Ganwyd 1 Awst 1807 yn y Gwindy, Llecheiddior, Eifionydd, yn fab i William Owen a'i wraig Margaret, nith i Robert Jones, Rhoslan. Dechreuodd ddarllen yn fore ac yn helaeth, a sgrifennai'n gynnar i Seren Gomer ym mhlaid rhyddfreinio'r Pabyddion. Bu mewn amryw ysgolion, gan gynnwys ysgol Evan Richardson ym Mrynengan, ac ysgol yng Nghaerlleonfawr, lle y bu'n gyd-ddisgybl ac yn gyfaill i 'Glan Alun' (Thomas Jones). Gartref, cymdeithasai â llenorion Eifionydd, megis 'Dewi Wyn,' 'Robert ap Gwilym Ddu,' ac Ellis Owen o Gefn-y-meysydd. Dechreuodd bregethu yn 1836; priododd; aeth i Goleg y Bala yn 1838, ond torrwyd ar ei gwrs yno gan farwolaeth ei fam. Ordeiniwyd ef yn 1842, ond ni bu erioed yn fugail cydnabyddedig ar eglwys, oblegid yr oedd yn wrthwynebol i fugeiliaeth ymysg y Methodistiaid Calfinaidd. Yn 1853 symudodd o'r Gwindy i Dyn-llwyn, Pentir (Bangor), fferm fawr ond a oedd wedi cael ei hesgeuluso. Ond yr oedd y perchennog yn Geidwadwr, a throwyd John Owen allan yn 1869 am bleidio Love Jones Parry o Fadryn yn etholiad 1868. Methodd gael fferm arall a oedd wrth ei fodd, felly aeth i gadw banc ym Mhorthmadog, ond ni bu'n llwyddiannus yno, a chymerth fferm Caenewydd yn Llangybi; eithr yn 1873 cafodd fferm helaeth a da Penyberth, ar stad Madryn. Bu farw yno 17 Mai 1876; claddwyd ym mynwent Tai-duon, Pant Glas, Eifionydd.
Ystyrid John Owen yn bregethwr da, ond 'sych' ac athrawiaethol. Eithr gŵr oedd ef, meddir, 'â chanddo ar y mwyaf o heiyrn yn y tân.' Fel y dengys ei hanes yn 1868, yr oedd yn Rhyddfrydwr selog; cyhoeddodd nifer o lythyrau, 'Rhyddfrydiaeth Cymru'; ac y mae ei enw wedi tyfu'n symbol, yng nghof ei sir, o'r dadeni gwleidyddol. Ond efallai mai fel arloesydd amaethyddiaeth wyddonol yng Ngwynedd yr oedd yn bwysicaf. Yr oedd mentr ac egni anarferol ynddo - gormod o'r ddau ar ei les personol. Dau fater a oedd yn agos at ei galon oedd gwella ansawdd tir a gwella magwraeth anifeiliaid. Caeodd ac adeiladodd, 'sychodd ugeiniau o aceri, a diwylliodd ugeiniau eraill,' yn Nhyn-llwyn, ar ei gost ef ei hunan - a chollodd yr elw ar ei waith. Talai sylw mawr i wartheg duon Cymreig, ac yma eto elwodd eraill, ym mhobman yng Nghymru, wedi iddo ef adael Tyn-llwyn, ar y gwelliannau yn ei fuches. Sgrifennai ar amaethyddiaeth i'r Traethodydd, a chyhoeddodd yn 1860 Detholiad, Magwraeth, a Rheolaeth y Da Byw mwyaf priodol i Dywysogaeth Cymru. Disgrifir ef fel dyn tal, bras ei gam, difri, a thawedog.
Ei fab ifancaf oedd
Ganwyd yn y Gwindy fis Gorffennaf 1849, a bu farw yng Nghricieth 15 Ebrill 1917. O ysgol y Garth (Bangor) a'r Liverpool Institute, aeth i Goleg y Bala yn 1867; dechreuodd bregethu ym Mhentir, ac aeth i Brifysgol Edinburgh, lle y graddiodd yn M.A. Ar 30 Mawrth 1875 sefydlwyd ef yn fugail y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghricieth, ac er iddo gael gyrfa helbulus iawn fel bugail, yng Nghricieth y bu farw 15 Ebrill 1917. Sgrifennai yntau lawer - gydag 'Alaw Ddu' (W. T. Rees), cyhoeddodd yn 1880 Traethawd ar Fywyd ac Athrylith John Roberts, 'Ieuan Gwyllt.' Ond yr oedd hefyd wedi etifeddu diddordeb ei dad yng ngwyddor amaethyddiaeth, ac wedi cael cryn brofiad o weithio ar diroedd ei dad; 'ar hyd ei oes, anian ffermwr oedd ynddo.' Bu yng Nghanada yn chwilio am gyfleusterau i ymfudwyr Cymreig. O 1892 hyd 1896 yr oedd yn ddarlithydd cynorthwyol mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg y Gogledd ym Mangor, a bu'n teithio Gwynedd i ddarlithio i'r ffermwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.