Bedyddiwyd ef 5 Ebrill 1739 yn Llandyfrydog, sir Fôn, lle yr oedd ei dad, Lewis Davies, yn offeiriad. Yn 17 oed aeth i Goleg Peterhouse, Caergrawnt, lle y graddiodd. Bu'n offeiriad Llandegfan, sir Fôn, 1778-87, ac Aber, Sir Gaernarfon, 1787.
Cofir am Hugh Davies oblegid ei Welsh Botanology … A Systematic Catalogue of the Native Plants of Anglesey, in Latin, English, and Welsh… (London, 1813). Yn ei ragair dywed yr awdur iddo ddioddef oddi wrth ryw anhwyldeb nerfau a'i gorfododd i roddi i fyny ei waith fel offeiriad a symud i Fiwmares i fyw. (Y mae trwydded yr esgob, Henry Williams, yn caniatáu iddo fod yn absennol o'i reithordy am ddwy flynedd, yn NLW MS 6666D ). Rhoes gynhorthwy i Thomas Pennant gyda'i Indian Zoology a gyhoeddwyd yn 1790, y flwyddyn y gwnaethpwyd Davies yn gymrawd o'r Linnaean Society a oedd newydd gael ei ffurfio. Bu'n cynorthwyo llawer o naturiaethwyr eraill hefyd, yn eu mysg ei gyfaill William Hudson, awdur Flora Anglica (bu yn ymweld â Hudson yn Llundain yn 1792), Syr James E. Smith (Flora Britannica), a James Sowerby (English Botany). Yn NLW MS 6665C ceir rhai llythyrau a gafodd ef oddi wrth Smith a Sowerby ac oddi wrth naturiaethwyr eraill - Syr Joseph Banks, William Bingley, Lewis Weston Dillwyn, a Samuel Goodenough yn eu plith; yn yr un llawysgrif y mae llythyrau oddi wrth William Owen (-Pughe), David Thomas ('Dafydd Ddu Eryri'), etc. Ceir llythyrau a anfonodd Davies at Thomas Pennant, John Williams (Treffos, sir Fôn), a William Owen (-Pughe) yn NLW MS 2594E , NLW MS 13221E , NLW MS 13222C , NLW MS 13223C , NLW MS 13224B , a NLW MS 14350A . Anfonodd erthygl ('Four British Lichens') i ail gyfrol trafodion y 'Linnaean Society.' Dyfynnir o'i Welsh Botanology gan y Ffrancwr Alphonse de Candolle yn ei Geographie botanique raisonnée… (Paris, 1855). Cyhoeddodd hefyd bamffled, Cyngor Difrif Periglor i'w Bluyfolion, 1801, yn erbyn y Methodistiaid - a atebwyd yn 1802 gan Thomas Charles.
Bu farw 16 Chwefror 1821. Aeth ei gasgliad llysiau a phlanhigion i'r Amgueddfa Brydeinig.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.