WOOD, sipsiwn Cymreig

Y mae wrth gwrs dylwythau eraill o sipsiwn yng Nghymru, megis Ingram, Boswell, a Lovell, ond haedda'r Woodiaid sylw arbennig, am ddau reswm. Yn gyntaf, mae'r tylwyth mor fawr a changhennog nes i'r ymadrodd 'teulu Abram Wd ' (mewn mannau 'teulu Alabaina) dyfu'n enw cyffredinol, ar lafar gwlad, am sipsiwn fel y cyfryw; yn Pleser a Gofid ' Twm o'r Nant,' e.e., hawlia ' Sal o'r Sowth ' ei bod hi'n perthyn i Abram Wood. Yn ail: am bron ddwy ganrif cafodd Cymru delynorion hynod o'r tylwyth hwn. Y brif ffynhonnell ar hanes y tylwyth yw'r Journal of the Gipsy Lore Society (chwilier am yr enw ' Wood ' yn yr adran. 'Names' o'r mynegeion i'r cyfrolau), ac yn bennaf oll gyfraniadau John Sampson (1862 - 1931), diweddar lyfrgellydd Prifysgol Lerpwl. Derbynir ei drefn ef ar y tylwyth yn yr ysgrif bresennol; ar gyfer y t. 200 o'r J.G.L.S. am 1934 argraffodd Sampson daflen fanwl a chymhleth o'r Woodiaid, a seiliwyd yn bennaf ar draddodiad llafar y tylwyth (eto gwarentir rhai dyddiadau gan gofrestrau plwyfol). Aeth rhai sgrifenwyr yn y J.G.L.S. ar ddisberod gan gredu'n ehud braidd fod pob ' Wood ' yng Nghymru 'n aelod o'r tylwyth hwn - Woodiaid yn Llanbrynmair o 1500 ymlaen (un ohonynt yn warden y plwyf yn 1697), Woodiaid parchus o fasnachwyr yng Nghaerfyrddin mor fore â 1630, hyd yn oed y Llundeiniwr Thomas Wood, cyrnol, ac aelod seneddol dros Frycheiniog.)

ABRAHAM WOOD (1699? - 1799), ffidlwr

Credid gynt mai o Frome yng Ngwlad yr Haf y daeth Abraham Wood a'i blant i Gymru, ond ymddengys bellach (J.G.L.S., 1931, 171-87) mai Abraham Wood arall oedd y gwr o Frome. Yn ôl ei or-wyr y telynor John Roberts o'r Drenewydd (1816 - 1894), a siaradai Romani 'n rhugl, daeth ein Habram ni i lannau Hafren (Llanidloes, Llanbrynmair, Machynlleth) 'ryw 200 mlynedd' cyn yr adeg yr oedd John Roberts yn sgrifennu. Eithr yn ôl Robert Roberts ' y Sgolor mawr ' yn Sir y Fflint a'i chyffiniau yr oedd y Woodiaid tua 1765-8 (31-5/6 yn hunangofiant Roberts). Canai Abram y ffidil, ond nid oedd yn delynor - yng Nghymru y dysgodd ei dylwyth ganu'r delyn. Dywedir ei fod yn 100 oed pan fu farw; y mae adeg ei farw'n berffaith hysbys - bu farw ar y ffordd gerllaw Llwyngwril, a chladdwyd yn Llangelynnin, 12 Tachwedd 1799; ' Abram Woods, a travelling Egyptian,' chwedl rhestr y plwyf. Enwir tri mab iddo, Valentine, William, a Solomon (soniai nain y Sgolor Mawr am ' Tom ' a ' Robin '), ac un ferch Damaris (a briododd ag un o'r Ingramiaid yng ngogledd Ceredigion). Nid ymdrinir yma ond â dau o'r meibion, ac â'r sawl o'u disgynyddion hwythau a fu'n delynorion adnabyddus. Fel yr awgrymwyd, y mae'r tylwyth yn niferus dros ben - ac yn ôl defod y sipsiwn, bu cryn ymbriodi rhwng ei wahanol geinciau.

(A) VALENTINE (neu JOHN) WOOD (tua 1742 - 1818), telynor

Mab hynaf Abram, a aned tua 1742, a briododd ag un o'r Bosweliaid, ac a gladdwyd, dan yr enw ' John Abraham Woods,' yn Llanfihangel-y-Traethau, 14 Ebrill 1818, 'yn 76 oed.' Dyma delynor cyntaf y tylwyth.

