Ganwyd yn Old Parr's Cottage, ger y Trallwng, Mawrth 1859. Symudodd ei deulu i Aberhonddu pan nad oedd efe ond plentyn, ac fe'i prentisiwyd ef am saith mlynedd i'r gwaith argraffu a chyhoeddi. Ysgrifennai'n gyson i'r Wasg leol, yn enwedig ar bwnc dirwest a bleidiai yn selog. Daeth yn oruchwyliwr ar y busnes argraffu lle bu'n brentis, ac yn ddiweddarach daeth hwnnw'n eiddo iddo. Bu'n golygu a chyhoeddi 'r Brecon and Radnor County Times am 12 mlynedd. Priododd Hannah Eleanor Blissett (bu farw Chwefror 1929), a bu iddynt saith o feibion a phedair merch. Yn y blynyddoedd diweddaraf arferai enw'i wraig yn ei fusnes - ' Blissett Davies and Co. ' Ei gyfraniad pennaf i lenyddiaeth Cymru oedd ailgyhoeddi llyfrau ar hanes siroedd Cymru a oedd allan o brint. Yn aml ychwanegai atynt. Ymhlith y rhain yr oedd dau argraffiad o History of the County of Brecknock, Theophilus Jones (ailbrintio dwy gyfrol yn un, 1898, ac 'argraffiad Glanusk,' pedair cyfrol, 1909-30; golygwyd a chyhoeddwyd cyfrolau 1-3 gan Davies); The History and Antiquities of the County of Cardigan, Sir Samuel Rush Meyrick, 1907; A Historical Tour through Pembrokeshire, Richard Fenton, 1903; An Historical Tour of Monmouthshire, archdeacon William Coxe, 1904. Yn 1905, golygodd a chyhoeddodd A General History of the County of Radnor, wedi'i gasglu ynghyd o nodiadau yn llawysgrif Jonathan Williams a ffynonellau eraill (cyhoeddwyd argraffiad lawer llai ohono gan R. Mason, Dinbych-y-pysgod, yn 1859). Gweithiau eraill o bwys a gyhoeddwyd gan Davies oedd: The Birds of Breconshire, E. C. Phillips, 1899; Theophilus Jones, F.S.A., historian; his life, letters, and literary remains (gol. E.D., 1905); a Parochial Registers and Records, 1906, wedi'u casglu gan E.D. Bu farw Edwin Davies, yn ei gartref, Dinas Lodge, Aberhonddu, Chwefror 1919, a chladdwyd ef ym mynwent Aberhonddu. Bu Davies yn ddiwyd yn crynhoi deunydd hanes siroedd. Gwnaeth gasgliad helaeth o ddogfennau a chofnodion a sicrhau eu cadw ar gyfer y dyfodol. Oherwydd diffyg hyfforddiant mewn techneg hynafiaethol a hanesyddol ni wnaeth y gorau o'r deunydd a oedd ganddo, ond y mae pawb sy'n ymddiddori yn hanes siroedd, yn enwedig Brycheiniog a Maesyfed, yn ddyledus iddo am fod cymaint o wybodaeth amhrisiadwy wedi ei ddiogelu.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.