GRIFFITH, MOSES (1747 - 1819), arlunydd mewn dyfrlliw

Enw: Moses Griffith
Dyddiad geni: 1747
Dyddiad marw: 1819
Priod: Margaret Griffith (née Jones)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd mewn dyfrlliw
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Megan Ellis

Ganwyd 25 Mawrth 1747 yn Nhrygarn, ym mhlwyf Bryncroes, Sir Gaernarfon. Bedyddiwyd ef ym Motwnnog a chafodd ychydig addysg yn yr ysgol rad a gedwid yno gan y rheithor, y Parch. Richard Thomas. Cyflogwyd ef fel gwas gan Thomas Pennant y naturiaethwr yn 1769, ac ar ôl iddo sylweddoli ei allu fel arlunydd trefnodd Pennant iddo deithio'r wlad gydag ef er mwyn paratoi darluniau ar gyfer ei wahanol lyfrau.

Yn A Literary Life … cyfeiria Pennant ato fel arlunydd ac ysgythrwr medrus a chanddo hefyd gryn allu fel cerddor. Bu'n gydymaith i Pennant ar ei holl deithiau o 1769 hyd 1790, a defnyddiwyd ysgythriadau o'i waith fel darluniau mewn amryw o weithiau argraffedig ei feistr, yn enwedig yn y cyfrolau'n disgrifio'u teithiau yng Nghymru ac yn yr Alban. Y mae llawer mwy o'i ddarluniau dyfrlliw gwreiddiol ar gael, yn enwedig darluniau o eglwysi a phlastai a golygfeydd eraill yng Nghymru a Lloegr, a defnyddiwyd nifer ohonynt i addurno copiau argraffedig o waith Pennant. Moses Griffith hefyd a fu'n gyfrifol am lawer o'r darluniau o anifeiliaid, adar, a physgod a geir yn llyfrau Pennant ar hanes natur, a gwelir ei fedr mewn cangen arall o'r gelfyddyd o astudio'r gyfres o bortreadau a wnaeth ar raddfa mân-ddarluniau.

Ar ôl marw Thomas Pennant yn 1798 bu Griffith yn gweithio i'w fab, David Pennant, ac yn ystod y cyfnod 1805-13 gwnaeth o leiaf ddeucant o luniau dyfrlliw o olygfeydd Cymreig.

Yn ôl cofrestr y plwyf yr oedd yn byw yn Whitford ger Holywell yn 1781, ac ymbriododd yno â merch o'r enw Margaret Jones o'r un plwyf. Ganed iddynt ddau o blant. Yn ôl llythyr oddi wrtho yn The Gentleman's Magazine ym mis Rhagfyr 1809 cartrefai yn Wibnant, ger Holywell, ac yno y bu farw 11 Tachwedd 1819. Claddwyd ef yn Whitford 15 Tachwedd.

Y mae yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru nifer fawr o ddarluniau dyfrlliw o'i waith, yn cynnwys darluniau o eglwysi a phlastai a golygfeydd yng Nghymru, nifer o bortreadau ac yn eu mysg ddau ohono ef ei hun, ac amryw o gyfrolau argraffedig a llawysgrif o waith Pennant yn cynnwys rhai cannoedd o ddarluniau gwreiddiol gan Griffith. Ceir casgliad o'i waith hefyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac enghreifftiau ohono yn yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Victoria and Albert (Llundain) ac mewn amryw o gasgliadau preifat yng Nghymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.