DAVIES-COOKE (TEULU), Gwysaney (Sir y Fflint), olynwyr Teulu DAVIES Llannerch (sir Ddinbych) a Gwysaney.

Disgyn teulu Davies Gwysaney yn ddifwlch o Gynric Efell (fl. 1200), yr hynaf o efeilliaid Madoc ap Meredith, tywysog Powys, yr hwn, pan fu farw ei dad, a etifeddodd arglwyddiaeth Egle, rhan o arglwyddiaeth Brwmffild, rhan o Riwabon, ac o Ystrad Alun Uwch Gwysaney (a elwid wedi hynny yn Molesdale). Gwraig Cynric oedd Golle, merch ac etifeddes Griffith ap Howel, a oedd yn bumed disgynnydd o Elystan Glodrydd.

Defnyddiwyd y cyfenw Davies gyntaf gan John ap David, a briododd Jane, gweddw Richard Mostyn, a merch Thomas Salisbury o Leadbroke, sir Fflint. Bu iddynt hwy dri o blant, sef dau fab, Robert a John, a merch, Catrin, a briododd Edward Morgan o'r Gelli Aur, Sir y Fflint. Ar 20 Ebrill 1581 derbyniodd ROBERT DAVIES (?- 1600), a etifeddodd ystad y teulu, sicrwydd gan Goleg yr Herodrwyr ynglŷn â phais arfau'r teulu. Priododd ef (1), Catherine, merch George Ravenscroft, Bretton, a (2), Elizabeth, gweddw John Haynes. Ganwyd i'w wraig gyntaf dri mab, ac ohonynt hwy bu'r ail, THOMAS DAVIES, yn is-gyrnol o dan Siarl I, yn gwnstabl castell Penarlâg yn 1643, ac yn ' was i'r Brenin Henry,' a chanddo ofal catrawd o dan Syr Charles Morgan, arglwydd-gadfridog y brenin Christian V o Denmarc (1646 - 1699). Y mae darlun o'r brenin o waith Cornelius Jonson ynghrog yng Ngwysaney, lle hefyd y trysorir nifer o lythyrau diddorol a sgrifennodd ef o'r Cyfandir. Cedwir yn Ll.G.C. gopïau o'r llythyrau hyn ac eraill o'i waith. Claddwyd ef yn yr Wyddgrug, 7 Mawrth 1655.

Dilynwyd Robert Davies gan ei fab hynaf, ROBERT DAVIES (1581 - 1633), a anwyd yng Nghaer, ac a fedyddiwyd yn eglwys S. Ioan yno ar 29 Gorffennaf 1581. Llanwodd swydd uchel-siryf sir Fflint, a bu hefyd yn ynad a dirprwy-raglaw y sir. Yn 1626 trosglwyddodd i Goleg Iesu, Rhydychen, yr hawl i ddewis offeiriad i eglwys Wenffrewi yn Sir y Fflint, i'r hon y bu ef yn noddwr. Priododd Anne, unig ferch ac etifeddes John Haynes, derbynnydd arian dros y frenhines Elizabeth yng Nghymru. Bu Robert Davies farw 27 Ionawr a chladdwyd ef yn yr Wyddgrug ar 29 Ionawr 1633; claddwyd ei wraig yn yr un bedd ag yntau, 31 Awst 1636.

Ganwyd eu hunig fab, ROBERT DAVIES (1616 - 1666), gŵr bonheddig a milwr, yng Ngwysaney, 19 Chwefror 1616. Pan nad oedd ond 15 mlwydd oed priododd, yn eglwys y plwyf, Gresford, sir Ddinbych, 29 Gorffennaf 1631, Anne, merch a chydetifeddes (gydag Eleanor, gwraig Kenrick Eyton, o Eyton, sir Ddinbych) Syr Peter Mutton o Barc Llannerch, sir Ddinbych, a'i ail wraig, Eleanor gweddw Evan Griffith o Bengwern, Sir y Fflint, a chwaer John Williams, archesgob Caerefrog. Trwy'r briodas yma unwyd llyfrgell werthfawr Llannerch a gynullwyd yn y fan gyntaf gan Gruffydd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan, a'r ystad a etifeddodd Syr Peter Mutton ar ôl Edward Gruffydd ab Ieuan, trydydd mab Gruffydd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan, â Gwysaney. Syr Peter yw awdur un o'r llythyrau Cymraeg cynharaf a gadwyd hyd ein dyddiau ni. Fe'i gyrrwyd o Lincoln's Inn ar 17 Ionawr 1604 i ddweud wrth ei fam am ei briodas gyntaf. Darganfuwyd y llythyr ychydig flynyddoedd yn ôl, pryd y benthyciwyd ef i L.G.C. i dynnu llun ohono, a'i gyhoeddi yn Cylchgrawn Ll.G.C., v, 220-1. 'Roedd Robert Davies newydd droi ei 17 mlwydd oed pan fu farw ei dad, ac yna gosodwyd ef o dan ofal ei dad-yng-nghyfraith a'i ewythr y cyrnol Thomas Davies. 'Roedd yn Frenhinwr pybyr, ac ar 12 Ebrill 1645 gwarchaewyd arno yn ei gartref yng Ngwysaney gan filwyr Syr William Brereton. Gellir gweld ôl y gwarchae hyd heddiw ar ddrws Gwysaney, a osododd ef i fyny yn 1640. Bu'n garcharor yng nghastell Caer yn 1658, ond rhyddhawyd ef oddi yno o dan orchymyn a arwyddwyd gan Cromwel ar 30 Mehefin, ac sydd yn awr ynghadw yng Ngwysaney. Bu'n uchel siryf sir Fflint yn 1644-6 a 1660, ac ymddengys ei enw ar restr y rhai y tybiwyd eu bod yn deilwng o'u gwneud yn Farchogion y Dderwen Frenhinol adeg yr Adferiad. Bu farw 4 Hydref 1666 a chladdwyd ef yn yr Wyddgrug. Bu iddo chwech o feibion a saith merch. Ei fab hynaf, MUTTON DAVIES (1634 - 1684), milwr, a'i dilynodd. Etifeddodd ef Barc Llannerch ar ôl ei fam, ac yno, yn oes Siarl II, lluniodd erddi prydferth i'w rhyfeddu, yn ôl patrymau a welodd ar ei deithiau milwrol yn Ffrainc a'r Iseldiroedd. Yn anffodus fe'u chwalwyd yn y 18fed ganrif, ond erys darluniau ohonynt eto yng Ngwysaney. Fel ei dad, dioddefodd yntau yn achos y brenin; fe'i carcharwyd yng nghastell Caer, o'r lle y'i rhyddhawyd am fis o'r 28 Ionawr 1659 gan y cyrnol Thomas Croxton, llywodraethwr y ddinas. Priododd Elizabeth, unig ferch Syr Thomas Wilbraham o Woodhay, sir Gaer, bu'n uchel siryf sir Fflint yn 1670, ac yn aelod seneddol dros y sir o 18 Tachwedd 1678 hyd 4 Mawrth 1681. Bu farw 29 Hydref 1684, a chladdwyd ef yn yr Wyddgrug. Ŵyr i Mutton Davies oedd yr offeiriad a'r bardd SNEYD DAVIES (1709 - 1769), y ceir ei hanes yn y D.N.B.

