WILLIAMS, MORGAN (1808 - 1883), siartydd

Enw: Morgan Williams
Dyddiad geni: 1808
Dyddiad marw: 1883
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: siartydd
Maes gweithgaredd: Gwrthryfelwyr; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Edward Ivor Williams

Ganwyd ym Merthyr Tydfil, mab Undodwr blaenllaw yn y dref honno. Daeth yn wehydd ac yn wneuthurwr gwlanenni; efe a wnai y dilladau arbennig - gwasgodau i ddynion a ffedogau i ferched - a. wisgid gan siartwyr Merthyr. Yr oedd yn aelod sylfaenol o'r ' Merthyr Subscription Library ' ac yn ysgrifennydd y ' Merthyr Working Men's Association' - efe, yn ddiau, oedd fwyaf ei dalent lenyddol ymhlith siartwyr y dref. Yr oedd yn un o'r pump a ddewiswyd i'r ' National Chartist Association ' yn 1841 a 1842, a bu yn y confensiwn yn Llundain yn 1842. Pan dorrodd y cythrwfl allan yng Nghasnewydd-ar-Wysg (fis Tachwedd 1839) digwyddodd ef fod i ffwrdd yn prynu gwasg i argraffu newyddiadur y siartwyr, Udgorn Cymru, a gyhoeddid ganddo ef a David John. Yr oedd ganddo gasgliad helaeth o lyfrau a gadawodd ran o'r casgliad i'r llyfrgell ym Merthyr. Erbyn adeg ei farwolaeth 17 Hydref 1883, yr oedd wedi bod yn gofrestrydd priodasau, etc., ym Merthyr am 30 mlynedd. Y mae ysgrif ganddo ar ' Iolo Morganwg ' yn y Red Dragon, ii.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.