JONES, EVAN ('Ieuan Gwynedd'; 1820 - 1852), gweinidog a newyddiadurwr

Enw: Evan Jones
Ffugenw: Ieuan Gwynedd
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1852
Priod: Rachel Jones (née Lewis)
Priod: Catherine Jones (née Sankey)
Rhiant: Catherine Jones
Rhiant: Evan Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog a newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Frank Price Jones

Ganwyd ym Mryn Tynoriad, ger Dolgellau, 5 Medi 1820, yn un o chwech o blant Evan a Catherine Jones. Yn 1824, symudodd y teulu i Ty Croes, Bontnewydd, Dolgellau. Iechyd gwael a gafodd ar hyd ei oes, ac oherwydd hyn yn ysbeidiol iawn y mynychodd ysgolion y Brithdir, Rhydymain, Llanfachreth, a Dolgellau rhwng 1826 ac 1836. Yn 1836 dechreuodd weithio gyda L. Williams, bancer, yn Nolgellau, ond buan y gwelwyd ei fod yn anaddas i'r gwaith. Rhwng 1836 a 1839 bu'n ceisio cadw ysgol yn Brithdir, Rhydymain, Llanwddyn, a Phenybontfawr. Methiant fu pob ymgais oherwydd diffyg cefnogaeth. Dechreuodd bregethu yng nghapel Sardis, Llanwddyn, 18 Mawrth 1838. Ym Mai 1839 cafodd le fel athro yn ysgol Dr. Daniel Williams ym Mangor, ond yn Hydref y flwyddyn honno penderfynodd fynd yn ddisgybl i ysgol y Parch. J. Jones, Marton, Sir Amwythig. Pan fu farw ei athro yn Nhachwedd 1840, cymerodd ' Ieuan Gwynedd ' ei le fel bugail yr achos yno, gan barhau i astudio dan arweiniad y Parch. T. Jones, Minsterley. Ym Medi 1841 derbyniwyd ef i athrofa Aberhonddu, lle y bu am bedair blynedd. Ar ddiwedd ei gwrs, urddwyd ef yn weinidog capel Annibynnol Saron, Tredegar, ym mis Gorffennaf 1845. Ym Marton, ar 11 Tachwedd 1845, priododd Catherine, merch John Sankey, Rorrington Hall, Marton. Ganed iddynt un plentyn, ond bu farw'n fuan wedi ei eni. Bu farw'r fam hithau 25 Ebrill 1847.

Ar ddiwedd 1847 ymddiswyddodd o'i ofal yn Nhredegar oherwydd afiechyd, a thua'r un adeg gorfu iddo wrthod y swydd o ysgrifennydd y Gymdeithas Ddirwest Genedlaethol, am yr un rheswm. Ym Mawrth 1848 symudodd i Gaerdydd i olygu The Principality, ond ymddiswyddodd ym mis Medi am ei fod ef a'r cyhoeddwr yn anghydweld ar gwestiwn derbyn arian y Llywodraeth i gynnal ysgolion. Y mis dilynol penodwyd ef ar staff The Standard of Freedom (cyhoeddwr, John Cassell) yn Llundain. Yn y swyddfa honno bu'n cynorthwyo gyda The Pathway, cylchgrawn i bobl ifainc, ac yn golygu Almanac y Cymru, 1849. Yn Rhagfyr 1848 priododd Rachel, pumed ferch y Parch. Walter Lewis, Tredwstan. Gorfu iddo ddychwelyd i Gaerdydd ddiwedd Awst 1849 oherwydd ei iechyd. Yno ymgymerodd â golygu Y Gymraes, dan nawdd arglwyddes Llanover, a'r Adolygydd, chwarterolyn. Methiant ariannol fu'r ddau, ac ymhen dwy flynedd trosglwyddwyd hwy i swyddfa D. Rees yn Llanelli, lle y bwriadwyd i ' Ieuan Gwynedd ' a Rees fod yn gyd-olygyddion. Bu farw 23 Chwefror 1852, a'i gladdu yn y Groes Wen.

Ysgrifennodd farddoniaeth a bu'n cystadlu droeon mewn eisteddfodau, ond erbyn heddiw ni chyfrifir bod fawr o gamp ar ei farddoniaeth. Ymunodd â'r mudiad dirwestol yn 1836 ac ar hyd ei oes bu'n cyfrannu erthyglau a llythyrau i amryw bapurau a chyfnodolion, Cymraeg a Saesneg, i hyrwyddo'r mudiad. Prif orchestwaith ei fywyd ydoedd amddiffyn Anghydffurfiaeth Cymru yn erbyn cyhuddiadau rhai Eglwyswyr, ac yn arbennig comisiynwyr y Llyfrau Gleision yn 1847. Ceir ei erthyglau ar y pwnc hwn yn y Shrewsbury Chronicle, Yr Amserau, The Nonconformist, John Bull, a'r Monmouthshire Merlin. Ailgyhoeddodd rai ohonynt yn bamffledi. Ysgrifennai'n rymus a dadleuai'n gadarn gan ofalu casglu llu o ffeithiau sicr ymlaen llaw; gweler Facts Figures and Statements in Illustration of the Dissent and Morality of Wales: an Appeal to the English People by Evan Jones (London, 1849), a hefyd A Vindication of the Educational and Moral Condition of Wales in reply to William Williams, Esq., Late M.P. for. Coventry by Evan Jones of Tredegar (Llandovery, 1848).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.