EDWARDS, THOMAS (1649 - 1700), Rhual, Sir y Fflint, dadleuwr Piwritanaidd

Enw: Thomas Edwards
Dyddiad geni: 1649
Dyddiad marw: 1700
Priod: Jane Edwards (née Davies)
Rhiant: Elizabeth Edwards
Rhiant: Thomas Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dadleuwr Piwritanaidd
Cartref: Rhual
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Tudur Jones

Ganwyd yn Rhual 9 Hydref 1649, yn fab i Thomas ac Elizabeth Edwards, Rhual. Ar 2 Awst 1672 priododd Jane, pumed merch Robert Davies, Gwysaney; ni bu iddynt blant.

Yr oedd Thomas Edwards yn aelod yn eglwys Ymneilltuol Wrecsam, ac yn y ddadl ynglyn â diwinyddiaeth Dr. Daniel Williams ochrodd gyda'r Annibynwyr yn yr eglwys gan bleidio uchel-Galfiniaeth. Ei brif gyfraniad i'r ddadl oedd y llyfr, The Paraselene dismantled of her Cloud or Baxterianism Barefac'd … (London, 1699). Derbyniodd fedydd credinwyr ar 4 Medi 1695 - N.L.W. (Rhual) MS. 80.

Bu farw 21 Rhagfyr 1700.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.