Mab i William Thomas, masnachwr yn Llundain, o'i wraig Petronilla ferch William Brand, Lincoln's Inn. Fe'i ganwyd 30 Mehefin 1673, yn Fetter Lane, a'i fedyddio 1 Gorffennaf yn S. Dunstans-in-the-West. Yr oedd o hen deulu (Catholig, meddir) yn Llanfrynach gerllaw Aberhonddu, ond yr oedd ei daid, Roger Thomas, wedi gwerthu'r hendre. Sgrifennodd ei hendaid, Thomas ap John (a fu farw 1616 - y mae carreg ei fedd yn eglwys Llanfrynach) hanes Brycheiniog, ac yr oedd y llawysgrif ym meddiant Hugh Thomas. A gellir olrhain ach y Thomas ap John hwn bum cenhedlaeth ymhellach yn ôl, at Hywel Gam (Theophilus Jones, History of the County of Brecknock, 3ydd arg., iv, 39). Ond bratiog iawn yw ein gwybodaeth am Hugh Thomas ei hunan. Y mae'n rhaid ei fod yn ymhel â hynafiaethau er yn fore. Tua 1698 sgrifennodd draethawd ar hanes Brycheiniog (y mae'r llawysgrif heddiw yn Llyfrgell Bodley, a chopi anghyflawn, gellid meddwl, yn y Llyfrgell Genedlaethol - NLW MS 777B ), a ddefnyddiwyd ac a ddyfynnir gan Theophilus Jones; gwnaeth hefyd gasgliad mawr o achau (a ddefnyddiwyd yntau, mewn rhan, gan Theophilus Jones), sydd heddiw ymhlith yr ' Harleian MSS. ' yn yr Amgueddfa Brydeinig; gweler Edward Owen, Cat. of Welsh MSS. in the British Museum, ii (mynegai lawn) - y mae yno hefyd lythyrau ato gan Edward Lhuyd, William Lewes o'r Llwynderw, a hynafiaethwyr eraill.
Erbyn 1703, yr oedd yn ddirprwy i'r 'Garter King-at-arms,' ac ymddengys oddi wrth lythyr ato (1710/11) gan William Lewes mai ganddo ef yr oedd yr unig hawl i gofrestru achau Cymreig y tu allan i siroedd Aberteifi a Maesyfed. Yr oedd yn ei fryd argraffu'r Historic of Great Britain … 'til the Death of Cadwaladr, gwaith John Lewis o Lynwene, gyda rhai chwanegiadau, ond ni ddaeth hwn allan cyn 1729 (gweler Ffransis Payne yn Y Llenor, Hydref 1935). Ar sail gwaith Hugh Thomas a William Lewes y gwnaethpwyd y ' Golden Grove Book of Pedigrees ' sydd yn y P.R.O.
Yn Bloomsbury y preswyliai Hugh Thomas. Bu farw 22 Medi 1720, a chladdwyd yn S. Martins-in-the-fields. Gwnaeth ei ewyllys 14 Medi 1720 (Edward Owen, op. cit., ii, 491), a phrofwyd hi 6 Hydref (Transactions of the Carmarthenshire Antiquarian Society and Field Club, xv, 60); bu farw, felly, rhwng y ddau ddyddiad hyn - anghywir yw'r ' 1715 ' neu ' 1721 ' yn y gwahanol argraffiadau o Theophilus Jones a llyfrau eraill. Nid oedd ganddo blant, a'i weddw, Margaret, ferch George Wood, Abergafenni, a gafodd ei eiddo ar wahân i gymynroddion. Gadawodd ei gasgliad o achau a phapurau eraill i Robert Harley, iarll Oxford - felly y daethant i'r Amgueddfa Brydeinig. Yr oedd ganddo frawd, a oedd (meddai'r ewyllys) 'yn drwm yn ei ddyled,' ac wedi bod 'yn faich arno' ar hyd ei oes; eto gadawodd £10 iddo. Eithr yn ôl Theophilus Jones, rhoes Harley swm anrhydeddus i'r brawd hwn, 'gan ei fod yn dlawd iawn,' yn gydnabyddiaeth am y llawysgrifau. Preswyliai dwy gares (un, beth bynnag, yn chwaer, gellid meddwl) i Hugh Thomas, yn Aberhonddu.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.