Ganwyd Charlotte Guest, merch Albermarle Bertie, 9fed Iarll Lindsey a'i ail wraig, Charlotte Susanna Elizabeth (gynt Layard), ym Mhlas Uffington, swydd Lincoln, ar 19 Mai 1812. Bu farw ei thad pan oedd yn chwe blwydd oed ac ailbriododd ei mam. Derbyniodd ei haddysg gartref a daeth gallu'r Fonesig Charlotte i astudio am gyfnodau hir a'i dawn at ieithoedd yn amlwg yn gynnar gan ei gwneud yn wahanol i'w dau frawd iau a'i hanner-chwiorydd. Dysgodd Arabeg, Hebraeg a Pherseg ei hunan. Dechreuodd gadw dyddlyfr pan oedd yn naw oed a gydag un bwlch o lai na phedair blynedd cadwodd hwn nes ei bod yn 79 gan ysgrifennu am hyd at awr bob dydd. Mae'n darn gwerthfawr o hanes cymdeithas.
Wedi cyfarfod (yn Llundain) â Josiah John Guest, y meistr gwaith haearn Cymreig ac AS Merthyr Tudful, priododd y Fonesig Charlotte, a hithau'n 21 oed, ag ef yn 1833. Gŵr gweddw oedd ef a rheolai Gwmni Haearn Dowlais, cwmni enfawr a oedd yn prysur ddatblygu i fod y gwaith haearn mwyaf yn y byd gyda thua 7000 o weithwyr. Nid oedd y Fonesig Charlotte yn hoffi ei llys-dad, Parchg Peter Pegus, a gwelai hi'r symud i Gymru'n ddihangfa ragluniaethol. Ymddiddorai yn y busnes, cymrai ddiddordeb byw ac egnïol yn lles a buddiannau gweithwyr o bob math a'u teuluoedd, trafodai faterion technegol gyda pheirianwyr a gwyddonwyr blaenllaw megis Charles Babbage a chyfieithodd i'r Saesneg bamffledyn Ffrangeg ar ddefnyddio chwythiad poeth. Ond ei gwaith cyfieithu mwyaf arwyddocaol, wrth gwrs, oedd yr hyn a alwai 'The Mabinogion'.
O fewn dyddiau wedi cyrraedd Dowlais, yr oedd wedi dechrau dysgu Cymraeg Canol, dan hyfforddiant y Rheithor, Evan Jenkins. Gan weithio gyda'r clerigwyr Cymreig, Parchgn Thomas Price ('Carnhuanawc') a John Jones ('Tegid') yn arbennig, a chan dynnu ar ymchwil wedi'i hysbrydoli gan yr adfywiad Rhamantaidd a gwaith cyfieithu William Owen Pughe, dechreuodd y Fonesig Charlotte gopïo a throsi i'r Saesneg un ar ddeg o chwedlau Cymraeg canoloesol o Lyfr Coch Hergest, sef pedair cainc y Mabinogi, tair Rhamant Arthuraidd (cydnabyddir mai'r Fonesig Charlotte oedd y cyntaf i sylwi ar eu cyfatebion Ewropeaidd) a phedair chwedl annibynnol. Cyfieithodd yn ogystal 'Ystoria Taliesin' o'r 16fed ganrif. Ymddangosodd ei chyfieithiad cyntaf (y chwedl Arthuraidd 'The Lady of the Fountain', 'Iarlles y Ffynnon') yn 1838. Un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach ymddangosodd y chwedlau oll dan y teitl 'The Mabinogion' mewn tair cyfrol ddarluniedig cyfoethog gyda nodiadau. Dros ganrif a hanner yn ddiweddarach mae'r ail gyfieithwraig yn dadlau fod y chwedlau hyn, oddi ar orchest y Fonesig Charlotte, 'wedi esgor ar eu bywyd eu hunain ac ennill eu lle ar lwyfan Ewrop a'r byd' (Sioned Davies).
