O gyff Corbet o Ynys-y-maengwyn (Tywyn, Meirionnydd; gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 237) yr hanoedd y teulu nodedig hwn o glerigwyr, perthnasau trwy dras neu briodas i nifer mawr o deuluoedd tiriog ac eglwysig yng Ngwynedd. Yr oedd gan y VINCENT CORBET o Ynys-y-maengwyn, a fu farw yn 1723, fab, THOMAS VINCENT, ond am ryw reswm fe'i dietifeddodd. Ganed y Thomas hwn yn 1677, a bu farw 1738; bu'n ficer Bangor ac wedyn (1713) yn rheithor Llanfachraeth, Môn; priododd Jane Anwyl, disgynnydd o Anwyliaid y Parc yn Llanfrothen, a chawsant ddau fab. Graddiodd yr hynaf o'r ddau, THOMAS VINCENT (1717 - 1798), yn 1739 o Goleg Eglwys Crist, Rhydychen, penodwyd ef yn 1770 yn archddiacon Brycheiniog - yr oedd hefyd yn rheithor Yatton yng Ngwlad yr Haf. Am y mab iau, JAMES VINCENT (1718 - 1783), graddiodd yntau (o Goleg Iesu) yn 1739, bu'n athro Ysgol Friars ym Mangor ac yn ficer Bangor, yn rheithor Llandwrog (Arfon), ac wedyn (1763) yn rheithor Llanfachraeth. O'i amryw ferched, daeth un, JANE (1751 - 1812), yn wraig i'w chefnder JOHN JONES, swyddog yn y fyddin a mab i Owen Jones (o Benychen yn Abererch), canon Bangor, o'i briod Catherine a oedd yn ferch i'r Thomas Vincent uchod. Mab i John a Jane Jones oedd JAMES JONES (1792 - 1876), a newidiodd ei enw yn 1820 i JAMES VINCENT VINCENT; ganwyd 4 Hydref 1792; graddiodd o Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1815, ac etholwyd ef yn gymrawd yno. Bu'n gurad ym Miwmares, yn rheithor Llanfairfechan (1834-62), ac yn ddeon Bangor (1862-76); a bu farw 22 Mawrth 1876. Ei wraig oedd Margaret Matilda Crawley o'r Gorddinog, a'u hail fab oedd JAMES CRAWLEY VINCENT (1827 - 1869), ganwyd 23 Ebrill 1827, graddiodd o Goleg Iesu (1849), bu'n gurad parhaol S. Anne's, Llandygai (1857-9), ac yn ficer Llanbeblig (Caernarfon) o hynny hyd ei farw ar 8 Medi 1869 - canlyniad i'w hunan-aberth yn ystod ymweliad y colera â'r dref. Ei wraig oedd Grace Elizabeth, ferch William Johnson, rheithor Llanfaethlu; a hawlia dau o'u meibion sylw yma. Adroddir hanes yr hynaf,
JAMES EDMUND VINCENT (1857 - 1909),
yn bur llawn yn ail atodiad y D.N.B.; ganwyd ef 17 Tachwedd 1857, aeth i Winchester a Choleg Eglwys Crist (gan raddio yn 1880), ac yna'n fargyfreithiwr; yn 1890 penodwyd ef yn ganghellor esgobaeth Bangor. Yn ystod y dadlau ar bwnc y tir yng Nghymru, amddiffynnodd y tirfeddianwyr mewn dau lyfr, The Land Question in North Wales, 1896 (trosiad Cymraeg gan T. R. Roberts yn 1897), a The Land Question in South Wales, 1897; cyhoeddodd hefyd, 1903, Memoirs Syr Llewellyn Turner. Yn Lloegr y mae'n fwy adnabyddus fel golygydd cyfnodolion ac awdur teithlyfrau. Bu farw 18 Gorffennaf 1909. Cafodd ei frawd ieuengaf,
(Syr) WILLIAM HENRY HOARE VINCENT (1866 - 1941),
ei addysg yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, a Choleg y Drindod yn Nulyn; aeth yn 1887 i'r gwasanaeth gwladol yn yr India, a chafodd yrfa wir nodedig yno; bu'n aelod (ac is-lywydd) o'r cyngor deddfwriaeth yno, yn aelod o Gyngor yr India o 1923 hyd 1931, ac yn cynrychioli'r India yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn 1926. Urddwyd ef yn farchog yn 1913, ac wedyn yn K.C.S.I. ac yn G.C.I.E. Wedi dychwelyd i'r wlad hon, bu'n siryf Môn yn 1931, ac yn drysorydd Coleg y Gogledd o 1932 hyd ei farw. Yn 1937 rhoes Prifysgol Cymru iddo'r radd o LL.D. 'er anrhydedd.' Bu farw 17 Ebrill 1941.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.