o St Clears, Sir Gaerfyrddin. Gadawodd yr Annibynwyr ac ymunodd â'r eglwys Undodaidd a ffurfiasid yn St Clears gan Benjamin Phillips; cafodd gymorth ariannol gan Undodwyr i ddyfod yn un o'u gweinidogion, ond ni fu mewn academi. Yn 1816 yr oedd yn gwasnaethu (gyda Benjamin Phillips) y gynulleidfa a ymsefydlodd yn Capel y Graig. Yn 1826 daeth yn weinidog yr eglwys Undodaidd yn Twynyrodyn, Merthyr Tydfil, lle y bu hyd 1847. Yr oedd ei ymlyniad wrth achos y Siartwyr a phethau cyffelyb yn peri rhwyg ar ôl rhwyg yn yr eglwys, ac achosodd hyn i'r cynulliad fygwth peri iddo golli ei swydd yn 1835; aeth yr eglwys ar chwâl a chaewyd y capel tua 12 mlynedd wedi hynny. Bu farw 15 Ionawr 1853, yn 71 oed, a chladdwyd ef yn Cefn Coed y Cymmer. Sefydlodd ysgol ym Merthyr Tydfil gerllaw ei efail; ynddi, ar y Suliau a chyda'r nos ar ddyddiau gwaith, dysgid pynciau a fyddai o fudd i weithwyr gyda'u gwahanol orchwylion.
Yr oedd ei feibion, DAVID JOHN a MATTHEW JOHN, yn flaenllaw ymysg y Siartwyr. Bu David John, a oedd yn danbaid ei natur fel Siartydd, yn gyd-gyhoeddwr (gyda Morgan Williams) Udgorn Cymru, 1840-2, papur Siartaidd, ac un Saesneg, The Advocate and Merthyr Free Press, 1840; pum rhifyn o'r un Saesneg a ymddangosodd. Bu'n cynrychioli Siartwyr siroedd Morgannwg a Mynwy yn y confensiwn yn Manchester, 1839.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.