Er nad yw prif sedd y teulu yng Nghymru, saif yn union y tu allan i ffin ogledd ddwyreiniol sir Faesyfed, hwy, am amser maith, oedd y prif bwer ym mywyd gwleidyddol y sir honno. Hefyd bu Brampton Bryan am ysbaid, yn ganolfan bwysig Piwritaniaeth gynnar Cymru.
Dywedir i deulu Brampton ymsefydlu yno (ar dir y Mortmeriaid) mor gynnar â theyrnasiad Harri I. Daeth i'r amlwg yn oes Brian de Brampton, (temp. Edward I), a briododd Mawd (Matilda), merch William (II) de Braose, a gweddw Rhosier Mortimer, 6ed arglwydd Wigmore. Yn 1302 priododd eu merch hwy, Margaret, Syr ROBERT DE HARLEY, siryf Henffordd, a ddaliai diroedd dan y Mortmeriaid yn siroedd Henffordd ac Amwythig. Mewn gwirionedd, o'r cysylltiad hwn â'r Mortmeriaid y tarddodd dylanwad teulu Harley yn sir Faesyfed y dyfodol, oherwydd yr oedd Maelienydd ac Elfael, a oedd i ddyfod yn brif ranbarthau'r sir honno, yn gynnar iawn ym meddiant y Mortmeriaid. Yn 1399 cawn fod BRIAN DE HARLEY, mab Syr Robert (a ymladdasai ym mrwydr Créci), yn ' custos ' Dinas a Blaenllyfni ym Mrycheiniog, yn ystod ieuenctid ac absenoldeb Edmund de Mortimer (1391 - 1425). Cafodd yr Harleiaid eu cyfle i wella eu safle o fewn Cymru, pan fforffediwyd tiroedd y Mortmeriaid tros dro, ac yn fwy fyth felly pan lyncwyd y tiroedd hynny yn derfynol gan diroedd y Goron, ar esgyniad Edward IV, un o deulu Mortimer, i'r orsedd. Yn ddiweddarach, yn 1601, prynasant hen faenor a chastell y Mortmeriaid yn Wigmore. Nid yn unig daeth maenorau yn sir Faesyfed i'w meddiant, ond rhoddwyd iddynt hefyd, o dro i dro, stiwardiaeth cantref Maelienydd (gogledd sir Faesyfed) - y tro cyntaf yn 1671, yna yn barhaus o 1691 hyd 1714, ac yn ddiweddarach, am ysbaid, ar ôl 1768. Drwy'r stiwardiaeth caent nid yn unig flwydd-dal (a gynhyddwyd o £100 yn arbennig i'r 'prif weinidog' Harley), ond hefyd yr hawl ar holl lysoedd y cylch a'u taliadau. Cynhelid llysoedd y bwrdeisdrefi er mwyn ethol bwrdeiswyr (h.y. pleidleiswyr mewn etholiadau seneddol) yn unig. Felly y llwyddodd yr Harleiaid i ennill iddynt eu hunain gynrychiolaeth y sir o 1698 hyd 1713 a sedd y fwrdeisdref yn 1604, 1614, 1647-8, 1660-79 a 1690-1715.
