Ganwyd Arglwyddes Llanofer ar 21 Mawrth 1802, yr ifancaf o chwe merch Benjamin Waddington (1749-1828), Tŷ Uchaf, Llanofer yn Sir Fynwy, a'i wraig Georgina (ganwyd Port, 1771-1850; gor-nith Mary Delaney, 1700-1788). Fel ei chwiorydd a fu fyw, Frances ac Emelia, derbyniodd Augusta Waddington addysg eang, gan gynnwys y clasuron, ieithoedd modern, hanes, daearyddiaeth, celf a cherddoriaeth, ond hefyd bynciau megis cadw tŷ ac economeg. Priododd y gwleidydd a'r diwygiwr Benjamin Hall ym 1823, gan uno stadau cyfagos Llanofer ac Aber-carn. Erbyn hyn yr oedd y teulu wedi teithio'n eang ym Mhrydain Fawr ac Ewrop, a'i chwaer Frances wedi priodi barwn Christian Charles Josiah von Bunsen, hanesydd, cennad Prwsia i lys y Frenhines Victoria 1838-1852, a Cheltgarwr.
Cafodd diddordeb Arglwyddes Llanofer yn yr iaith Gymraeg a thraddodiadau Cymru ei hybu'n gynnar gan gyfaill ei mam, y Foneddiges Elizabeth Coffin Greenly (1771-1839) o Titley Court, Sir Henffordd, gwraig rugl ei Chymraeg, noddwraig Edward Williams (Iolo Morganwg) ac un o sefydlwyr Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni. Anodd dweud pa mor rugl ei Chymraeg oedd Arglwyddes Llanofer, ond ffafrïodd gyflogi Cymry Cymraeg fel gweision, mynnodd wasanaethau Cymraeg yn eglwys Llanofer, a sicrhaodd fod y Gymraeg yn cael ei dysgu yn nwy ysgol Llanofer. Er mwyn hybu addysg Gymraeg noddodd y Welsh Collegiate Institution yn Llanymddyfri o adeg ei sefydlu ym 1847, cynorthwyodd Evan Jones (Ieuan Gwynedd) yn ei waith o gychwyn y cylchgrawn merched Y Gymraes, a rhoddodd gefnogaeth ariannol i Daniel Silvan Evans pan oedd yn paratoi ei eiriadur aml-gyfrol. Gan gyfuno ei Phrotestaniaeth frwd â'i chariad at y Gymraeg, gwaddolodd ddwy eglwys Galfinaidd, capeli Rhyd-y-meirch ac Aber-carn, ble y cynhaliwyd gwasanaethau yn y Gymraeg, ond ar sail litwrgi y Llyfr Gweddi Gyffredin. Yn ffyddlon i'w hegwyddorion dirwestol, troes dafarndai'r ardal yn westai dirwestol. Yn anad dim, daeth Llys Llanofer, plasty Tuduraidd newydd y teulu, yn ganolbwynt diwylliannol Cymraeg yn sir Fynwy a thu hwnt, gan ddenu tramorwyr â diddordeb yn yr ieithoedd Celtaidd megis y Llydawyr Alex François Rio a Theodore de la Villemarqué, a'r Almaenwr Friedrich Carl Meyer, yn ogystal â chasglwyr ac ysgolheigion fel Thomas Price (Carnhuanawc), Maria Jane Williams, Lady Charlotte Guest, a John Jones (Tegid) a John Williams (ab Ithel). Cynyddodd nifer yr ymwelwyr ar ôl 1857, pan brynodd Arglwyddes Llanofer gasgliad llawysgrifau Edward Williams (Iolo Morganwg) oddi wrth ei fab Taliesin Williams (Taliesin ab Iolo) er mwyn ei ddiogelu i'r genedl.
