Ganwyd 1 Mawrth 1847 yn y Glog Ddu, Llangernyw, sir Ddinbych, mab John a Jane Griffith. Yn 1853 symudodd y teulu i fyw i ymyl Llanrwst. Eglwyswr oedd ei dad, a'r fam yn Fethodist. Cafodd ei addysg yn ysgol yr Eglwys, Llanrwst, ac wedi gadael yr ysgol bu'n gwasanaethu yng nghartref ' Glan Collen,' ac yn Eglwys-bach gyda'r Parch. John Rougler. Prentisiodd ei hun yn saer gyda Robert Roberts, Pandy Tudur, a bu'n dilyn ei alwedigaeth yn Llanrwst.
Yn fuan wedi 1870 aeth i Fanceinion i wasanaeth y ' Lancashire and Yorkshire Railway Co. ' fel saer. Yno daeth dan ddylanwad ' Ceiriog,' ' Idris Vychan,' R. J. Derfel, ac eraill, a bu ganddo ran amlwg yn sefydlu ' Cymdeithas Genedlaethol Cymry Manceinion.' Bu'n lletya gydag ' Idris Vychan,' a dysgodd ganddo ganu'r delyn a chanu penillion. Ei gyfraniad gwerthfawr oedd casglu defnyddiau y Llyfr Cerdd Dannau, a gyhoeddwyd yn 1913; cafodd gynhorthwy gan ei wraig - Isabella Davies, nith i ' Ap Vychan ' - i gyflawni'r gwaith.
Bu farw 8 Hydref 1909 a chladdwyd ef yn y Southern Cemetery, Manceinion.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.