JENKINS, EVAN (1799 - 1877), clerigwr

Enw: Evan Jenkins
Dyddiad geni: 1799
Dyddiad marw: 1877
Rhiant: Anne Jenkins
Rhiant: David Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 12 Ionawr 1799 yn y Waun Fawr ger Aberystwyth, yn fab i David ac Anne Jenkins. Mewn llythyr (11 Medi 1822) at esgob Llandaf, dywed ei fod y pryd hynny bron ar derfyn tair blynedd yn yr ' Usk Divinity School.' Cafodd urddau yn 1822 a 1823, a thrwyddedwyd ef yn gurad Trostre (sir Fynwy), ac yn 1823 yn gurad Monkswood hefyd. Yn 1827, rhoes ardalydd Bute iddo reithoraeth Dowlais. Ceir ef yn haf 1833 yn rhoi gwersi Cymraeg i'r arglwyddes Charlotte Guest ar ei dyfodiad i Ddowlais; a gwelir ei enw'n weddol fynych yn nyddlyfrau'r arglwyddes - yr oedd, fel hithau, yn elyn mawr i Fudiad Rhydychen ac yn dwyn mawr sêl dros ysgolion. Piwritan go lym oedd Jenkins, a thramgwyddodd yr arglwyddes dros dro gan wrthwynebu dawns a drefnwyd ganddi; bu hefyd ar hyd ei fywyd yn areithiwr gwresog ar ddirwest. Pan dorrodd helynt y Siarter (1839), daeth allan yn gryf yn erbyn y mudiad hwnnw; pregethodd bregeth (17 Tachwedd 1839) yn ei erbyn, a helaethwyd ganddo'n bamffled, Chartism Unmasked, 1840 - pamffled a aeth i 16 arg. beth bynnag, ond a fu'n achos ' a kind of feud ' rhyngddo a John Guest, oblegid anghymeradwyai'r meistr gwaith rai pethau yn y pamffled, a gwrthododd ei rannu ymysg ei weithwyr. Ystrydebol yw'r rhan fwyaf o gynnwys y pamffled, ond y mae manion diddorol ynddo - priodolir anniddigrwydd y werin yn bennaf i Ddeddf newydd y Tlodion, ei chyflwr moesol i'r arfer o dalu'r cyflogau mewn tafarnau, a'i chyflwr crefyddol i annigonolrwydd darpariaeth yr Eglwys Wladol ar gyfer y werin Gymraeg - tystia'r rheithor nad oedd gymaint ag un eglwys yn y Blaeneudir yn cynnal ei moddion yn gyfan gwbl yn Gymraeg. Wrth gwrs, ymosodwyd yn hallt ar 'offeiriad Dowlais' yn Udgorn Cymru, newyddiadur Cymraeg y Siartwyr (gweler dan John, David); ond enillodd glod mawr ar ôl hynny, yn 1849, am ei ddewrder pan ymwelodd y colera â'r fro - clafychodd ei hunan dano. Yn 1851 cafodd brebend yn eglwys Llandaf, ac ar adeg anhysbys rhoes archesgob Caergaint radd M.A. iddo. Yn 1862, cafodd reithoraeth Llangynyw ym Maldwyn; bu farw yn ystod yr wythnos 21-7 Ionawr 1877; claddwyd yn Llangynyw; gadawodd log o £10 i gymunwyr tlodion y plwyf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.