Ganwyd yn Llangynidr, sir Frycheiniog, yn wŷr i reithor y plwyf. Dysgwyd ef gan John Wood Jones, ac er iddo golli ei olwg yn ifanc nid amharodd hynny ar ei ddawn. Aeth yn delynor i deulu Llanofer, sir Fynwy; gweithiai wrth ei dyddyn yn ogystal â dal y swydd hon a chwarae'r delyn a chanu penillion ar hyd sir Fynwy a Morgannwg. Enillodd delyn deir-res eisteddfod y Fenni, 1836, a bu'n gydradd â Richard Mills, Llanidloes, ar gyfansoddi 'tôn yn ôl dull arferedig peroriaeth yn y Dywysogaeth.' Aeth gyda'i athro i chwarae yn Buckingham Palace yn 1843, a T. Price ('Carnhuanawc') gyda hwy. Chwaraeodd Gruffydd nifer o weithiau yn Marlborough House, Llundain, hefyd. Yn 1867 ymwelodd â Llydaw; arhosodd gyda'r Comte de la Villemarqué, gŵr a fedrai Gymraeg, ac anrhegwyd Gruffydd â modrwy i ddathlu ei arhosiad yno. Cyhoeddwyd ei gân, ' Gwlad y Bardd.' Bu farw 30 Awst 1887, yn ei gartref, Tŷ'n-yr-eglwys, a chladdwyd ef ym mynwent yr eglwys yn Llanofer.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.