BROSTER (TEULU), argraffwyr, etc., yng Nghaer a Bangor.

Argraffodd Peter Broster, Caer, Y Llyfr Plygain, yn 1783. Yn 1807 dechreuodd JOHN BROSTER fusnes argraffu ym Mangor; efe, mae'n debyg, oedd y John Broster a fu'n brentis gyda W. C. Jones, argraffydd, Caer. Mab i John Broster oedd CHARLES BROSTER, a oedd, yn 1817, yn berchennog, cyhoeddwr, ac argraffydd The North Wales Gazette, newyddiadur y cafwyd y rhifyn cyntaf ohono ar 5 Ionawr 1808 - ym Mangor; ar 4 Hydref 1827 newidiodd y papur ei enw a dyfod yn North Wales Chronicle, a'i argraffydd a'i berchennog yn awr oedd JOHN BROWN (bu farw 1847), a fuasai yntau hefyd yn brentis yn swyddfa W. C. Jones. Am fanylion pellach gweler Ifano Jones, History of Printing and Printers in Wales.

Cafwyd Tours from Chester through North Wales o swyddfa Broster and Son, Caer, yn 1802; cafwyd hefyd lyfrau Cymraeg yn 1807 o'r un swyddfa.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.