PENNANT, THOMAS (1726 - 1798), naturiaethwr, hynafiaethydd, teithiwr

Enw: Thomas Pennant
Dyddiad geni: 1726
Dyddiad marw: 1798
Priod: Anne Pennant (née Mostyn)
Priod: Elizabeth Pennant (née Falconer)
Plentyn: Sarah Pennant
Plentyn: Arabella Pennant
Plentyn: Thomas Pennant
Plentyn: David Pennant
Rhiant: Arabella Pennant (née Mytton)
Rhiant: David Pennant
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: naturiaethwr, hynafiaethydd, teithiwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Natur ac Amaethyddiaeth; Teithio
Awdur: Ellis Davies

Ganwyd 14 Mehefin 1726, yn y Downing, sir y Fflint, mab David Pennant ac Arabella (gynt Mytton). Daethai ei dad i feddiant o'r Downing yn 1724 ar farwolaeth Thomas Pennant (yr olaf i oroesi o gangen iau o'r teulu), yr hwn a'i cymynroddodd iddo. Cartref cyntefig y Pennantiaid oedd Bychton yn yr un plwyf (Whitford). Y cyntaf i ymsefydlu yn y Downing oedd John Pennant, gor-hendaid y Thomas uchod, a ymbriododd yn 1626 â'r etifeddes ac a ychwanegodd at y ty neu ei ailadeiladu. Aeth y Downing ar dân yn 1922 ac erys yr adfeilion.

Ceir y rhan fwyaf o'r wybodaeth sydd hysbys am Thomas Pennant yn ei Literary Life a gyhoeddwyd yn 1793. Dywed ddarfod iddo ddechrau meithrin chwaeth at adaryddiaeth, ac yn wir at naturiaethau yn gyffredin, ac ef yn 12 oed, pan gyflwynwyd iddo lyfr ar adar o waith Francis Willoughby gan ei gâr, John Salusbury, Bach-y-graig, Tremeirchion, tad Mrs. Piozzi. Derbyniodd ei addysg foreol mewn ysgol yn Wrecsam (gweler Tours, i, 379). Wedi hyfforddiant pellach yn Llundain, ymaelododd pan yn 18 oed yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen. Er aros yno am rai blynyddoedd ni chymerodd ei radd. Ac efe eto yn y brifysgol ymwelodd (yn 1746 neu 1747) â Chernyw, lle y cyfarfu â'r enwog Ddr. W. Borlase, rheithor Ludgvan, yr hwn a enynnodd ynddo gryn hoffter at ddaeareg. Yn y blynyddoedd dilynol teithiodd yn helaeth, gan ymweled â'r Iwerddon, Ynys Manaw, cyfandir Ewrop, yr Alban, yr Hebrides, a gwahanol rannau o Loegr a Chymru. Y mae'r cyfrolau o hanes ei deithiau yn yr Alban, i Lundain, ac yn enwedig yng Ngogledd Cymru, gyda'i gynhyrchion llenyddol gorau. Ymddangosodd cyfrol gyntaf ei Tours in Wales yn 1778, a'r ail (y rhan gyntaf dan y teitl A Journey in Snowdonia ) yn 1781. Cyhoeddwyd argraffiad mewn tair cyfrol yn 1883 dan olygiaeth Syr John Rhys. Am hanes Pennant a'i daith ar y Cyfandir, ni welodd olau dydd hyd 1948. Cyhoeddwyd y llawysgrif, sydd ym meddiant y Llyfrgell Genedlaethol, gan Bernard Quaritch, Llundain, dros y Ray Society (Tour of the Continent). Ymddangosodd ei brif waith ar fildraeth (British Zoology) rhwng 1761 a 1777, mewn pedair cyfrol (arg. newydd 1812). Ysgrifennodd hefyd ar fildraeth India a'r ' Arctic Circle.' Ei anturiaeth lenyddol fwyaf uchelgeisiol oedd Outlines of the Globe mewn 22 cyfrol (MS.). Pedair yn unig o'r rhain a gyhoeddwyd - dwy ganddo ef ei hun, a dwy gan ei fab David Pennant. Am y gweddill, arhosent ym meddiant etifeddion stad y Downing, teulu Fielding, tan 1938, pan werthwyd hwy, ynghyd â llawer o lawysgrifau eraill a llyfrau a berthynai i Thomas Pennant a'i fab, gan y Meistri Christie, Llundain, trwy gyfarwyddyd ysgutorion y diweddar is-iarll Fielding, arglwydd Denbigh, am £300. Y prynwyr oedd y Brodyr Maggs, llyfrwerthwyr, Llundain. Y mae 22 gyfrol yr Outlines yn awr yn y National Maritime Museum, Greenwich. Ddwy flynedd cyn ei farw gorffennodd Pennant gyfrol ar ei blwyf genedigol a Threffynnon, lle y trigai rhai o'r teulu (Whiteford and Holywell, 1796). Yn ystod ei fywyd derbyniodd lawer o anrhydeddau a nodau o fri, o wledydd tramor yn ogystal ag o Brydain. Yr anrhydedd a werthfawrogai fwyaf oedd ei ethol yn 1757 yn aelod o Gymdeithas Frenhinol Upsala. Cyn hynny, yn 1754, etholasid ef yn F.S.A., ond ymneilltuodd yn 1760. Daeth iddo anrhydeddau o Norwy, Sweden, ac America, ac yn 1767 gwnaed ef yn F.R.S., ac yn LL.D. gan Brifysgol Rhydychen. Cyflwynodd Sgotland iddo amryw anrhydeddau yn cynnwys dinasfraint Edinburgh.

Ymhlith gohebwyr tramor Pennant yr oedd amryw bersonau o nod, megis Linnaeus, Buffon, Dr. Pallas (yr Hâg), a Gronovius (Leyden). Ymohebai ag ef y naturiaethwr Seisnig Gilbert White yntau, awdur The Natural History and Antiquities of Selborne. Ymysg y Cymry y cyfathrachodd â hwynt ac y bu yn eu dyled yr oedd Morysiaid Môn; Hugh Davies, awdur Welsh Botanology; John Lloyd, rheithor Caerwys, a fu yn gydymaith iddo ar ei holl deithiau yng Nghymru ('I'w fawr fedr yn iaith a hynafiaethau ein gwlad yr wyf yn dra dyledus'); Moses Griffith, brodor o Fryncroes, Lleyn, ei was ffyddlon a'i ddarlunydd hunan-addysgedig, a deithiodd gydag ef bron ym mhobman ac a gyflenwodd ddarluniau i'w weithiau.

Bu Pennant yn briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Elizabeth, merch James Falconer, Caer, i'r hon y ganed dau blentyn, sef David, ei etifedd, ac Arabella; ei ail wraig oedd Ann, merch Syr Thomas Mostyn, a bu iddi ferch a mab, sef Sarah a Thomas. Dechreuodd iechyd Pennant ballu yn 1793, a gorffennodd ei yrfa 16 Rhagfyr 1798, yn 72 oed. Claddwyd ef 'yn agos i'r allor' yn eglwys Whitford, lle mae cofgolofn iddo o waith Westmacott yr ail.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.