THOMAS, JOHN (1821 - 1892) gweinidog gyda'r Annibynwyr, gwleidyddwr, a hanesydd

Enw: John Thomas
Dyddiad geni: 1821
Dyddiad marw: 1892
Plentyn: Josiah Thomas
Rhiant: Mary Thomas
Rhiant: Owen Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, gwleidyddwr, a hanesydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd 3 Chwefror 1821 yng Nghaergybi, brawd hyn iddo oedd y Dr. Owen Thomas. Hanoedd ei dad o Landdeiniolen, Arfon, a'i fam o Fôn. Oherwydd prinder gwaith i'w dad fel lliniwr symudodd y teulu i Fangor yn 1827. Ar ôl ysbeidiau dan addysg gwahanol bersonau aeth i ysgol un Hugh Williams. Yn 1831 collodd ei dad a gorfu iddo fyned i weithio, ac aeth i siop groser. Wedi naw mis yno aeth yn brentis o grydd at un Dafydd Llwyd. Aeth wedyn oddi cartref i chwilio am waith a theithiodd rannau o Feirion, eithr seithug fu'r siwrnai. Yna aeth i Lerpwl a chafodd waith am rai misoedd, a derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn eglwys Bedford Street (Methodistiaid Calfinaidd). Pan ddychwelodd i Fangor yr oedd y wlad yn ferw gan y mudiad dirwestol a chymerth yntau ran ynddo; ynglyn â'r mudiad hwn y traddododd ei araith gyhoeddus gyntaf - yng Nghaerhun. Yn 1838 bu am rai misoedd yn cadw ysgol ym Mhrestatyn, eithr ei bennaf diddordeb oedd teithio'r wlad i annerch ar ddirwest. Ar gyfrif ei ddoniau ac yn arbennig ei hylithredd ymadrodd anogai llawer ef i ddechrau pregethu. Yn y cyfamser, fodd bynnag, aeth drwy argyfwng a droes gyfeiriad ei fywyd gan beri iddo ymadael â'r Methodistiaid ac ymuno â'r Annibynwyr. Yr oedd yn gydnabyddus iawn â'r Dr. Arthur Jones, gwr ag ynddo swyn rhyfedd i wyr ifainc o fath John Thomas. Fis Medi 1838 cymerth y cam pwysig o groesi at yr Annibynwyr. Bu am gyfnod yn athro yn ysgol y Dr. Daniel Williams, a gedwid gan y Dr. Arthur Jones. Dechreuodd bregethu yn 1839 ac aeth i gadw ysgol i Tabor, Penmorfa, Eifionydd, gan bregethu bob cyfle a gâi. Daeth i gryn sylw fel pregethwr ac yn haf 1840 aeth i Marton i ysgol a gadwai'r gweinidog yno er hyfforddi pregethwyr. Y flwyddyn ddilynol symudodd i ysgol Ffrwd-y-fâl; nid arhosodd yno ond ychydig fisoedd. Cafodd alwad i eglwys y Bwlchnewydd, Sir Gaerfyrddin, ac urddwyd ef yno 15 Mehefin 1842. Yn Chwefror 1850 symudodd i eglwys Glyn Nedd ac yn 1854 i'r Tabernacl, Great Crosshall Street, Lerpwl, lle'r arhosodd weddill ei oes. Bu farw yn Hen Golwyn, 14 Gorffennaf 1892, a chladdwyd ef ym mynwent Anfield, Lerpwl.

Daethai yn ifanc i reng flaenaf pregethwyr Cymru ac yn un o brif arweinwyr ei enwad, a chadwodd ei safle am hanner canrif. Yr oedd yn wr o feddwl praff ac o ynni diderfyn. Bu â rhan amlwg yn y mudiad dau-canmlwyddol i goffáu merthyron 1662, a arweiniodd i godi Coleg Coffa Aberhonddu. Rhoddasai ei fryd at gael un coleg i'r enwad a chythruddodd hynny bleidwyr y colegau eraill, yn enwedig Coleg y Bala, a bu hyn yn achlysur i brysuro 'Brwydr y Cyfansoddiadau' (1877-85) a rannodd yr enwad yn ddwyblaid, y naill dan ei arweiniad ef a'r llall dan arweiniad M. D. Jones.

Ni chyfyngodd ei ddiddordeb a'i lafur i faterion enwadol; ceid ef yn arweinydd gyda mudiadau cenedlaethol a pholiticaidd. Yr oedd yn ddadleuwr cyhoeddus dihafal ar bynciau'r dydd. At hyn oll yr oedd yn llenor a newyddiadurwr medrus. Cyffyrddir â'i waith fel hanesydd ei enwad yn yr ysgrif ar Thomas Rees (1815 - 1885). Ymwelodd ddwywaith ag U.D.A., 1865 a 1876, gan bregethu a darlithio yma a thraw er cyfnerthu'r bywyd Cymreig yno. Etholwyd ef i gadair Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1878 ac i gadair Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru yn 1885.

Golygodd fisolyn, Y Gwerinwr, 1855-6; Yr Annibynwr, 1857-61; Y Tyst (cydolygodd â 'Gwilym Hiraethog') hyd 1872 ac yna ei hunan hyd ei farwolaeth. Cyhoeddodd hefyd Traethodau a Phregethau, 1864; Cofiant y Tri Brawd (John, David, a Noah Stephens); Hanes Eglwysi Annibynol Cymru (cyd-awdur â T. Rees); Pregethau, 1882; Cofiant J. Davies, Caerdydd, 1883; Y Diwygiad Dirwestol, 1885; Cofiant Thomas Rees, 1888; Hanes yr Eglwysi, v, 1891; a nofel, Arthur Llwyd y Felin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.