LEWIS, Syr GEORGE CORNEWALL (1806 - 1863), gwleidyddwr

Enw: George Cornewall Lewis
Dyddiad geni: 1806
Dyddiad marw: 1863
Rhiant: Thomas Frankland Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidyddwr
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Williams

Ganwyd yn Llundain, 21 Ebrill 1806, mab hynaf Syr Thomas Frankland Lewis. Cafodd ei addysg yn ysgol Eton ac yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, a derbyniwyd ef yn fargyfreithiwr yn 1831. Bu'n gweithredu ar amryw gomisiynau ymchwil y Llywodraeth; yn 1839 dilynodd ei dad fel comisiynwr o dan Ddeddf y Tlodion ('Poor Law Commissioner'). Bu'n gyfrifol i raddau helaeth iawn am y ' Poor Law Amendment Act,' 1841. Pan sefydlwyd y ' Poor Law Board ' yn 1847 - ac yr oedd Lewis yn cydolygu â chymryd y cam hwn - daeth ei swydd ef i'w therfyn. Daeth yn aelod seneddol dros swydd Henffordd yr un flwyddyn; bu'n dal tair swydd nad oeddynt yn bwysig; eithr collodd ei sedd yn 1852. Yna daeth yn olygydd yr Edinburgh Review, 1852-5. Pan fu ei dad farw fe'i dilynodd yn aelod seneddol bwrdeisdrefi Maesyfed, a daeth ar unwaith yn ganghellor y trysorlys yng ngweinyddiaeth gyntaf Palmerston (1855-8). Yn ail weinyddiaeth Palmerston bu'n ysgrifennydd cartrefol ac wedyn yn ysgrifennydd rhyfel. Bu farw yn Harpton Court, 13 Ebrill 1863, yn 56 oed. Ceir rhestr o'i gyhoeddiadau niferus yn y D.N.B. ' The most rapid political rise of our time ' oedd disgrifiad Walter Bagehot o'i yrfa.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.