WILLIAMS, JAMES (1790-1872), clerigwr

Enw: James Williams
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1872
Plentyn: Louisa Mary Ramsay (née Williams)
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awduron: Robert Thomas Jenkins, Emyr Gwynne Jones

Ganwyd yn 1790 (bedyddiwyd 26 Gorffennaf), yn fab i John Williams (1740 - 1826), Treffos, Llansadwrn, Môn, rheithor Llanddeusant, Llangaffo, a Llanfair-yng-Nghornwy - yr oedd John Williams yn frawd i Thomas Williams (1737 - 1801) o Lanidan, a'i wraig yn un o'r Vincentiaid (gweler yr ysgrif arnynt). Aeth James Williams i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1807; graddiodd yn 1810; bu'n gymrawd o'i goleg, 1813-22; a chymerth ei B.D. yn 1820. Bu'n gurad Llanfair-pwll a Phenmynydd, 1814-21; yna, pan ymddeolodd ei dad o'i dri phlwyf (1821), dilynodd ef ynddynt. Codwyd ef yn ganghellor eglwys gadeiriol Bangor yn 1851. Bu farw 24 Mawrth 1872, a chladdwyd yn Llanfair-yng-Nghornwy. Clerigwr bonheddig, da iawn ei fyd, o'r hen stamp, oedd James Williams, ustus heddwch, a gwr hynod fawr ei barch. Ymddiddorai mewn amaethyddiaeth, a chyfrannodd nodiadau i lyfr John Owen (1808 - 1876), Tynllwyn, ar fagu anifeiliaid (1869). Yr oedd yn eisteddfodwr selog a haelionus, ac anaml iawn y methai fod yn yr eisteddfod genedlaethol. Haedda'i gofio hefyd am agor y ffordd i (Syr) John Rhys - ysgolfeistr ym Môn ar y pryd - i fynd i Rydychen. Merch iddo (Louisa Mary) oedd gwraig Syr Andrew Crombie Ramsay (1814 - 1891) y daearegwr (gweler D.N.B.) a fathodd yr enw 'Cambrian' ar un o haenau'r ddaear; yn Llansadwrn y claddwyd Ramsay.

Gweler ymhellach Aled Eames yn Transactions of the Anglesey Antiquarian Society and Field Club 1957 (20-5).

Brawd iddo oedd

JOHN WILLIAMS (1784 - 1876)

Aeth i Eton a Choleg Iesu, Rhydychen (ni raddiodd); galwyd ef i'r Bar o Lincoln's Inn yn 1809; bu'n 'receiver-general' dros Ogledd Cymru, ac am faith flynyddoedd yn gadeirydd brawdlys chwarterol Môn.

Wyr iddo ef oedd

Syr RALPH CHAMPNEYS WILLIAMS (1848 - 1927)

Ganed yn rheithordy Aber, 9 Mawrth 1848, yn fab i'r Parch. Thomas Norris Williams, ac a aeth i ysgol Rossall. Cafodd hwn yrfa hynod ramantus. O 1884 hyd 1906 bu'n dal swyddi cyfrifol yn Bechuanaland, De Affrica, Gibraltar, a Barbados. Yna (1906) bu'n llywodraethwr y Windward Islands, ac o 1909 hyd 1913 yn llywodraethwr Newfoundland. Cyhoeddodd yn 1913 hunangofiant diddorol, How I became a Governor . Bu farw 22 Mehefin 1927.

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.