Y mae cyfraniadau mwyaf arhosol Arglwyddes Llanofer yn gysylltiedig â'r eisteddfodau a gynhaliwyd gan Gymdeithas Cymreigyddion y Fenni rhwng 1834 a 1853. O dan ddylanwad sefydlwyr megis y Foneddiges Coffin Greenly a Thomas Price (Carnhuanawc), y daeth i'w adnabod yn 1826, ymunodd Arglwyddes Llanofer â'r Cymreigyddion ym 1834, llai na thri mis wedi sefydlu'r gymdeithas. Cyd-drefnodd a noddodd gyfres o ddeg eisteddfod liwgar, yr adroddwyd yn helaeth amdanynt yn yr Illustrated London News a phapurau newydd Cymru, ac ariannodd gystadleuthau, yn enwedig ym meysydd canu'r delyn deires a thecstiliau Cymreig. Dan ei dylanwad, noddodd aelodau eraill ei chylch gystadleuthau llenyddol ac ieithyddol a ddenai gyfranogiad rhyngwladol, o'r Almaen a Ffrainc gan mwyaf, ac a ddyfarnwyd gan ysgolheigion adnabyddus megis James Cowles Prichard a Thomas Price (Carnhuanawc). Felly datblygwyd gan Gymreigyddion y Fenni y traddodiad eisteddfodol a atgyfodasid yn y 1790au, a chynigient barhad iddi i'r 1850au; hybent ysgolheictod Cymreig ym meysydd llenyddiaeth, hanes ac ieithyddiaeth drwy'r cystadleuthau; hyrwyddent ganu'r delyn deires, gasglu a pherfformio cerddoriaeth Gymreig gynhenid; a hybent werthfawrogiad y diwydiant brethyn Cymreig. Yn Eisteddfodau'r Fenni hefyd ceir dechreuadau'r mudiad Pan-Geltaidd yng Nghymru. Sefydlwyd y Welsh Manuscripts Society gan aelodau Cymreigyddion y Fenni, yn eu plith Arglwyddes Llanofer.
Arglwyddes Llanofer oedd un o brif hyrwyddwyr y delyn deires fel offeryn cenedlaethol yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn delynores fedrus ei hun, atgyfododd y traddodiad o gadw telynor teulu drwy gyflogi John Wood Jones (1800-1844) o tua 1826, ei ddisgybl Thomas Gruffydd (1815-1887) y dywedir iddo hyfforddi deunaw telynor o 1844, ac yno ei ferch, Susannah Berrington Gruffydd Richards (1854-1952), a dderbyniodd gyflog misol fel athrawes y delyn gan y teulu y tu hwnt i farwolaeth Arglwyddes Llanofer. Dros sawl degawd, rhoddwyd ysgoloriaethau i nifer o ddisgyblion i'w galluogi i ddysgu canu'r delyn yn Llanofer. Gwnaethpwyd y delyn deires, neu'r delyn Gymreig, yn offeryn swyddogol Eisteddfodau'r Fenni gan Arglwyddes Llanofer, a pharhaodd i gynnal cystadleuthau canu'r delyn deires yn Llanofer ym 1863 a 1869, yn Abertawe ym 1883, ac fel rhan o 'eisteddfod brotest' Caerwys ym 1886. Hyd at ddiwedd ei hoes, noddwyd bron pob cystadleuaeth ganu'r delyn deires gan Arglwyddes Llanofer, gan roi offerynnau gwerthfawr neu arian ar gyfer hyfforddiant yn wobrau. Gohebodd a chydweithiodd yn y maes gyda dynion megis Henry Brinley Richards a Dr Joseph Parry. Comisiynodd offerynnau hefyd i'w roddi i delynorion haeddiannol, ond hefyd i'r bonedd, a hyd yn oed y Tywysog Albert ifanc, y cyflwynwyd telyn iddo a perfformiad arni ym Mhalas Buckingham yng Ngorffennaf 1843.
Yr oedd gwaith Arglwyddes Llanofer yn hybu'r delyn deires yn rhan o'i chonsyrn dros barhad traddodiadau cynhenid fel rhan annatod o ddiwylliant cenedlaethol y Cymry. Cedwid traddodiadau'r Fari Lwyd a'r Plygain yn Llanofer, a chystadlodd ei chôr, Cantorion Llanofer, mewn eisteddfodau, a pherfformiodd ganeuon gwerin gartref ac yn Llundain. Bu'r dawnsfeydd a gynhaliwyd yn Llanofer ar gyfer gweision ac eraill yn gyfrwng parhau traddodiad y ddawns werin Gymreig a chwalwyd bron yn llwyr gan Anghydffurfiaeth. Perfformir 'Rîl Llanofer' hyd heddiw. Cynorthwyodd, noddodd a chyfeiriodd y Foneddiges Coffin Greenly ac Arglwyddes Llanofer waith y casglwr alawon gwerin Maria Jane Williams, Aberpergwm. Enillodd ei chasgliadau gystadlaethau Eisteddfodau'r Fenni ym 1837 a 1844. Cyhoeddwyd hwy fel Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg ym 1844, a diolch i ddylanwad Arglwyddes Llanofer dros Maria Jane Williams, yn ogystal â thros Taliesin Williams a John Jones (Tegid), yr ymddangosodd yr alawon gyda geiriau Cymraeg, yn hytrach na rhai Saesneg fel y bwriedai'r gasglwraig ifanc.
