Ganwyd yn Rhaeadr Gwy, yn fab i David Williams, brethynnwr yn y ' Siop Goch ' meddai ' Gwilym Lleyn ' (Brython, 1861, 163). Cafodd David Williams dri mab o glerigwyr. Yn ôl yr ach ar t. 400 o'r Hist. of Radnorshire (arg. 1905), yr hynaf oedd JOHN WILLIAMS, ond os yw Foster yn gywir (ac y mae peth sail dros ei amau, h.y. dros ddyfalu bod Foster wedi cymysgu dau John Williams), nid aeth i Rydychen cyn 1786, ymhell ar ôl ei frodyr iau - cafodd mab iddo, yntau'n John Williams (1797 - 1873), yrfa ddisglair yn Rhydychen, yn gymrawd ac yn swyddog yn Christ Church. Yr ieuengaf o'r brodyr oedd HENRY WILLIAMS (1756 - 1818), a raddiodd o Christ Church, Rhydychen, yn 1778; dywedir mai ef a sgrifennodd yr adran ar Raeadr Gwy yn nheithlyfr Nicholson, ond nid oes arwydd o hynny yn y llyfr; gadawodd arian mewn 'trust' i Brifysgol Rhydychen i waddoli 'lectureship' (math o guradiaeth) gwerth £48 yn y flwyddyn, yn eglwys Rhaeadr. Yr ail fab oedd Jonathan Williams; fe'i ganwyd, yn ôl Foster, yn 1754, ond yn ôl carreg ei fedd, yn 1752 neu 1753. Aeth yn 1770 i Goleg Pembroke yn Rhydychen, a graddiodd yn 1774. Penodwyd ef yn athro (cyntaf) ysgol ramadeg Llanllieni, gyda churadiaeth barhaol Eyton y tu allan i'r dref. Priododd yn Llanllieni, a chafodd ddwy ferch - daeth un ohonynt yn wraig i'r cyfreithiwr adnabyddus John Jones o'r Cefnfaes (Rhaeadr). Cyhoeddodd History of Leominster. Ar ôl 1818, daliai'r swydd yn eglwys Rhaeadr Gwy a waddolwyd gan ei frawd Henry (daliwyd hi wedyn gan ei nai John Williams, a enwyd uchod). Bu cryn gamddeall ynghylch blwyddyn ei farwolaeth; edrydd Foster iddo farw 24 Awst 1821 - gan ddibynnu ar y Gentleman's Magazine, 1821, ii - ond Jonathan Williams arall oedd hwnnw. Yn ôl carreg ei fedd (yn Eyton), bu farw 19 Awst 1829, 'yn 77 oed,' ac ategir hyn gan y Gentleman's Magazine, 1829, ii, 377, lle y cofnodir marw ' John ' Williams ar 19 Awst, 'yn 76 oed' - y mae'n amlwg mai Jonathan oedd hwn, oblegid fe'i disgrifir fel athro Llanllieni a churad Eyton.
Bwriadai Jonathan Williams gyhoeddi llyfr ar hanes sir Faesyfed. Y mae yn llyfrgell dinas Caerdydd lythyrau ganddo (1818-21, dyddiedig yn Llanllieni) at W. J. Rees, Casgob, yn sôn am ei anawsterau'n cael hyd i ddogfennau, a'r digalondid a barodd iddo adael y gwaith heb ei orffen; ond gadawodd lawysgrif helaeth i'w ferch briod. Argraffwyd rhannau o'r gwaith yn Archæologia Cambrensis (gan ddechrau yn 1855), a'u cyhoeddi'n gyfrol ar wahân yn 1859. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyflawn, gyda chwanegiadau, gan Edwin Davies yn Aberhonddu 1905, gyda darlun o Jonathan Williams. Prin, efallai, fod yr History of Radnorshire gyda'r goreuon, ond y mae'n ddefnyddiol ddigon, a dylid cofio'r anawsterau a rwystrodd i'w awdur ei wneud gystal ag y bwriadai.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.