REES, WILLIAM THOMAS ('Alaw Ddu '; 1838 - 1904)

Enw: William Thomas Rees
Ffugenw: Alaw Ddu
Dyddiad geni: 1838
Dyddiad marw: 1904
Rhiant: Mary Rees
Rhiant: Thomas Rees
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 29 Medi 1838 mewn pentref o'r enw Pwll-y-glaw, ger Pontrhydyfen, Morgannwg, mab Thomas a Mary Rees a hanoedd o Drelales ger Penybont-ar-Ogwr. Yn 1851 symudodd y teulu i Aberdâr. Gan iddo golli ei dad yn fachgen, aeth y mab i weithio i'r pwll glo. Yn Aberdâr daeth o dan ddylanwad ' Ieuan Gwyllt ' a cherddorion eraill a drigai yno, a chynhyddodd ei wybodaeth gerddorol. Yma hefyd y priododd yn 1859. Symudodd i'r Dinas, Cwm Rhondda, yn 1861, ac yma y cyfansoddodd ei dôn ' Glanrhondda.'

Yn 1864 aeth i Bontypridd i fyw, a bu'n arwain y canu yn Penuel (Methodistiaid Calfinaidd). Yn 1868 cafodd swydd gan yr arglwyddes Llanover yn Abercarn, a bu'n arwain y canu yng nghapel yr arglwyddes tra y bu yno. Ar gais eglwys y Trinity (Methodistiaid Calfinaidd), Llanelli, symudodd yno yn 1870, a phenodwyd ef yn arweinydd canu yr eglwys. Sefydlodd Gymdeithas y Philharmonic yn y dref, ac am gyfnod hir bu'n arwain cymanfaoedd canu a beirniadai mewn eisteddfodau ar hyd a lled Cymru.

Bu'n olygydd Y Gerddorfa, 1872-79; Yr Ysgol Gerddorol, 1878-9; Cyfaill yr Aelwyd , 1880-81 (gyda J. Ossian Davies); Cerddor y Cymry, 1883-94; Cofiant Ieuan Gwyllt (gyda J. Owen, Cricieth), ac ysgrifennodd lawer i'r cylchgronau ar faterion cerddorol. Enillodd yn eisteddfod Llundain, 1887, ar y traethawd, ' Pa fodd i godi safon cerddoriaeth offerynnol yng Nghymru.' Cyfansoddodd oratorio, ' Ruth a Naomi,' a ' Brenin Heddwch '; cantawdau, ' Llywelyn ein Llyw Olaf,' ' Cantre'r Gwaelod,' a'r ' Bugail Da,' etc.; motet, ' Gweledigaeth Ioan ' (a enillodd y wobr yn eisteddfod Conwy, 1877); pedair ' Requiem '; casgliadau o gytganau, anthemau, salm-donau. Bu ' Y Gwlithyn ' a ' Ffynnon ger fy Mwth ' yn boblogaidd. Cyfansoddodd ugeiniau o donau hefyd. Erys ei dôn ' Glanrhondda ' ymhlith y rhai a arferir yn gyson gan yr holl enwadau crefyddol.

Bu farw 19 Mawrth 1904, a chladdwyd ef ym mynwent Capel Newydd, Llanelli.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.