Ganwyd yn Wrecsam neu ei chyffiniau, ni wyddys yn iawn pa bryd, nac enwau ei rieni, ond yr oedd ganddo chwaer, Elizabeth (a fu farw 1728) yn briod â lledrwr a thirfeddiannwr yn Wrecsam o'r enw Hugh Roberts. Ni wyddys chwaith ddim am gwrs ei addysg; yr oedd yn bregethwr rheolaidd cyn bod yn 19 oed. Y tu allan i Gymru y bwriodd y cwbl o'i yrfa - y mae'n anodd credu mai ef oedd y ' Daniel Williams ' a gododd drwydded Bresbyteraidd yn Wrecsam yn 1672 dan Oddefiad Siarl II; yn un peth, yr oedd yn Iwerddon yn y cyfnod hwnnw, a hefyd ni sonia Philip Henry ddim am y peth. Fe ellid efallai gredu bod Williams wedi codi'r drwydded pan oedd ar ymweliad â'r dre. Adroddir ei hanes yn fanwl gan Alexander Gordon yn y D.N.B. fel nad yw'n ofynnol yma ond rhoi braslun ohono. Gweinidogaethai yn Iwerddon o tua 1664 hyd 1687, pan symudodd i Lundain, yn weinidog Hand Alley, Bishopsgate, ac yn ddirprwy achlysurol dros Richard Baxter fel ' darlithydd ' (pregethwr) yn Pinners' Hall. Pan fu farw Baxter (1691), cafodd y swydd honno, ond yn y storm a gododd o'i ymosodiadau ar uchel-Galfiniaeth Crisp a Chauncy, collodd hi. Un o ganlyniadau'r ffrwgwd (a Williams bellach wedi sefydlu 'darlith' gyfochrog Salters' Hall) fu ymddatodiad yr ' Happy Union ' a wnaethid yn 1690-1 rhwng y Presbyteriaid a'r Annibynwyr. Ymosodwyd yn ffyrnig ar Williams am ei ' Arminiaeth ' ('Baxteriaeth ' oedd hi, mewn gwirionedd), ac yng ngwres y frwydr ceisiwyd hefyd bardduo'i gymeriad moesol - yn ofer. Tyfodd yn arweinydd cydnabyddedig (swyddogol, yn wir) y ' Tri Enwad ' yn eu hymdriniaethau â'r wladwriaeth, ac ef oedd arweinydd eu hymweliadau ag Anne a Sior I, ar adeg dyfodiad y rheini i'r goron. Yn 1709, rhoes Edinburgh a Glasgow raddau D.D. iddo. Bu farw 26 Ionawr 1715/6 'yn 72 oed,' a chladdwyd yn Bunhill Fields. Dug ei ddwy briodas olud mawr iddo. Sgrifennodd lawer (rhestr o'i weithiau yn y D.N.B.); cyfieithwyd un o'i lyfrau, The Vanity of Childhood and Youth, 1691, yn Gymraeg - Gwagedd Mebyd a Jeuenctid , 1759. At ei gilydd, ni adewir arnom yr argraff ei fod yn ddyn hoffus.
Yn ei ewyllys, gadawodd bron y cwbl o'i arian (tua £50,000) at achosion da. Ond yn herwydd diffygion ffurfiol yn yr ewyllys, aed i ymgyfreithio yn ei chylch, ac nid cyn 1721, ac wedi newid peth arni, y daeth allan o'r pair. Nodir yma dri pheth a ddaeth ohoni: (1) sefydlu saith o ysgolion elusennol yng Ngogledd Cymru, gyda darpariaeth at brentisio'r disgyblion wedyn - trowyd y rhain yn ysgolion 'Brutanaidd' tua 1850, ond pan ddaeth Deddf 1870, a roddai'r ysgolion elfennol ar y trethi, crynhowyd gwaddol ysgolion Daniel Williams i godi ysgol breswyl i ferched, yn Nolgellau, a elwir hyd heddiw ' Dr. Williams's School '; (2) sefydlu ysgoloriaethau i ddarparweinidogion Ymneilltuol i fynd i Brifysgol Glasgow, ac ysgoloriaethau llai i fynd i academi Caerfyrddin; (3) sefydlu llyfrgell enwog y Dr. Williams yn Llundain - ond yn hyn o beth, datblygodd yr ymddiriedolwyr y cynllun ar raddfa lawer helaethach nag a amcenid gan Daniel Williams ei hunan.
Nid oedd Daniel Williams wedi anghofio Cymru, fel y dengys ei ewyllys - serch mai ei chwaer, Elizabeth Roberts, a fynnodd neilltuo peth o'r stad i dalu symiau blynyddol bychain (fe'u telir hyd heddiw) i weinidogion amryw o'r cynulleidfaoedd Ymneilltuol hynaf yn y Gogledd. Cadwai ei lygad ar Gymru, ac efe, yn 1690, a oedd yn gyfrifol am drefnu'r adroddiad ar Gymru i ddiben rhoi grantiau i'w gweinidogion allan o'r 'Common Fund' (gweler Gordon, Freedom after Ejection). Aeth llawer Cymro i Glasgow ar waddol Daniel Williams. Dylid nodi un canlyniad yng Nghymru o'r ffrae rhyngddo ef a'r uchel-Galfiniaid, sef hollti hen gynulleidfa enwog Wrecsam. Yn eu dicter at ymosodiadau Thomas Edwards o'r Rhual ar Daniel Williams, ymadawodd Presbyteriaid Wrecsam â'r gynulleidfa, a ffurfio'r 'New Meeting'; Daniel Williams a gododd dŷ cwrdd iddynt yn Chester-Street, a gwaddolodd hwy yn ei ewyllys. A gellir ystyried 'dadl Henllan Amgoed' (gweler dan 'Jeremy Owen') yn ganlyniad arall.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.