Aelod o dylwyth mawr Gwynniaid Glanbrân ger Llanymddyfri (aeth y plas ar dân ers tro mawr, ond erys ei adfeilion); am y teulu'n gyffredinol gweler dan 'Gwynne o Lanelwedd.'
Yn ôl W. R. Williams (Old Wales , iii, 286-8), fe'i ganwyd tua 1751 - os felly, y mae'r cyfeiriadau ato, yn Llyfr Cerdd Dannau a llyfrau Cymraeg eraill, fel 'hen fonheddwr,' braidd yn gamarweiniol. Priododd, yn Nulyn yn 1772, â merch i un o denantiaid Glanbrân, heb i'w dad wybod, ac am hynny gadawyd rhan o'r stadau i'w frawd iau (1774). Bu farw ei wraig yn 1787; ailbriododd yntau yn 1793, ond bu farw yn 1794 cyn geni merch iddo yn Awst yn y flwyddyn honno.
Hynodrwydd Sackville Gwynne oedd ei hoffter o'r delyn. Tystia 'Bardd y Brenin' ei fod yn un o'r ddau ganwr gorau yn ei ddydd ar y delyn deires. Yr oedd hefyd yn noddwr telynorion - gweler e.e. dan 'Wood'; ac yng Nglanbrân y bwriodd y gwneuthurwr telynau John Richards (1711 - 1789) o Lanrwst ei flynyddoedd diwethaf (yn Llanfair-ar-y-bryn y mae ei fedd). Fel y gwelir yn yr ysgrif 'Wood,' daliodd nawdd telynorion yng Nglanbrân dan etifedd ysblennydd ac afradus Sackville Gwynne, o'r un enw ag ef.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.