Ganwyd 12 Chwefror 1776 yn Llanrwst. Hanoedd ei fam o deulu'r esgob William Morgan. Aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd i ddechrau. Bu am gyfnod ym more'i oes yn Lerpwl a bu'n cadw ysgol yng Nghapel Garmon ac yno y dechreuodd bregethu. Priododd yn wraig gyntaf ferch i ' Twm o'r Nant,' a buont yn byw yn Ninbych. Troes at yr Annibynwyr a chafodd alwad i Ebeneser, Bangor; urddwyd ef yno Ionawr 1810. Yn 1815 symudodd i Lundain i ofalu am eglwysi Woolwich a Deptford; yn 1823 dychwelodd i Fangor, ac yno y bu hyd 1854, pryd yr ymddeolodd a symud i Gaer i fyw. Bu farw Chwefror 1860 a chladdwyd ym mynwent Bethlehem, Talybont, ger Bangor.
Cafodd radd D.D. o Brifysgol Giessen, yr Almaen. O 1823 i 1854 cadwai un o ysgolion elusennol y Dr. Daniel Williams a symudasid i Fangor o Bwllheli ar farwolaeth Benjamin Jones. Cyhoeddodd Pynciau Athrawiaethol, 1838, a Rhetoric, neu Areithyddiaeth Ysgrythyrol, 1810. Cymerai ran amlwg yn nadleuon diwinyddol yn nechrau ei weinidogaeth; yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yng Nghymru i bregethu syniadau Edward Williams, Rotherham. Calfin cymedrol y cyfrifid ef. Galwyd ef i gyfrif gan ei gyd-weinidogion am rai o'i ddaliadau.
Ynglŷn â'r pwnc o lywodraeth eglwysig y daeth i amlygrwydd fwyaf - yn y ddadl fawr a adnabyddid fel ' Dadl y Cyfundebau Sirol neu'r Connexion,' dadl â'i gwraidd yng nghlwm wrth ddatblygiad Annibyniaeth yng Nghymru gyfan. Cyhuddid ef o unbennaeth fel gweinidog ar ei eglwys, yn ddeddf iddo'i hun ynglŷn â derbyn aelodau a chodi pregethwyr. Mynnodd godi i bregethu ŵr o gymeriad amheus fel ' Robin Ddu Eryri ' (R. Parry), a pharodd hyn i gymanfa Conwy o eglwysi Arfon yn 1838 (o dan arweiniad ' Caledfryn ') ei ddiarddel ef a'i eglwys a sefydlu eglwys arall ym Mangor, sef Bethel. Achosodd y ddadl ddiflastod mawr a chryn niwed i Annibyniaeth yn y sir. Er cryfed gwrthwynebydd oedd ' Caledfryn,' ni syflodd Arthur Jones ddim.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.