Deilliodd enw barddol Arglwyddes Llanofer, 'Gwenynen Gwent', a'i dylanwad parhaol dros ddyluniad y wisg Gymreig, o Eisteddfod Frenhinol a Gŵyl Gerddorol Dyfed a Mynwy, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Awst 1834. Enillodd gystadleuaeth y traethawd gorau ar 'The Advantages resulting from the Preservation of the Welsh Language and National Costumes of Wales'. Ar y cyd â'r albwm National Costumes of Wales a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac a briodolir iddi gan rai, ffurfient y sylfaen i'r wisg genedlaethol Gymreig i ferched a menywod a welir mewn dathliadau cenedlaethol megis Dydd Gŵyl Dewi. Gwisgai Arglwyddes Llanofer y wisg Gymreig hon bob dydd Sul ac ar achlysuron cyhoeddus, roedd ei gweision yn gorfod ei gwisgo, a cheisiodd ei hybu ymhlith bonedd ei chylch, yn aflwyddiannus gan mwyaf. Ei nawdd i gystadlaethau am samplau'r wlanen neu'r brethyn gorau, wedi eu gweu neu eu lliwio yn y siec neu'r stribedi cenedlaethol, a gyflwynodd elfen o grefft i'r eisteddfod. Yn ei llyfr Good Cookery … and Recipes communicated by the Hermit of the Cell of St. Gover, 1867, a drefnodd fel sgwrs rhwng teithiwr a meudwy Llanofer am fwydydd a chwedlau Cymru, gwelir darluniadau o'i llaw yn dangos y bwyd, ac hefyd lluniau lliw o wisgoedd traddodiadol merched Cymru. Gan gofio dyled ei mam i Mary Delaney, golygodd Autobiography and Correspondence of Mrs. Delaney mewn chwe chyfrol a ymddangosodd ym 1861 a 1862.
Wedi'r ysgytwad o golli ei gŵr Benjamin Hall yn ddisymwth ym 1867, ac yn diflasu â Seisnigrwydd cynyddol Eisteddfod Frenhinol Genedlaethol Cymru, enciliodd yn raddol o fywyd cyhoeddus. Bu farw Arglwyddes Llanofer yn ei chartref ar 17 Ionawr 1896 a chladdwyd hi ym meddrod y teulu ym mynwent eglwys St Bartholomew, Llanofer. Ceir adroddiadau o'i chynhebrwng a'r prosesiwn o gannoedd o alarwyr mewn sawl papur newydd â'r ffocws ar nodweddion Cymreig a'r defnydd o'r Gymraeg yn y seremoni.
Yr unig blentyn o'r briodas a fu fyw oedd Augusta Charlotte Elizabeth Herbert (1824-1912), a briododd Arthur Jones o Lanarth yn Sir Fynwy (o hen deulu Pabyddol a gymerodd yr enw Herbert ym 1848) ar 12 Tachwedd 1846. Efelychodd ei mam fel noddwraig y diwylliant Cymreig. Roedd yn rhugl ei Chymraeg a mabwysiadodd yr enw barddol 'Gwenynen Gwent yr Ail', gan groesawu beirdd ac ysgolheigion i Lanofer o'r 1890au, yn eu plith y cenedlaetholwyr, beirdd a Phan-Geltiaid François Jaffrennou, Émile Hamonic a Theodore Botrel. Parhaodd y traddodiad o hyrwyddo'r delyn deires. Ym 1902 noddodd gyhoeddi y Manual of Methods of Instruction for playing the Welsh Harp gan Ellis Roberts (Eos Meirion, 1819-1873), y llawlyfr cyntaf ar gyfer dysgu canu'r delyn deires. Perfformiodd ei 'Côr o Delynau Teires' mewn eisteddfodau o gwmpas 1900 ac yng Nghyngres Geltaidd Caernarfon, 1904. Ei mab, yr uwch-frigadydd Syr Ivor Herbert (1851-1934), barwn Treowen o 1917, a gyflwynodd gasgliad helaeth Arglwyddes Llanofer, Llawysgrifau Llanofer, i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sy'n ffynhonnell werthfawr hyd heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 2016-04-20
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.