Eu prif wrthwynebwyr ym mywyd gwleidyddol sir Faesyfed oedd Lewisiaid Tre'r Delyn (am eu hach gweler Jonathan Williams, Hist. Radnorshire, 404-6) a oedd yn gryf ym Mhencraig (Old Radnor yn Saesneg), ac yn berchen maenor 'Radnor Forest' ar ôl 1650. Yn y 19eg ganrif cododd dau ŵr enwog (Syr T. F. Lewis a Syr G. C. Lewis o'r teulu hwn, ond yn gyffredinol ymddengys ei fod yn deulu go ddinod. Bu'r Lewisiaid yn cynrychioli'r fwrdeisdref mor gynnar â 1545 a 1547, a'r sir mewn pedair senedd yn ystod teyrnasiad Elizabeth, ond rhwng cyfnod Elizabeth a chyfnod Sior I ildiasant eu lle i deulu Harley. Fodd bynnag, ar ôl cwymp 'y prif weinidog ' Harley, daethant i'r amlwg eto yng nghynrychiolaeth y fwrdeisdref, a chadw eu blaenoriaeth hyd ail hanner y 18ed ganrif. Dylid astudio hanes etholiadau sir Faesyfed yn y cyfnod hwn yn W. R. Williams, The parliamentary history of the principality of Wales, a Namier, Structure of Politics at the Accession of George III (am etholiad 1761). Weithiau yr oedd yr Harleiaid (Toriaid) a'r Lewisiaid (Whigiaid) yn elynion agored, fel yn 1693, pan ddinoethwyd cleddyfau mewn ysgarmes rhwng y dyfodol 'brif weinidog' a dau o'r Lewisiaid yn strydoedd New Radnor. Bryd arall yr oeddynt yn gyfeillion, fel yn 1714, pan aeth un o'r Lewisiaid gydag un o'r Harleiaid i Hanover.
Yr oedd yr Harleiaid, ar y llaw arall, yn ddigon pwysig i fod yn destunau saith erthygl yn y D.N.B. Yn yr erthygl bresennol, fodd bynnag, ymdrinir yn bennaf a'u cysylltiadau â Chymru. Yr oedd THOMAS HARLEY (1548? - 1631) yn aelod o Gyngor y Gororau, a gwnaeth gais aflwyddiannus am stiwardiaeth Maelienydd. Yn 1601 prynodd Wigmore lle y ganed ei fab, Syr ROBERT HARLEY (1579 - 1656). Bu'r Robert hwn (aelod seneddol dros fwrdeisdref Maesyfed, 1604-11) yng ngholeg Oriel, Rhydychen, lle yr oedd Cadwaladr Owen (1562 - 1617) o Faentwrog, Sir Feirionnydd, yn athro arno (am Owen, gweler yr erthygl ar ei fab, Richard Owen, yn D.N.B.). Urddwyd Robert yn farchog yn 1603, bu'n aelod o Gyngor y Gororau, a bu'n Feistr y Mint, 1626-35 a 1643-9. Yn y Senedd Faith (pan oedd yn aelod dros sir Henffordd) yr oedd yn bleidiol i'r Piwritaniaid. Yr oedd yn Bresbyteriad selog ac yn eiconoclast. Dilynodd Pym (1643) fel aelod o Bwyllgor yr Assembly of Divines, a bu'n llywydd pwyllgor sir Faesyfed er cymryd trosodd diroedd y brenhinwyr. Gwnaeth hyn oll ef yn nod i'r brenhinwyr ymosod arno. Yn ystod ei absenoldeb yn Llundain, gwarchaewyd Brampton Bryan ddwywaith - unwaith yn aflwyddiannus am chwech wythnos yn 1643 pan amddiffynnwyd y lle gan yr Arglwyddes Harley, ac yna, (ar ôl marw'r Arglwyddes) yn 1644 pan syrthiodd y castell a'i losgi (yn osgystal â chastell Wigmore). Fel llawer o Bresbyteriaid eraill, fodd bynnag, ni fedrodd Harley ddilyn y mwyaf eithafol o'r Piwritaniaid yr holl ffordd, ac ar ddiwedd y flwyddyn 1648 carcharwyd ef am iddo bleidleisio tros geisio cytundeb â'r brenin. Collodd ei swydd yn y Mint hefyd yn 1649 am iddo ballu cynhyrchu arian heb lun y brenin arnynt. Bu farw 6 Tachwedd 1656, a chladdwyd ef yn eglwys Brampton Bryan, a ailadeiladesid ganddo ar ôl ei distrywio yn 1644.
