydd ap Ieuan oedd yr 'hen ewythr') gweler y llyfr gan D. R. Thomas y cyfeirir ato (fel rheol) o dan y teitl byr - Davies and Salesbury. Cofier nad llawysgrif y Pum Llyfr ydyw'r un yr argreffir detholiad ohoni gan D. R. Thomas, eithr llawysgrif yn cynnwys cyfieithiad Cymraeg gan Richard Davies (ac yn ei law ef ei hun) o rai o epistolau Paul; y mae llawysgrif cyfieithiad yr esgob yn cael ei chadw yn Ll.G.C., er yn parhau i fod yn eiddo pennaeth teulu Davies-Cooke, Gwysanau, Sir y Fflint, sydd yn disgyn o deulu Davies, Llannerch, sir Ddinbych, a thrwy'r teulu hwnnw o Gruffydd ap Ieuan ei hunan; y mae llawysgrifau eraill yn Ll.G.C. a ddaeth o Gwysanau ac a fuasai cyn hynny yn Llannerch.
Ceir ach Gruffydd ap Ieuan yn llyfr D. R. Thomas, Lloyd, Powys Fadog, IV, yn Y Cwtta Cyfarwydd, yn llyfr J. C. Morrice, ac yn llyfr T. A. Glenn.
Bu Gruffydd ap Ieuan yn briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Janet (Sioned), merch Richard ap Hywel, Mostyn; merch o'r wraig gyntaf oedd y brydyddes, ' Ales ferch Gruffydd ab Ieuan,' y cyfeirir ati yn y geiriadur hwn; o'r briodas hon hefyd y deillia teuluoedd Davies (Llannerch) a Davies-Cooke (Gwysanau). Yr ail wraig oedd Alice (Ales), merch John Owen Llansantffraid; o'r ail briodas y daeth teulu Griffith (Garn a Phlas Newydd). Disgrifir prydyddes arall, Catrin, yn ferch Gruffydd ap Ieuan; gweler nodyn byr arni hi yn y gwaith hwn, sub. nom. ' Catrin ferch Gruffydd ab Ieuan ap Llywelyn.'
Am y cysylltiad â theulu Davies (Llannerch) a Davies-Cooke (Gwysanau) gweler yr erthygl sydd yn delio â'r teuluoedd hynny; am y cysylltiad â Richard ap Howel gweler Lord Mostyn a T. A. Glenn, History of the Family of Mostyn of Mostyn (London, 1925) a'r erthygl yn y geiriadur hwn ar deulu Mostyn (Mostyn).
Dyddiad ei ewyllys yw 11 Mawrth 1553, a gwnaethpwyd hi yn Henllan, sir Ddinbych. Fe'i profwyd, 3 Mai 1553.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.