Plant iddo ef oedd

(1) ADAM WOOD (bu farw rhwng 1852 - 1857), telynor

Ganwyd yn Abergynolwyn. Roedd yn 90 oed pan gladdwyd ef tua Llanbedr-Pont-Steffan rywbryd rhwng 1852 a 1857. Meibion i hwn oedd

(a) JOHN WOOD JONES (1800 - 1844), telynor

Dywed rhai iddo gael ei eni ar fin y ffordd tuag Abermaw. Bedyddiwyd ef yn Llanfihangel-y-Traethau, 6 Ebrill 1800. Dysgodd ganu'r delyn gan ei dad a chan Richard Roberts o Gaernarfon (1769 - 1855), a thyfodd yn un o delynorion enwocaf ei dylwyth a'i wlad; ' John Jones ' y gelwid ef gan amlaf. Bu'n delynor i deulu Glanbrân ger Llanymddyfri (gweler dan ' Gwynne, Sackville '), yn cadw ysgol i delynorion yng Nghaerfyrddin dan nawdd ' Carnhuanawc,' ac yn ddiwethaf yn delynor i deulu Llanofer; yno y bu farw 12 Rhagfyr 1844.

(b) EDWARD WOOD (1838 - tua 1908), telynor

Ganwyd 26 Awst 1838, bu farw yn y Bala tua 1908 - gweler atgofion J. Glyn Davies amdano (Edward Wood a'r Dadgeiniaid ) yn Lleufer Haf 1952, tt.57-65.

(2) ALABAINA WOOD

Aeth ei henw'n enw ar sipsiwn yn gyffredinol mewn rhai ardaloedd. Argraffwyd manylion diddorol amdani gan J. Glyn Davies yn y Journal of the Gipsy Lore Society, 1929, 143-4.

(3) THOMAS WOOD

Ganwyd mewn ysgubor yn Llanybydder, a fu farw yn Rhuthyn yn 95 oed, ac a gafodd naw o blant; yn eu plith gellir enwi (a) ROBERT WOOD, telynor a welid yn aml yng Nglanbrân; (b) JEREMIAH WOOD, telynor, a gladdwyd yn Llanrwst; (c) ADAM WOOD, telynor (tad y telynor GODFREY WOOD), a gladdwyd yn Llanelwy; (ch) SAIFORELLA WOOD, mam y MATTHEW (' MATCHO ') WOOD y casglodd Sampson lawer o lên-gwerin y sipsiwn oddi ar ei wefusau - bu Matthew farw yn y Bala, 2 Mawrth 1929, 'yn 86 oed,' a chladdwyd yn Llanycil.

(4) JEREMIAH WOOD (neu WOOD JONES), 'Jerri Bach Gogerddan' (1778? - 1867), telynor

Telynor Plas Gogerddan am 51 mlynedd. Bu farw 27 Gorffennaf 1867 a chladdwyd yn Llancynfelin. O'i blant ef, bu (a) JEREMIAH, telynor, farw yn y Fenni yn 1878, daeth (b) JOHN yn olynydd i'w dad yng Ngogerddan, ond yn y Rhyl, tua 1870, y bu farw ac y claddwyd ef, a daeth (c) ELEANOR, ar ôl ymado â'i gwr cyntaf 'Dic Alabama,' yn wraig i'r telynor John Roberts o'r Drenewydd ac yn fam i lond ty o delynorion.

(5) ELLEN WOOD ('Neli Ddall'),

Mam BENJAMIN WOOD a fedyddiwyd yn Llanuwchllyn, 2 Mawrth 1831, ac a ddaeth yn delynor adnabyddus yng Nghaerfyrddin.

Ail fab yr hen ' Abram Wood ' oedd

(B) WILLIAM (gelwir ef gan rai yn THOMAS) WOOD

Hwn oedd tad (1) ARCHELAUS WOOD, disgybl cyntaf y telynor Richard Roberts o Gaernarfon; (2) WILLIAM WOOD, tad HENRY WOOD ('Harri Ddu') y telynor yn Llanidloes yr oedd ' Ceiriog ' mor gyfarwydd ag ef - tua 1883, ym Mhenrhyndeudraeth, y claddwyd Harri; a (3) SARAH WOOD - priododd hi â John Robert Lewis o Bentrefoelas (cefnder i'r almanaciwr John Robert Lewis), a mab iddynt hwy oedd John Roberts o'r Drenewydd.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.