FISHER, JOHN (1862 - 1930), ysgolhaig Cymraeg

Enw: John Fisher
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1930
Rhiant: Mary Fisher
Rhiant: Edward Fisher
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Cymraeg
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Ellis Davies

Ganwyd 5 Ionawr 1862, mab hynaf Edward a Mary Fisher, Cilcoll, Llandebie. Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol Llandebie, Talybont (Pontardulais), ysgol Llanymddyfri, ac yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, lle y graddiodd yn B.A. yn 1884 a B.D. yn 1891, a lle y derbyniasai ysgoloriaeth a gwobrau. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1885, ac yn offeiriad yn 1886, a bu'n gurad ym Mhontbleiddyn, Llanllwchaearn, a Rhuthyn, yn esgobaeth Llanelwy. Ei unig fywoliaeth oedd rheithoraeth Cefn Meiriadog a dderbyniodd yn 1901. Yr un flwyddyn daeth yn llyfrgellydd llyfrgell eglwys gadeiriol Llanelwy; gwnaeth gatalog (mewn llawysgrif) o lyfrau'r llyfrgell honno. Penodwyd ef yn ganon yn 1916, ac yn ganghellor yr eglwys gadeiriol yn 1927. Gwnaed ef yn gaplan arholi yn Gymraeg i'r archesgob Edwards yn 1921. Daliasai y swydd o arholwr mewn Cymraeg yng Ngholeg Llanbedr o 1905 hyd 1909. Yn 1917 etholwyd ef yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Ymunodd â'r ‘Cambrian Archaeological Association’ yn 1899, ac yn 1914 dilynodd y canon R. Trevor Owen yn ysgrifennydd cyffredinol. Am ysbaid yn ystod y rhyfel mawr cyntaf gweithredodd fel golygydd yn ogystal. Yn 1917 rhoes y swydd flaenaf heibio, ond parhaodd yn olygydd Archaeologia Cambrensis hyd 1925, pryd y daeth yn un o'r is-lywyddion. Ei brif waith llenyddol, y llafuriodd arno gyda S. Baring Gould, oedd The Lives of British Saints (pedair cyfrol), a gyhoeddwyd gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1907-13. Golygasai yn flaenorol lawysgrifau Cefn Coch, 1899. Yn ddiweddarach golygodd Tours in Wales (R. Fenton) dros y ‘Cambrian Archaeological Association,’ 1917, Allwydd Paradwys, 1930, a Kynniver Llith a Ban, 1931. Rhai o'i gyfraniadau i Archæologia Cambrensis oedd ‘The Religious and Social Life of former days in the Vale of Clwyd,’ 1906, ‘Some Place-names in the locality of St. Asaph,’ 1914, ‘Wales in the time of Queen Elizabeth,’ ‘The Wonders of Wales,’ 1915, ‘Two Welsh Wills,’ 1919, ‘The Welsh Celtic Bells,’ ‘Bardsey Island and its Saints,’ 1926. Etholwyd ef yn F.S.A. yn 1918, a chyflwynwyd iddo y radd o D.Litt. gan Brifysgol Cymru yn 1920. Penodwyd ef hefyd yn aelod o'r ‘Royal Commission on Ancient Monuments (Wales).’ Gwasanaethodd fel cynrychiolydd y ‘Cambrian Archaeological Association’ ar lys llywodraethwyr Prifysgol Cymru ac ar Fwrdd y Gwybodau Celtaidd; yr oedd hefyd yn aelod o lys llywodraethwyr a chyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu farw 9 Mai 1930, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys gadeiriol Llanelwy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/