Mab y Parch. Michael Jones. Ganwyd 2 Mawrth 1822 yn nhy'r Hen Gapel, Llanuwchllyn. Addysgwyd ef y ddechrau yn ysgol ei dad; yn 15 oed aeth yn brentis o ddilledydd i siop yn Wrecsam, ond ychydig fisoedd a fu yno. Yn 1839 aeth i Goleg Caerfyrddin i baratoi ar gyfer y weinidogaeth; wedi pedair blynedd yno aeth i Goleg Highbury yn Llundain. Yn 1847 ymwelodd ag America; urddwyd ef yno yn weinidog ar eglwys Gymraeg yn Cincinnati, Ohio. Ymddiddorodd yn helyntion y Cymry a ddylifai i'r wlad bryd hynny, a chymerth ran amlwg yn ffurfio Cymdeithas y Brython oedd â'i hamcan i gynorthwyo ymfudwyr o Gymru, a bu'n ysgrifennydd iddi. Wedi dychwelyd i Gymru ymsefydlodd yn 1850 yn weinidog y Bwlchnewydd a Gibeon, Sir Gaerfyrddin. Ar farwolaeth ei dad penodwyd ef yn olynydd iddo fel prifathro'r coleg a gweinidog ar eglwysi'r Bala, Tyn-y-bont, Bethel, Soar, a Llandderfel.
Gyrfa helyntus a fu iddo fel i'w dad, a gorfu iddo fynd drwy helynt ffyrnicach hyd yn oed na'r un y magwyd ef yn ei swn. Buan y daeth i wrthdarawiad ar fater llywodraethu'r coleg, ac o hynny y datblygodd y frwydr fawr a adnabyddir fel brwydr y Ddau Gyfansoddiad (1879-85), ac yr oedd anghydfod personol rhyngddo ef â rhai o wyr blaenaf yr enwad yn gymhleth â hi. Mynnai ef mai yn nwylo'r tanysgrifwyr at y coleg yr oedd y llywodraeth i fod, ond daliai ei wrthwynebwyr mai pwyllgor o gynrychiolwyr y cyfundebau sirol a ddylai fod â'r awdurdod i lywodraethu. Prif arweinydd yr wrthblaid oedd y Dr. John Thomas, Lerpwl, a fynnai, yn ôl M. D. Jones, bresbytereiddio'r enwad. Aeth y ddadl i'r eglwysi a bu cynnwrf drwy'r wlad ben bwy gilydd. Galwyd plaid M. D. Jones yn Blaid yr Hen Gyfansoddiad a'r blaid arall yn Blaid y Cyfansoddiad Newydd. Gwaethygid pethau'n ddirfawr drwy i M. D. Jones gymryd rhan mor flaenllaw yn y mudiad i sefydlu gwladychfa Gymreig ym Mhatagonia; cymhellid ef i hyn gan ei ysbryd cenedlaethol a'i wladgarwch a'r radicaliaeth a fagwyd ynddo gan ormes tirfeddianwyr Torïaidd Cymru. Ysywaeth, collodd arian lawer yn yr ymgyrch, a dirwasgwyd ef yn ei amgylchiadau, a chyhuddid ef am iddo werthu Bodiwan, ei gartref a'r lle y cynhelid y coleg, i'r pwyllgor er cwrdd â'r gofynion. Llwyddodd yr wrthblaid i basio'r cyfansoddiad newydd, ond gwrthodai yntau ei gydnabod ac mewn pwyllgor yn Amwythig (1879) - 'Pwyllgor y Torri Pen' - diswyddwyd ef fel prifathro. Am ysbaid ar ôl hynny bu dau goleg gan yr Annibynwyr yn y Bala, y naill dan ofal M. D. Jones ym Modiwan a'r llall, eiddo'r cyfansoddiad newydd, ym Mhlasyndre, dan ofal y Parch. T. Lewis, a symudwyd i Fangor yn 1886. Yn y diwedd llwyddwyd i uno'r ddau goleg ond caniatâwyd i M. D. Jones aros yn y Bala i ofalu am adran y flwyddyn gyntaf; ni olygodd hynny iddo newid modfedd ar ei safle. Ymddeolodd yn 1892 er hwyluso'r trefniant i gael un coleg ym Mangor a adnabyddir fel Coleg Bala-Bangor.
Yr oedd yn ymladdwr wrth natur, ac nid hawdd ganddo oddef i neb ei wrthwynebu; cenedlaetholwr pybyr - ef oedd tad y deffroad cenedlaethol Cymreig; ffieiddiai Sais -addoliaeth ac 'iddo ef ac Emrys ap Iwan yn fwyaf arbennig y mae'r clod am droi gwladgarwch Cymreig yn genedlaetholdeb egnïol ymarferol.'
Bu farw 2 Rhagfyr 1898, a chladdwyd ef ym mynwent Hen Gapel, Llanuwchllyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.