HOARE, Syr RICHARD COLT (1758 - 1838), ail farwnig, hanesydd a hynafiaethydd

Enw: Richard Colt Hoare
Dyddiad geni: 1758
Dyddiad marw: 1838
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ail farwnig, hanesydd a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ceir manylion am ei yrfa a rhestr o'r amryw weithiau a gyhoeddodd yn D.N.B., eithr y mae ei gysylltiad â Chymru yn haeddu iddo sylw byr yn y gwaith hwn hefyd. Pan ddaeth ar daith trwy Gymru am y tro cyntaf dewisodd ddilyn yng nghamre Gerallt Gymro; cyhoeddodd Itinerarium Cambriae, seu laboriosae Baldvini Cantuarensis Archiepiscopi per William Legationis accurata Descriptio, auctore Silv. Giraldo Cambrense cum Annotationibus Davidis Poweli… (London, 1804) a The Itinerary of Archbishop Baldwin through Wales, A.D. 1188, by Giraldus de Barri, translated into English, and illustrated with Views, Annotations, and a Life of Giraldus… (London, 1806). Bu hefyd ar daith drwy sir Fynwy gyda'r archddiacon Coxe, a chyhoeddwyd yn Tour y gŵr hwnnw dros 60 o ddarluniau a wnaeth Hoare. Bu'n aros am beth amser yn Fachddeiliog, ar lan llyn y Bala (gweler Richard Fenton, Tours in Wales, gol. J. Fisher, 1817) gan ymweld â lleoedd o ddiddordeb hynafiaethol a 'rhamantus' a'u darlunio. Y mae amryw o'i ddarluniau gwreiddiol yn y Llyfrgell Genedlaethol ac, o leiaf, dri o'i 'Sketch-books' yn cynnwys disgrifiadau a darluniau (e.e. NLW MS 5370C a dwy gyfrol yng nghasgliad Llangibby Castle).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.