REES, WILLIAM JENKINS (1772 - 1855), clerigwr a hynafiaethydd

Enw: William Jenkins Rees
Dyddiad geni: 1772
Dyddiad marw: 1855
Rhiant: Rice Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awdur: Selwyn Jones

Ganwyd 10 Ionawr 1772 yn Llanymddyfri; am ei dras, gweler yr ysgrif ‘Rees o'r Ton.’ Aeth i ysgol ramadeg Caerfyrddin (1789) ac wedyn (12 Ebrill 1791) i Goleg Wadham, Rhydychen; graddiodd yn 1795. Urddwyd ef yn 1796, a daliodd guradiaethau Stoke Edith a West Hide (sir Henffordd) hyd 1806, pan gafodd fywoliaeth Casgob yn sir Faesyfed — o 1806 ymlaen yr oedd hefyd yn ficer Haiob (Heyop) gerllaw Trefyclawdd, ac yn 1820 yn ganon yng Ngholeg Crist, Aberhonddu; etholwyd ef yn F.S.A. yn 1840. Etifeddodd diroedd pan fu farw ei dad (1826), ond daliodd i fyw yng Nghasgob; ac yno bu farw (o'r parlys), 18 Ionawr 1855. Anaml y gwelwyd gŵr mwy gweithgar nag ef. Y mae rhestr faith o'i lyfrau yn y Cardiff Catalogue, ond nid yw honno ond cysgod o'i ddiwydrwydd. Ceir syniad cyflawnach o hwnnw wrth drosi'r casgliad helaeth o'i lythyrau (‘Tonn MSS.’) sydd yn Llyfrgell Dinas Caerdydd. Yr oedd yn un o'r selocaf o'r cwmni o glerigwyr llengar (megis John Jenkins a Thomas Price) a fu wrthi'n atgyfodi'r eisteddfod ac yn gefn i ailgychwyniad Cymdeithas y Cymmrodorion — ar hyn gweler Helen Ramage yn Cymm., 1951, pen. v. Bu hefyd ar fwrdd golygyddol y ‘Welsh MSS. Society’ yr argraffwyd ei llyfrau gan ei nai William Rees (1808 - 1873) — dros y gymdeithas honno y cwplaodd lyfr ei nai Rice Rees ar ‘Lyfr Llandaf,’ 1840, ac y golygodd The Lives of the Cambro-British Saints, 1853. Ysywaeth, nid oedd ei ysgolheictod yn gydradd â'i sêl, a beirniadwyd y ddau lyfr hyn yn llym gan ysgolheigion diweddarach — gweler cyfeiriadau J. E. Lloyd yn ei ysgrif ar Rees yn y D.N.B.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/