PHILLIPPS, Syr THOMAS (1792 - 1872), barwnig (cr. 27 Gorffennaf 1821), hynafiaethydd, casglwr llawysgrifau, dogfennau, llyfrau, etc.

Enw: Thomas Phillipps
Dyddiad geni: 1792
Dyddiad marw: 1872
Rhiant: Hannah Judd (née Walton)
Rhiant: Thomas Phillipps
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd, casglwr llawysgrifau, dogfennau, llyfrau, etc.
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 2 Gorffennaf 1792 yn 32 Cannon Street, Manceinion, mab Thomas Phillipps (aelod o deulu a ymsefydlasai ers amser yn Broadway, sir Worcester) a Hanna Walton. Cafodd ei addysg yn ysgol Rugby ac yn University College, Rhydychen (B.A. 1815, M.A. 1820). Yn 1818 etifeddodd holl eiddo ei dad, yn cynnwys stad Middle Hill, sir Worcester.

Er yn fachgen buasai'n casglu'n ddyfal a chan fod ganddo ddigon o foddion bu'n hawdd iddo adael i'r gwanc casglu llawysgrifau, dogfennau, etc., gynyddu a pharhau i gynyddu. Dywed ef ei hunan paham yr oedd yn ofynnol casglu, ac ychwanega hefyd ei fod yn dilyn esiamplau y casglwyr mawr hynny, Syr Robert Cotton a Syr Robert Harley. Rhydd y D.N.B. fanylion am yrfa Syr Thomas Phillipps ac am y casgliadau niferus, gwerthfawr, ac amrywiol a bwrcasodd - bu'n crynhoi casgliadau a chyfrolau a dogfennau unigol (a llyfrau printiedig) o wahanol wledydd yn Ewrop a Phrydain (cafodd un o lawysgrifau gwaith ' Gerallt Gymro ' o'r Iwerddon); rhaid cyfyngu'r erthygl hon (gan i'r casgliad llawysgrifau rifo dros 60,000 o eitemau) a chyfeirio'n fras yn unig at gynnwys Cymreig y llyfrgell. Dechreuwyd gwerthu'r casgliad yn 1886 (ac nid ydys eto wedi gorffen gwerthu).

Yn 1895 prynwyd rhai o'r llawysgrifau Cymreig gan Lyfrgell Tref Caerdydd (gweler Reports on MSS. in the Welsh Language, Cardiff, ac adroddiadau printiedig pwyllgor Llyfrgell Dinas Caerdydd); yn eu plith yr oedd un o lawysgrifau llenyddol cynharaf Cymru, sef ' Llyfr Aneirin,' a ddaeth i feddiant Syr Thomas trwy Thomas Price ('Carnhuanawc') ac eraill (gweler Bulletin of the Board of Celtic Studies, xi, 109-12) wedi iddo grwydro o lyfrgell Hengwrt (gweler Robert Vaughan, Hengwrt). Rhoes Syr John Williams 108 o lawysgrifau Cymreig Middle Hill i'r Llyfrgell Genedlaethol, yn eu plith lawysgrifau Edward Jones ('Bardd y Brenin'); at y 108 hyn ychwaneger bellach (1951) y rhai canlynol: NLW MS. 1366, 1381, 1383, 1396, 1405-8, 1431, 1478, 1540, 1542, 3643, 3646, 5009, 5025-7, 5031, 5037, 5041-2, 7851, 12390-2, 14839-40.

Er mwyn hwylustod i ysgolheigion sefydlodd Syr Thomas Phillipps, c. 1822, ei wasg argraffu breifat ei hun yn Broadway Tower ar stad Middle Hill; yn 1862 symudwyd y llyfrgell a'r wasg i Thirlestaine House, Cheltenham. Cafwyd llu o gyhoeddiadau o'r wasg hon yng nghwrs y blynyddoedd, amryw ohonynt o ddiddordeb Cymreig - achau, rhestrau siryfion ac ustusiaid heddwch, siarteri, etc. Dyma esiamplau: Barddoniaeth gan hen awdwyr or Ancient Welsh poetry ; A Catalogue of the Manuscripts in Llannerch Library, taken June 21st 1787 ; Manuscripts at Porkington, the seat of William Ormsby Gore Esq. near Oswestry, co. Salop ; Will of Sir Richard Philipps, Bart., Baron Milford . (Dywedir fod Syr Thomas yn hawlio perthynas â rhai o deuluoedd 'Philipps' Sir Benfro a de-orllewin Cymru.) Gwyddys ei fod yn awyddus ar un adeg i'r casgliad gael cartref parhaol yng Nghymru ac iddo ymgynghori ag awdurdodau trefol Abertawe; tybiodd hefyd y gellid ail-doi castell Maenor Bŷr (Manorbier) yn Sir Benfro er mwyn gwneuthur y lle hwnnw yn addas i'w dderbyn.

Bu farw yn Thirlestaine House ar 6 Chwefror 1872 a'i gladdu yn hen eglwys Broadway; gadawsai'r plasty a'r llyfrgell, etc., i'w drydedd ferch o'r wraig gyntaf. Gweler hefyd yr erthygl, John Rowland ('Giraldus').

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.