Dywed ' Meurig Idris ' iddo gael ei eni yn Ardudwy, Meirionnydd, ond dywed John Parry ('Bardd Alaw') mai yng Nghefn Mein, Llŷn, y ganwyd ef. Collodd ei olwg yn 8 oed mewn canlyniad i effeithiau'r frech wen. Dysgwyd ef i ganu'r delyn gan y telynor enwog, ' Wil Penmorfa,' a daeth yn un o delynorion gorau ei gyfnod ar y delyn deir-res. Enillodd y delyn arian yn eisteddfod Wrecsam, 1820, a'r delyn aur yn eisteddfod Dinbych, 1828. Bu'n beirniadu llawer, ac ef oedd prif feirniad eisteddfod y Fenni, 1843, ac eisteddfod Rhuddlan, 1850. Dug allan yn 1829 y Cambrian Harmony yn cynnwys 30 o alawon, 20 ohonynt yn cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf. Dysgodd nifer o delynorion enwog i ganu'r delyn deir-res. Bu farw 28 Mehefin 1855, a chladdwyd ef ym mynwent Llanbeblig, Caernarfon.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Darllener (1769 - 1855). Gan fod John Parry ('Bardd Alaw'), yn cyfeirio ato yn 1808 fel telynor da iawn a fuasai'n casglu gwaith y beirdd ers blynyddoedd dylid derbyn 1769, y dyddiad a rydd R. Griffith yn Cerdd Dannau fel blwyddyn ei eni.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.