LEWIS, Syr THOMAS FRANKLAND (1780 - 1855), gwleidyddwr

Enw: Thomas Frankland Lewis
Dyddiad geni: 1780
Dyddiad marw: 1855
Plentyn: George Cornewall Lewis
Rhiant: John Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidyddwr
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Williams

Ganwyd 14 Mai 1780 yn Llundain, yn fab John Lewis, Harpton Court, ac felly'n deillio o deulu o nod ym mywyd cyhoeddus a seneddol sir Faesyfed. Daeth yn aelod seneddol dros Fiwmares yn 1812, a bu'n cynrychioli'r fwrdeisdref honno, Ennis (swydd Clare yn Iwerddon), a sir Faesyfed yn olynol hyd 1834. Rhoddwyd iddo rai o'r swyddi lleiaf gan weinyddiaethau Torïaidd - yn eu plith swydd trysorydd y llynges a roddwyd iddo gan y dug Wellington yn 1830 ar gyflog o £2,000 y flwyddyn - bu llawer o feirniadu ar y Llywodraeth oblegid yr apwyntiad hwn. Brasluniodd yr adroddiad nodedig, a gyhoeddwyd yn 1817, ar Ddeddf y Tlodion, sef yr adroddiad a ddaeth a gwendidau dybryd yr hen drefn a'r camddefnydd a wneid ohoni i sylw'r cyhoedd am y tro cyntaf. Canlyniad hyn ydoedd ei ddewis ef, yn 1834, gan ei wrthwynebwyr gwleidyddol, yn gadeirydd comisiwn newydd Deddf y Tlodion (ar gyflog o £2,000 y flwyddyn). Cymerodd ran flaenllaw ym mlynyddoedd cynnar y comisiwn, eithr ymddiswyddodd yn 1839, a chymerwyd ei le gan ei fab, George Cornewall Lewis. Oherwydd ei brofiad helaeth cafodd ei ddewis yn 1843 yn gadeirydd comisiwn cythrwfl Beca; gwrthododd gymryd tâl am y gwasanaeth hwn. Bu'r comisiwn hwn yn gwrando tystiolaethau mewn amrywiol fannau yn Ne Cymru rhwng 25 Hydref a 13 Rhagfyr, a gwnaeth ei adroddiad ar 6 Mawrth 1844. Gwnaethpwyd Lewis yn farwnig ar 27 Mehefin 1846. Aeth yn ôl i'r Senedd fel aelod dros fwrdeisdrefi Maesyfed yn 1847, a daliodd y swydd nes y bu farw yn Harpton Court ar 22 Ionawr 1855. Yr oedd yn weinyddwr medrus, eithr nid oedd gallu eithriadol ei fab enwog ganddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.