THOMAS, ROBERT ('Ap Vychan'; 1809-1880), gweinidog ac athro diwinyddiaeth gyda'r Annibynwyr, bardd a llenor.

Enw: Robert Thomas
Ffugenw: ap Vychan
Dyddiad geni: 1809
Dyddiad marw: 1880
Rhiant: Dafydd Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog ac athro diwinyddiaeth gyda'r Annibynwyr, bardd a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awduron: Richard Griffith Owen, Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn y Tŷ Coch, Pennantlliw Bach, Llanuwchllyn, 11 Awst 1809, y trydydd o ddeg o blant; ei dad, DAFYDD THOMAS ('Dewi ap Didymus'; 1782 - 1863), o blwyf Llangower, a'i fam yn ferch y Tŷ Coch. Yr oedd Dafydd Thomas yn ŵr o athrylith ac wedi diwyllio'i hun ymhell y tu hwnt i'r cyffredin; ceir emynau o'i waith yn Caniedydd yr Annibynwyr; ymddangosodd peth o'i waith yn Cymru (O.M.E.), iv, a chyhoeddodd 'Ap Vychan' gofiant iddo, 1863. Gan na chaniatâi ei amgylchiadau iddo ddanfon ei blant i'r ysgol, hyfforddodd hwynt ei hunan ac ef a ddysgodd i 'Ap Vychan' ddarllen, ysgrifennu, etc., yn ogystal â'i ddisgyblu yn rheolau barddoniaeth. Symudodd y teulu i dŷ mwy a godasai ei dad, o'r enw Tan-y-castell, ac yn ei hunan-gofiant edrydd y mab am yr amseroedd enbyd a welodd ym more'i oes. Cyn bod yn 10 oed cafodd le fel hogyn cadw defaid gydag Evan Davies a'i briod yn y Tŷ Mawr yn ymyl ei gartref, aelwyd nodedig am ei chrefydd a'i moes, a chafodd yno argraffiadau nas dilewyd ar hyd ei oes. Michael Jones oedd gweinidog yr 'Hen Gapel,' ac yr oedd bri ar yr ysgol Sul yn yr ardal, ac ni bu'r llanc yn ôl o fanteisio ar bob cyfle i ennill gwybodaeth o bob math. Yn 14 oed medrai lunio englyn a daeth yn aelod o Gymdeithas Cymreigyddion Llanuwchllyn ar bwys y medr hwn. Ar 1 Mawrth 1826, rhoes Michael Jones gymorth iddo o gymynrodd y Dr. Daniel Williams i fechgyn tlawd ddysgu crefft ac aeth at Seimon Jones i efail y Lôn yn brentis gof. Ar derfyn ei gwrs yno bu chwe mis yn Nhŷ'n Cefn, ger Corwen, ac ym Medi 1829 troes ei wyneb tua'r De a bu'n gweithio yn Nhredegar a Dowlais, ond dychwelodd y flwyddyn ddilynol at ei hen feistr i'r Lôn am ychydig. Ym Mai 1830 symudodd i Groesoswallt i weithio gydag Edward Price, a chafodd gyfle yno i ymgydnabod â'r iaith Saesneg, ac yn y man ymaelododd yn yr eglwys Saesneg a oedd dan weinidogaeth y Dr. T. W. Jenkyn. Ymrodd i astudio gweithiau y Dr. Edward Williams, Fuller, Jonathan Edwards, ac eraill. Mynnai rhai iddo ddechrau pregethu gyda'r Saeson, ond symudodd i Gonwy ddechrau 1835 a'r haf dilynol pregethodd am y waith gyntaf a hynny yng nghapel Henryd gerllaw. Daeth yn fuan yn adnabyddus a chafodd alwad i Ddinas Mawddwy, ac urddwyd ef yno 19 Mehefin 1840. Yn 1842 symudodd i ofalu am eglwys newydd Salem, Lerpwl, a bu yno hyd 1848 pryd y symudodd drachefn i Rosllannerchrugog. Daeth i Fangor yn 1855 yn olynydd i'r Dr. Arthur Jones, a bu yno nes ei benodi yn 1873 yn athro diwinyddiaeth yng Ngholeg y Bala ac yn weinidog ar yr eglwys yno. Bu farw 23 Ebrill 1880, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llanuwchllyn.

Enillodd y gadair genedlaethol ddwywaith, y naill yn y Rhyl yn 1864 a'r llall yng Nghaerlleon yn 1866. Fel 'Ap Vychan' yr adnabuwyd ef ar ôl eisteddfod y Rhyl, gan mai dyna'r enw a ddefnyddiodd, a hynny ar bwys y ffaith ei fod yn hanu o gyff enwog y 'Vychaniaid'' o Gaergai, Llanuwchllyn. Golygodd Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau , a bu'n cydolygu'r Dysgedydd o 1865 i 1880. Ef oedd cadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1876. Daeth yn gynnar i fri fel pregethwr, a chadwodd ei boblogrwydd i'r diwedd â chanddo ddawn arbennig ar faes cymanfa. Mynnai mai 'Calfin cymedrol' oedd o ran ei ddaliadau.

Meddai bersonoliaeth gyda'r hawddgaraf, a phwysid ar ei farn a'i gyngor ar bob llaw. Ef, ond odid, yn unig a gadwodd ei enw da yn ddilychwin drwy holl 'helynt y cyfansoddiadau' ynglŷn â Choleg y Bala; a safodd wrth ochr ei gyfaill M. D. Jones i'r diwedd.

ELLIS THOMAS (1823 - 1878), bardd

Brawd i 'Ap Vychan'. Pan symudodd ei deulu i Feifod, Sir Drefaldwyn, bu'n gweithio ar ffermydd yn y sir honno, ac wedyn, fel gof, yn Rhuddlan a Kinsford (Sir y Fflint), ac yn Ellesmere, Sir Amwythig. Ymfudodd i U.D.A. yn 1852 ac ymsefydlu yn Utica, gan weithio fel gof ar reilffyrdd. Bu farw 5 Hydref 1878. Flynyddoedd lawer wedi ei farw cyhoeddwyd (yn Utica, 1900) ddetholiad o'i farddoniaeth o dan y teitl Caniadau yr Efail.

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.