DAVIES, JOHN OSSIAN (1851 - 1916), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur

Enw: John Ossian Davies
Dyddiad geni: 1851
Dyddiad marw: 1916
Rhiant: Phoebe Davies
Rhiant: Daniel Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Thomas Mardy Rees

Ganwyd yn Pendre, Aberteifi, 10 Tachwedd 1851, yn fab i Daniel a Phoebe Davies. Dechreuodd fel argraffydd a newyddiadurwr, bu'n golygu Y Fellten ym Merthyr Tydfil, a daeth yn ysgrifennydd Cymdeithas Ddirwestol De Cymru. Dechreuodd bregethu ym Merthyr Tydfil ac aeth i Goleg Coffa Aberhonddu (1873). Cafodd ei wahodd i ddilyn William Rees ('Gwilym Hiraethog') yn Lerpwl, eithr dewisodd dderbyn galwad i'r Tabernacl (Cymraeg), Llanelli, 1876. Symudodd yn 1880 i Herbert Place (Saesneg), Abertawe; oddi yno aeth i Tollington Park, Llundain (1883). Yn 1888 aeth i Bournemouth, a thra y bu yno codwyd capel mawr Richmond Hill. Dychwelodd i Lundain yn 1897 i fod yn weinidog Paddington Chapel. Cyhoeddodd bregethau o dan y teitlau - Old yet ever new, 1904, a The Dayspring from on High, 1907. Bu farw 24 Medi 1916, yn Shortlands, Kent.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.