Yn ystod y blynyddoedd hyn tra oedd yn cyfieithu ac yn paratoi ei chyhoeddiadau rhoddodd y Fonesig Charlotte enedigaeth i ddeg o blant, pump bachgen a phump merch. Ceisiodd wella eu statws cymdeithasol (er ei bod o dras uchel, ystyrid priodi i fyd masnach yn broblem er i John Guest gael ei wneud yn farwnig yn 1838). Er gwaethaf y ffaith nad hoff ganddi Gymdeithas Llundain, fe'i defnyddiwyd gan y Fonesig Charlotte i hybu statws ei theulu a bu caffael ystad yn swydd Dorset ynghyd â thŷ (Canford Manor), a ail-fodelwyd gan Syr Charles Barry, yn gymorth i symud y Guestiaid i ddosbarth y tirfeddianwyr. Yn 1880 gwnaed mab hynaf Syr John a'r Fonesig Charlotte yn Farwn Wimborne. Syr Charles Barry hefyd a gynlluniodd Ysgolion Canol Dowlais (a gostiodd £20,000 i'w codi). Rhan oeddynt o gynllun addysg trawiadol a blaengar i weithlu Dowlais, yn ymestyn o fabanod i oedolion, cynllun a aeth â llawer o amser y Fonesig Charlotte tua chanol y ganrif. Ymgymerodd ag amryw gynlluniau lles, dan gymhelliad ei chefnder, yr archaeolegydd Henry Layard.
Gyda marwolaeth Syr John Guest yn 1852 ymgymerodd y Fonesig Charlotte, a hithau'n unig ymddiriedolwr gweithredol, â rhedeg y gweithfeydd. Yr oedd y diwydiant haearn ar y goriwaered erbyn hyn ac yn haf 1853 bu rhaid i'r Fonesig Charlotte ymdrin â streic yn y gweithfeydd, sefyllfa lle'r oedd yn wynebu nid yn unig y gweithlu ond yn gorfod trafod gydag oligarchiaeth o feistri haearn nad oeddynt wedi arfer a delio â gwraig bwerus.
Yn Ebrill 1855 priododd Charles Schreiber o swydd Suffolk a oedd yn 14 blynedd yn iau na hi. Buasai ef yn diwtor i baratoi Ivor Guest, eu mab hynaf, ar gyfer Caergrawnt ac yr oedd yn ysgolhaig clasuron a ddaeth yn AS Torïaidd dros Cheltenham a Poole (er i'r Fonesig Charlotte gadw at ei chydymdeimlad Chwigaidd). Treuliodd y Schreibiaid lawer o'u bywyd priodasol ar y cyfandir yn casglu ceramwaith. Y mae eu casgliad o lestri tseina Seisnig o'r 18fed ganrif gyda'r gorau yn y byd. Galwyd y Fonesig Charlotte 'y fwyaf o'r casglwyr benywaidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg' (Ann Eatwell).
Goroesodd y Fonesig Charlotte ei hail ŵr a fu farw yn Lisbon yn 1884. Treuliodd ei blynyddoedd olaf yn Llundain yn catalologio ac yn ysgrifennu am ei chasgliadau. Aeth ei llestri tseina Seisnig i Amgueddfa Victoria ac Albert a gellir gweld rhan ohono yn ei Hystafell Schreiber. Hi a ysgrfennodd y catalog i gyd-fynd gyda'r tua 1800 darn a fu'n gymynrodd er cof am Charles Schreiber. Gwerthwyd ei tseina Ewropeaidd mewn ocsiwn ond cadwyd peth ar gyfer aelodau o'i theulu niferus. Derbyniodd yr Amgueddfa Brydeinig ei gwyntyllau o'r ddeunawfed ganrif, ei chardiau chwarae a gemau bwrdd. Disgrifiodd ei gwyntyllau lluosog, dail gwyntyllau a chardiau mewn pum cyfrol ffolio Fan and Fan leaves (1888-90), Playing Cards of Various Ages and Countries (1892-5), cyhoeddwyd yr olaf, wedi'i golygu gan Syr Augustus Wollaston Franks o'r Amgueddfa Brydeinig, ar ôl ei marw. Yn 1891 hi oedd y fenyw gyntaf i dderbyn rhyddfraint y Worshipful Company of Fanmakers.
Bu farw'r Fonesig Charlotte yn Canford Manor, swydd Dorset 15 Ionawr 1895 a chladdwyd hi yn eglwys Cranford. Yn 1950 a 1952 cyhoeddodd a golygydd ei hŵyr, Iarll Bessborough, ddetholion nodedig allan o'i dyddlyfrau helaeth. Mae'r dyddlyfrau gwreiddiol yn awr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.