Y mae ei drydedd wraig, BRILLIANA (CONWAY) - ganwyd yn Brill yn yr Iseldiroedd, c. 1600, - a briodasai yn 1623, yn adnabyddus yn annibynnol ohono ef, am y llythyrau a ysgrifennodd. Gwnaeth Harley Brampton Bryan a'r ardal oddi amgylch yn ddinas noddfa i weinidogion Piwritanaidd a gollasai eu bywoliaethau. Daeth felly yn noddwr i Walter Cradoc, Morgan Llwyd a Vavasor Powell. Yr oedd Brilliana Harley yn unfryd â'i gŵr yn ei wrthwynebiad i'r sefydliad Elisabethaidd (fel y profir gan ei hamddiffyniad cyndyn o Brampton, lle y bu farw Hydref 1643), ond ymddengys iddi deimlo bod Cradoc o leiaf (hwyrach yr unig un o'r tri Chymro a adwaenai'n bersonol) yn rhy eithafol. Ymdrinir â chysylltiad Brampton Bryan a Phiwritaniaeth gynnar Cymru gan J. H. Davies yn ei ragymadrodd i'w argraffiad o weithiau Morgan Llwyd (1908), gan Thomas Richards yn ei Hist. of the Puritan Movement in Wales (1920), ac yn ddiweddarach ac yn fanylach gan Geoffrey F. Nuttall yn y bennod gyntaf o'i lyfr The Welsh Saints, 1640-60, (Caerdydd, 1957). Dilynwyd Syr Robert gan ei fab hynaf, Syr EDWARD HARLEY (1624 - 1700), aelod seneddol dros fwrdeisdref Maesyfed, 1661-79, a Phresbyteriad yn ystod y Rhyfel Cartrefol. Gwasanaethodd tan Waller yn 1642 (a chael ei glwyfo), ac yr oedd yn gadfridog gwŷr meirch yn siroedd Henffordd a Maesyfed yn 1646. Cymodwyd ef â Siarl II, urddwyd ef yn farchog yn 1660, a bu'n llywodraethwr Dunkirk. Bu'n aelod seneddol naill ai dros fwrdeisdref Maesyfed neu dros sir Henffordd yn holl seneddau Siarl II. Er iddo gydymffurfio, gwrthwynebai ddeddfau Clarendon, ac yr oedd yn boblogaidd ymhlith yr Anghydffurfwyr; croesawodd William of Orange. Bu farw yn Brampton Bryan, 8 Rhagfyr 1700. Yr oedd yn awdur rhai gweithiau crefyddol.
O bedwar mab Syr Edward, yr oedd yr ail, EDWARD (1664 - 1735), yn awdur gweithiau crefyddol. Yr hynaf, Syr ROBERT HARLEY (1661 - 1724), ganwyd yn Llundain 5 Rhagfyr 1661, yn ddiweddarach iarll Rhydychen a Mortimer (1711), oedd yr aelod enwocaf o'r teulu o bell ffordd. Bu'n aelod seneddol dros fwrdeisdref Maesyfed, 1690-1711, yn Llefarydd Ty'r Cyffredin deirgwaith, Canghellor y Trysorlys (1710), ac yn Arglwydd Uchel Drysorydd (1711). Disgrifir ef hefyd yn anghywir fel ' prif weinidog '. Nid yw ei fywyd cyhoeddus, fodd bynnag, o fewn maes y gyfrol hon (gweler D.N.B., a'r bywgraffiad gan E. S. Roscoe, 1902). Daeth terfyn ar ei yrfa gyhoeddus pan ddiswyddwyd ef gan y frenhines yn 1714. Carcharwyd ef yn Nhŵr Llundain yn 1715, a gwnaed ymgais aflwyddiannus i ddwyn uchelgyhuddiad (to impeach) yn ei erbyn yn 1717. Bu farw 21 Mai 1724, a chladdwyd ef yn Brampton Bryan. Yn wahanol i'w dad a'i dadcu, nid oedd ynddo dueddiadau at Biwritaniaeth, ond eto cyfrifid ef gan Anghydffurfwyr fel cyfaill yn y Llys, ac