Ganwyd ym Midgeham, Berkshire, 5 Hydref 1745, mab Jonathan Shipley (isod) ac Anna Maria ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgolion Westminster a Winchester. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen, 21 Rhagfyr 1763 o Eglwys Crist, a graddio B.A. yn 1769 ac M.A. yn 1771. Urddwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Yonge o Norwich, 11 Mawrth 1770, ac yn offeiriad gan ei dad, 18 Mawrth. Drannoeth penodwyd ef yn ficer Ysgeifiog; 6 Chwefror 1771, yn ficer Wrecsam; 11 Ebrill 1772, yn rheithor (segur) Llangwm. Cymerodd yn gyfnewid am y rheithoraeth hon reithoraeth segur Corwen (8 Ionawr 1774) ac yna ficeriaeth Llanarmon-yn-Iâl (10 Ionawr 1782). Gwnaed ef hefyd yn ganghellor yr esgobaeth (19 Tachwedd 1773) ac yn ddeon (27 Mai 1774). Daliodd y swyddi hyn hyd ei farw ym Modryddan, Rhuddlan, Sir y Fflint, 7 Mai 1826. Claddwyd ef yn Rhuddlan, ac y mae cofadail iddo yng nghabidyldy eglwys gadeiriol Llanelwy, ag arysgrif foliannus arni. Cyhoeddodd draethodyn o waith ei frawd-yng-nghyfraith, Syr William Jones, ar egwyddorion llywodraeth, a bu raid iddo sefyll ei brawf am gyhoeddi athrod a allai arwain i derfysg; ond ar ôl i'r achos barhau am ddwy flynedd, rhyddhawyd ef.
Ganwyd ei dad,
JONATHAN SHIPLEY (1714 - 1788),
mab Jonathan Shipley o Leeds a Martha ei wraig, yn Twyford; cafodd ei addysg yn Reading ac yng ngholegau S. Ioan ac Eglwys Crist yn Rhydychen. Graddiodd B.A. yn 1735 ac M.A. yn 1738; daliodd amryw swyddi eglwysig a dyrchafwyd ef yn esgob Llandaf yn 1769 a'i symud yr un flwyddyn i Lanelwy. Ymwelai yn achlysurol â'i esgobaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.