Ganwyd yn Ionawr 1747 yn Nhyddewi, mab Richard a Martha Fenton. Cafodd ei addysg yn ysgol yr eglwys gadeiriol yno, ac yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen (ond nid yw ei enw gan Foster). Bu am gryn amser yn y gwasanaeth gwladol, yn y Custom House; ond eisoes yn 1774 yr oedd wedi ymaelodi yn y Middle Temple, ac fe'i derbyniwyd yn fargyfreithiwr ym mis Ionawr 1783, a bu'n dilyn cylchdeithiau Cymru am rai blynyddoedd, eithr yn raddol daeth materion llenyddol i'w ddiddori yn fwy na'r gyfraith. Ymysg ei gyfeillion yr oedd Oliver Goldsmith a Syr Richard Colt Hoare; ar gais Hoare yr ysgrifennodd Fenton ei Historical Tour through Pembrokeshire (London 1810). Cyhoeddodd hefyd A Tour in Quest of Genealogy, 1811, Memoirs of an Old Wig, 1815 - y ddau lyfr hyn yn llawn o straeon ffraeth ac wedi eu cyhoeddi yn ddienw - heblaw llyfrau barddoniaeth yn 1773 a 1790. Gadawodd ar ei ôl lawer o ysgrifeniadau heb eu cyhoeddi. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas y Cymmrodorion a phenodwyd ef yn llyfrgellydd iddi yn 1777; cyfeiria Richard Morris yn garedig ato yn 1779 (N.L.W. Jnl., vi. 193); yr oedd hefyd yn un o aelodau cynnar (1776) y Gwyneddigion.
Yr oedd Fenton yn ieithydd da; barn un o'i gyfoeswyr amdano ydoedd ei fod yn ŵr 'of indefatigable industry, of a fine poetical fancy,' ac yn un a chanddo 'the best information on almost every subject.' Oherwydd ei fod mor gyfarwydd â materion Cymreig ac â thafodieithoedd Cymru fe'i defnyddid gan y Llywodraeth i baratoi adroddiadau ar faterion yn ymwneuthur â chyflwr cymdeithasol a gwleidyddol Cymru.
Bu Fenton yn byw am ychydig flynyddoedd (c. 1788) gerllaw Machynlleth er mwyn gwneuthur ei deithiau trwy Gymru a'i astudiaeth o ddefnyddiau hanes Cymru yn fwy hwylus; dychwelodd i Sir Benfro yn 1793 er mwyn bod yn agos at ei ewythr, Samuel Fenton, perchennog llongau masnachu a etifeddwyd ac a weithiwyd gan Richard Fenton yn ddweddarach. Yn 1799 daeth ag ŷd o'r Mô'r Canoldir, heb godi tâl cludo, a'i werthu am y pris a dalodd ef ei hun amdano i bobl yn Sir Benfro a golledwyd oherwydd i gynhaeaf y pysgod yn 1799 brofi mor wael.
Priododd Eloise, merch y cyrnol (a'r barwn) Pillet de Moudon, gŵr a anwyd yn yr Yswisdir ond a ymsefydlasai yn Lloegr. Bu farw yn Plas Glyn-y-mêl, gerllaw Abergwaun, yn gynnar ym mis Tachwedd 1821, a chladdwyd ef ym Maenor Owen, gerllaw Abergwaun.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.