MUTTON, Syr PETER (1565 - 1637), barnwr a gwleidyddwr

Enw: Peter Mutton
Dyddiad geni: 1565
Dyddiad marw: 1637
Priod: Ellen Mutton (née Williams)
Plentyn: Anne Davies (née Mutton)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barnwr a gwleidyddwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Gwilym Arthur Usher

bu farw yn Llannerch, 14 Tach 1637. Yr oedd ei dad yn dir feddiannwr gweddol gefnog yn nyffryn Clwyd y buasai ei deulu yn amlwg ym mwrdeisdref Rhuddlan am ddwy ganrif, a daeth Peter neu Piers Mutton ei hun yn un o gyfreithwyr Cymreig mwyaf amlwg y 17eg ganrif. Addysgwyd ef yn S. Alban Hall, Rhydychen, a Lincoln's Inn, a derbyniwyd ef yn fargyfreithiwr ym mis Mehefin 1594. Trwy gydol ei yrfa chwaraeodd ran bwysig ym mywyd Lincoln's Inn. Cafodd ei apwyntio'n ddarllenydd yno am dymor Hydref 1625 a bu'n geidwad y Llyfr Du. Fel cyfreithiwr ac yn ddiweddarach fel barnwr, cadwodd ei gysylltiad â Chymru. Apwyntiwyd ef yn glerc y goron yn Ninbych a Threfaldwyn (1605) ac yn dwrne i'r brenin yng Nghymru a'r Gororau cyn 1609. Urddwyd ef yn farchog yn Whitehall, 5 Mehefin 1622, ar ei benodiad i fod yn brif ustus Môn. Yr oedd eisoes yn ŵr o ddylanwad yng ngogledd Cymru. Dug ei ail briodas, ag Ellen, chwaer John Williams, esgob Lincoln, ef yn ddiamau i gysylltiad agosach â materion cenedlaethol. Yn ogystal a bod yn aelod o'r Cyngor dros Gymru, etholwyd ef yn aelod seneddol dros sir Ddinbych (1604) a sir Gaernarfon (1624). Ni wyddys am unrhyw hanesion arbennig ynglŷn â'i yrfa wleidyddol, ac eithrio un stori (a ailadroddir yn aml), am araith a wnaeth yn y Tŷ yn cynnwys gwrthddywediad ysmala cofiadwy. Hwyrach mai ail iaith oedd Saesneg iddo, oherwydd, er bod teulu ei dad yn wreiddiol o Sir Amwythig, merch y bardd a llenor Cymraeg, Gruffydd ap Ievan o Lannerch, sir Ddinbych, oedd ei fam. Enillodd ei Gymreictod enwogrwydd damweiniol iddo fel ysgrifennwr un o'r llythyron personol cyntaf yn yr iaith Gymraeg sydd wedi goroesi. Ynddo rhydd esboniad i'w fam am ei briodas fyrbwyll â geneth amddifad, gyfoethog. Perthyn rhyw gymaint o bwysigrwydd hanesyddol i'r llythyr hwn am iddo gael ei ysgrifennu mewn cyfnod pan oedd yr uchelwyr Cymreig yn cael eu Seisnigeiddio. Drwy ewyllys ei ewythr, Edward Griffith o Lannerch, a fu farw 1601, etifeddodd Mutton y rhan fwyaf o'r ystad honno, rhan a gynhwysai lyfrgell werthfawr. Drwy briodas ei unig ferch, Anne, a Robert Davies (1616 - 1666), trosglwyddwyd yr ystad i deulu Davies, Gwysaney, Sir y Fflint, a daeth y llawysgrifau a'r llyfrau yn gnewyllyn y casgliad pwysig a gysylltir ag enw Robert Davies o Lannerch (1658 - 1710); gweler teulu Davies-Cooke

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.