Dilynwyd Mutton Davies gan ei fab, ROBERT DAVIES (1658 - 1710), hynafiaethydd a naturiaethwr. Yr oedd ef yn ysgolhaig da, ac yn gasglwr llyfrau a llawysgrifau diwyd. Y mae llawer ohonynt yn awr ar fenthyg yn Ll.G.C., ac yn eu plith ' Llyfr Llan Daf,' llawysgrif enwog iawn a ddisgrifiwyd yn helaeth gan E. D. Jones yn Cylchgrawn Ll.G.C., iv, 123, et seq. Cafwyd adroddiad byr o gynnwys y casgliad hwn gan John Cordy Jeaffreson yn Appendix (418-26) to the Sixth Report of the Royal Commission on Historical Manuscripts, Part I, 1877-8, ac yn adroddiad blynyddol Ll.G.C. am 1946-7. Priododd Robert Davies Letitia, merch Edward Vaughan o'r Trawscoed, Sir Aberteifi, ac ŵyres Syr John Vaughan y prif farnwr. Bu farw 8 Gorffennaf 1710, a chladdwyd ef yn yr Wyddgrug. Priododd ei weddw Peter Pennant o Bychton a Downing, Sir y Fflint. Etifeddwyd ystadau Llannerch a Gwysaney gan ei fab, ROBERT DAVIES (1684 - 1728), a anwyd 2 Medi 1684. Bu ef yn uchel siryf sir Fflint, a phriododd Anne, merch John Brockholes, Claughton Hall, sir Gaerhirfryn. Y mae dau ddarlun o Robert Davies yng Ngwysaney. Bu farw 22 Mai 1728, a dilynwyd ef gan ei fab hynaf, ROBERT DAVIES (1710 - 1745). Priododd ef Letitia, merch Broughton Whitehall o Broughton. Gosododd eu mab a'u hetifedd hwy, JOHN DAVIES (1737 - 1785), a fu farw'n ddibriod, Llannerch a'r llyfrgell ar brydles o 15 mlynedd o 13 Tachwedd 1778 i William Davies Shipley, deon Llanelwy. Tua 1840 cyhoeddodd Syr Thomas Phillipps yn ei Middle Hill Press restr o lawysgrifau llyfrgell Llannerch a luniwyd gan T. Jeffreys, 21 Mehefin 1787, ynghyd â chrynodeb o gynnwys y brydles y cyfeiriwyd ati uchod. Claddwyd John Davies yn yr Wyddgrug, 27 Mawrth 1785. Gadawsai ei ystad i'w ddwy chwaer, Letitia a Mary. Fel ei chyfran hi derbyniodd Letitia ystad Llannerch, a phriododd Daniel Leo o Gaerfaddon. Bu hi farw 11 Rhagfyr 1801, yn 67 mlwydd oed, a gadawodd ei holl gyfoeth i'w chyfnither, Anne Elizabeth, merch ac etifeddes Peter Davies, a gwraig y Parch. George Allanson. Etifeddodd Mary ystad Gwysaney, a phriododd Philip Puleston, Hafod-y-wern, sir Ddinbych, siambrlen Gogledd Cymru. Bu iddynt un ferch, Frances, a briododd BRYAN COOKE, Owston, sir Gaerefrog, cyrnol trydedd gatrawd gwŷr traed gorllewin Efrog, ac aelod seneddol dros Malton. Bu'r Cyrnol Cooke farw 8 Tachwedd 1820, a dilynwyd ef gan Philip Davies Cooke, Owston a Gwysaney, uchel siryf sir Fflint yn 1824.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.