THOMAS, TIMOTHY (1694 - 1751), clerigwr ac ysgolhaig

Enw: Timothy Thomas
Dyddiad geni: 1694
Dyddiad marw: 1751
Rhiant: Thomas Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

mab Thomas Thomas, ‘gent,’ Llanymddyfri. Aeth o Ysgol Westminster i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen (ymaelodi 4 Gorffennaf 1712, B.A. 1716, M.A. 12 Mawrth 1718/19, B.D. a D.D. 1735). Bu am gyfnod yn gaplan i Robert Harley, iarll Oxford, a dyfod trwy hynny i adnabod Humphrey Wanley, llyfrgellydd yr iarll; yr oedd ei frawd William Thomas, yng ngwasanaeth yr iarll hefyd. Dyn cymharol ieuanc ydoedd pan ofynnwyd iddo gwpláu golygu argraffiad newydd (London, 1721; y mae'n ffolio fawr) o waith Geoffrey Chaucer y methodd John Urry (bu farw 1715) a Thomas Ainsworth (bu farw 1719) ei orffen; gwaith Timothy Thomas yw y rhagair a'r eirfa, a'i frawd, William Thomas, ysgrifennydd iarll cyntaf Oxford, a gywirodd ac a ychwanegodd at hanes bywyd Chaucer (gan John Dart) a argreffir yn y gyfrol. Ceir llawer o gyfeiriadau at Timothy Thomas yn llawysgrifau dug Portland (gweler y mynegeion i Hist. MSS. Comm., Report on Portland MSS.), o'r pryd yr oedd yn ‘student’ yn Christ Church, yn gaplan i'r iarll, ac y cafodd (yn 1727, gan yr ail iarll) reithoraeth Llanandras yn sir Faesyfed, sir yr oedd cysylltiad rhwng yr Harleiaid a hi. Yn Llanandras ymgyfeillachai â Sneyd Davies, offeiriad Kingsland (gweler yr erthygl ar deulu Davies-Cooke, Gwysaney), gan gynorthwyo hwnnw i drosi i'r iaith Ladin beth o waith Alexander Pope, bardd y daeth i'w adnabod drwy gyfrwng ei gyfathrach â'r Harleiaid. Dyfynna John Davies (Bywyd a Gwaith Moses Williams, 96-7) ran o lythyr Cymraeg a anfonodd Moses Williams, 16 Ebrill 1719, at Timothy Thomas; yn hwnnw y mae Moses Williams yn galw William Thomas, brawd Timothy, yn ‘Gwilym Gwalstawd Ieithoedd’ (B.M. Harl. MS. 7013). Yn B.M. Han. MS. 7526 ceir rhestr a lyfrau yn llyfrgell iarll 1af Oxford yr oedd Timothy Thomas yn eu hawlio — yn eu plith y mae ‘The Statutes of St. Davids, MS. Folio’ (B.M. Harl. MS. 6280 yn awr), llawysgrif y cawsai Timothy Thomas ei benthyg ac a roddwyd yn fenthyg ganddo yntau i'r iarll. Bu farw 17 Ebrill 1751 a'i gladdu ‘in his cathedral,’ medd Foster (Christ Church, Rhydychen ?).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/