LLOYD (TEULU), Hafodunos, sir Ddinbych a Wigfair, Sir y Fflint

Y mae teulu Lloyd, Hafodunos (ym mhlwyf Llangernyw) yn olrhain ei dras o Hedd Molwynog trwy Bleddyn Llwyd ap Bleddyn Fychan. Dyma ran ddiweddar y llinell uniongyrchol fel y rhoddir hi gan J. E. Griffith (Pedigrees, 215): HENRY LLOYD (siryf sir Ddinbych, 1593), ROGER LLOYD, FFOULK LLOYD (yn fyw yn 1609), HENRY LLOYD, HEDD LLOYD (siryf sir Ddinbych, 1679), a PHOEBE LLOYD (bu farw 1760), merch ac aeres Hedd Lloyd.

Daeth Phoebe Lloyd, aeres Hafodunos, yn wraig HOWEL LLOYD (bu farw 1729), Wigfair, ac felly unwyd y ddwy stad. Eu hail fab, a'r aer, oedd HOWEL LLOYD (bu farw 1783), Wigfair a Hafodunos, a briododd Dorothea, merch Benjamin Conway, Warden Christ's Hospital, Rhuthyn. Plentyn hynaf Howel Lloyd a Dorothea oedd JOHN LLOYD (1749 - 1815), ' Yr Athronydd,' gwr y sylwir arno'n fanylach isod. Yr oedd i John Lloyd (a fu farw'n ddibriod yn 1815) ddwy chwaer, cyd-aeresau, sef DOROTHEA LLOYD, a briododd Thomas Clough, rheithor Dinbych, a Mary (Elizabeth ?), gwraig y Parch. J. C. Conway. Gwerthwyd Hafodunos yn 1830 gan Thomas Hugh Clough, mab Dorothea Lloyd a Thomas Clough, a brawd i'r Dorothea Catherine Clough a briododd Richard Howard (bu farw 1851), canon Bangor, rheithor Dinbych, etc. (J. E. Griffith, Pedigrees, 329).

Yr oedd John Lloyd (1749 - 1815), ' The Philosopher,' sef mab Howel Lloyd (Hafodunos a Wigfair) a Dorothea Conway, yn berchen llyfrgell helaeth (dros ddeng mil o eitemau) yn cynnwys llyfrau, llawysgrifau, peiriannau, ac offer gwyddonol ac 'athronyddol,' mapiau, etc., y bu raid i John Broster, Caer, gymryd agos i bythefnos i'w gwerthu ar arwerthiant yn 1816. (Gweler Bibliotheca Llwydiana. A Catalogue of the Entire Library; y mae copïau o'r catalog a'r prisiau wedi eu hysgrifennu ynddynt yn Ll.G.C.) Yr oedd John Lloyd yn aelod seneddol Sir y Fflint, 1797-9, eithr y mae'n fwy adnabyddus ar gyfrif ei gyfeillgarwch â rhai o wyddonwyr, athronwyr, ac awduron mwyaf enwog ei gyfnod; y mae llythyrau ato (yng nghasgliad llawysgrifau Wigfair - NLW MS 12401-12513 ) oddi wrth Syr Joseph Banks, Daniel Charles Solander, yr anrhydeddus R. F. Greville (dyddiadurwr, a chyfyrder dyddiadurwr arall), Jonas Dryander, Syr George Shuckburgh-Evelyn, Syr William Herschel, Nevil Maskelyne (Astronomer Royal), Syr John Rennie, Samuel Lysons, Thomas Pennant, Philip Yorke, Hester Lynch Piozzi, yr anrhydeddus Daines Barrington, y deon W. D. Shipley, rhai o esgobion Llanelwy a Bangor, Walter Davies ('Gwallter Mechain'), etc. Ymhlith y pethau a werthwyd yr oedd esiamplau prinion o lyfrau a argraffwyd gan William Caxton, Wynkyn de Worde, a Richard Pynson, a rhai o lawysgrifau Cymraeg John Jones, Gellilyfdy. Yng nghasgliad Wigfair, sef ymhlith NLW MS 12401-12513 , ceir yr unig lythyr y gwyddys amdano a ysgrifennodd y bardd Siôn Tudur (Bulletin of the Board of Celtic Studies, vii, 112-7), coflyfr y cyfnod 1595-1653 a gadwyd gan Thomas Rowlands, ficer corawl Llanelwy (D. R. Thomas, gol., Y Cwtta Cyfaruydd… with an Appendix from the Register Note-Book of Thomas Rowland, Llundain, 1883), rhestr o daliadau i Elin, ei forwyn, a wnaethpwyd, c. 1600, gan Ieuan ap Rhys ap David, a llythyrau a anfonwyd at Maurice Wynn, ' Groom of his Majesty's Privy Chamber ' (N.L.W. Journal, i, 76, 100-2, 115).

Cawsai John Lloyd ei wneuthur yn fargyfreithiwr (o'r Middle Temple) yn 1781 a'i wneuthur yn ' Bencher ' yn 1811; fe'i gwnaethpwyd yn D.C.L. (Rhydychen) ar 5 Gorffennaf 1793 (Foster, Alumni Oxonienses). Bu farw fis Ebrill 1815, a chladdwyd yn Llangernyw.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.