nid oedd yn bleidiol i'r Schism Bill 1713. Ymddengys mai diogi ac anghymedroldeb oedd ei brif wendidau. Tueddai i ffafrio perthnasau, ond ni ellid ei lygru ag arian. O'i nawddogaeth i lenorion a'i gariad at lenorion a'i gariad at lyfrau y tyfodd (ymhlith pethau eraill) y casgliadau mawr a geir dan ei enw yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig. Cyflogai'r hynafiaethydd enwog Humfrey Wanley (gweler yn y D.N.B.) fel catalogydd a llyfrgellydd. Mae ar y sawl a astudia hanes Cymru ddyled drom i'r llawysgrifau a gasglodd Harley. Yn eu plith ceir, e.e., y llawysgrif enwog ' Harley 3859 ' yn cynnwys Nennius a'r Annales Cambriae. Ceir hefyd doreth o ddeunydd achyddol Cymreig, megis papurau'r herodr, Hugh Thomas. Disgrifiadau o lawysgrifau o gasgliad Harley a leinw'r cyfan o'r ail ran (1903) a llawer o'r drydedd ran (1908) o'r Catalogue of the Manuscripts relating to Wales in the British Museum a olygwyd gan Edward Owen dros Gymdeithas y Cymmrodorion. Ceir erthyglau annibynnol ar gaplan Cymreig yr iarll, Timothy Thomas (1694 - 1751), ac ar ei ysgrifennydd Cymreig, sef William (fl. c. 1685-1740), brawd Timothy.
Yr oedd unig fab yr iarll cyntaf, EDWARD HARLEY (1689 - 1741), yr ail iarll, yn gyfaill i Pope a llenorion eraill, a bu'n aelod seneddol dros fwrdeisdref Maesyfed o 1711 hyd 1715, pan drechwyd ef gan Thomas Lewis o Dre'r Delyn. Ni chwaraeodd ran amlwg mewn bywyd cyhoeddus, ond ychwanegodd lawer at lyfrgell ei dad, a werthwyd i'r genedl yn 1753 gan ei weddw. Darfuasai'r teitl yn 1741, onibai am y ffaith fod yna amod yn y breinlythyr gwreiddiol a'i trosglwyddai dan yr amgylchiadau i etifeddion gwrywaidd Syr Robert Harley, y cyntaf.
Yr oedd trydydd mab y trydydd iarll (gan Martha Morgan o Dredegar), THOMAS HARLEY (1730 - 1804) yn fasnachwr ac yn ddiweddarach yn fancer. Bu'n aelod seneddol dros ddinas Llundain (1761-74) ac yn arglwydd faer Llundain yn 1767, a daeth i wrthdrawiad â chefnogwyr John Wilkes. Gellir nodi i'w enw ymddangos ar restrau aelodau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1762 a 1778. Ceir tri chyfeiriad ato gan Richard Morris, a'i disgrifia fel 'a wine merchant and underwriter, who served his time with Mr. Boheme the merchant '. Ar wahan i'w aelodaeth o'r Cymmrodorion ac iddo fod yn arglwydd raglaw sir Faesyfed (1791-1804), ni wyddys am ddim a awgryma fod ganddo ddiddordeb arbennig yng Nghymru. Darfu'r teitl ar farwolaeth y 6ed iarll yn 1853; ond parhaodd y stadau ym meddiant ei chwaer a'u hewyllysiodd i Harley arall.
Gwraig Brian de Brampton oedd Eleanor, merch Robert de Hereford, ac nid gweddw Roger Mortimer (un a gymysgwyd â Maud de Braose a briododd Syr John de Brampton yn y 12fed ganrif).
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.