Merch i ŵr bonheddig o brydydd, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan (c. 1485 - 1553) o'r Llanerch yn Llewenni Fechan. Ei mam ydoedd ei wraig gyntaf, Sioned ferch Rhisiart ab Hywel, Mostyn (bu farw 1540).
Ganwyd Alis (neu Alis Wen) tua 1520, a phriododd Ddafydd Llwyd ap Rhys o'r Faenol ac o deulu Llwydiaid Wigfair, tua 1540. Plant iddi oedd John Llwyd (bu farw 1615), cofrestrydd esgobaeth Llanelwy, Thomas Llwyd y Faenol (bu farw 1602), William Llwyd, M.A., rheithor Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llanfechain, a Llanwrin, 1590-1600, a chanon yn Llanelwy, 1587-1600, ac Edward Llwyd (bu farw 1639), proctor yn Llanelwy.
Ychydig o waith prydyddol Alis ferch Gruffudd a gadwyd - cyfresi o englynion ar y math o ŵr a fynnai, a'i barn am ailbriodas ei thad yn ei hen ddyddiau, a chywydd cymod rhwng Grigor y Moch a Dafydd Llwyd Lwdwn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.