Ganwyd 8 Gorffennaf 1808 yn y Ton gerllaw Llanymddyfri - am ei dras, gweler yr ysgrif Rees o'r Ton. Dysgodd argraffu yn Henffordd, ond yn 1829 sefydlodd ef a'i ewythr D. R. Rees wasg yn Llanymddyfri; ciliodd D. R. Rees yn 1835, ond daliodd William Rees ati, a thyfodd y wasg hon yn un o'r enwocaf yng Nghymru, ac ond odid yr orau oll ohonynt yn ei chrefftwaith. Hyhi a gyhoeddodd, 1834, Gylchgrawn 'Alun' (John Blackwell).
Diddorol hefyd yw'r cyswllt rhwng y Reesiaid a 'Brutus' (David Owen). Bu ef yn golygu Lleuad yr Oes, a argreffid gan Jeffrey Jones. Wedi marw Jones (1830) daeth ei wasg i feddiant y Reesiaid - a 'Brutus' gyda hi; a chychwynnwyd Yr Efangylydd (1831 - Mai 1835). Newidiodd golygiadau gwleidyddol ac eglwysaidd 'Brutus'; bu farw'r Efangylydd, ac yn ei le cychwynnodd y Reesiaid y cylchgrawn Anglicanaidd adnabyddus iawn, Yr Haul, a 'Brutus' yn olygydd iddo.
Ond ar ôl i'w ewythr ymddeol, a chyda help David Jones Roderic, y bwriodd William Rees i'r dwfn fel argraffydd o'r radd flaenaf. Yn 1848-9, argraffodd y tair cyfrol wych o Fabinogion yr arglwyddes Charlotte Guest. O'r wasg hon hefyd y daeth cynhyrchion y 'Welsh MSS. Society,' 1836; ymysg y rhain gellir enwi Heraldic Visitations Lewis Dwnn, 1846; Llyfr Llandaf, 1850; Iolo MSS., 1852; Lives of the Cambro-British Saints, 1853; Dosparth Edeyrn Davod Aur, 1856; Meddygon Myddfai, 1856; Barddas, 1862. Ymhlith lliaws llyfrau eraill gwasg Llanymddyfri, ni ellir yma ond enwi Eminent Welshmen, 1852; Literary Remains 'Carnhuanawc' (yn rhannol â Longmans, Llundain), 1854-5; a llyfr 'Ieuan Gwynedd,' 1848, yn erbyn adroddiad dirprwywyr addysg 1846-7.
Gyda hyn oll, cymerth Rees ran flaenllaw ym mywyd cyhoeddus ei dref; a bu'n gasglydd cronfa adeiladu ysgol Thomas Phillips (1760-1851) yn Llanymddyfri. Bu farw 13 Gorffennaf 1873, a chladdwyd yn Llandingad.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.