LEWIS, JOHN (bu farw 1616), Llynwene, Llanfihangel Nant Melan, sir Faesyfed, bargyfreithiwr a hanesydd

Enw: John Lewis
Dyddiad marw: 1616
Priod: Ann Lewis (née Sais)
Rhiant: Sybil ferch Roger ap Watcyn Fychan
Rhiant: Hugh Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr a hanesydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Cyfraith; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd ym mhlwyf Pencraig (Old Radnor), mab Hugh Lewis a Sibyl, merch Roger ap Watcyn Fychan, Hergest. Y mae W. Rowlands (Llyfryddiaeth, o dan 1729) yn camgymryd wrth ei gysylltu â Maenor Owen a'i alw yn hen-daid i Richard Fenton. Nid yw'n debyg mai ef oedd y John Lewis a dderbyniwyd i Lincoln's Inn, 28 Chwefror 1562-3 (Lincoln's Inn Admissions). Tebycach yw mai ef yw'r gŵr a dderbyniwyd i'r Inner Temple, 20 Awst 1568. Nid oes sicrwydd pryd y galwyd ef i'r Bar.

Y mae llawer o waith John Lewis, yn ei law ef ei hun, yn Peniarth MS 252 , yn enwedig rhannau o'r gwaith mawr y coffeir ef o'i blegid, sef yr hanes Prydain a gyhoeddwyd yn Llundain yn 1729 (dros gan mlynedd wedi marw'r awdur) o dan y teitl The History of Great-Britain … 'till the Death of Cadwalader, Last King of the Britains', and of the Kings of Scotland to Eugene V. As also A short Account of the Kings, Dukes, and Earls of Bretagne, 'till that Dukedom was united to the Crown of France…. By John Lewis, Esq.; Barrester at Law. Now first printed from his Original' Manuscript. To which is added, The Breviary of Britayne, written in Latin by Humfrey Lhuyd, of Denbigh … and lately Englished by Thomas Twine. Y mae'n ddiau mai ei amcan wrth ysgrifennu'r llyfr oedd amddiffyn traddodiadau hanesyddol Cymru yn erbyn safbwynt ysgrifenwyr megis yr Eidalwr Polydore Vergil, cywiro pethau a geid yng ngwaith William Camden, ac amddiffyn Sieffre o Fynwy. Golygwyd y gwaith ac ychwanegwyd ato gan Hugh Thomas, achydd a hanesydd, brodor o sir Frycheiniog, o B.M. Harl. MS. 4872. Y mae John Lewis yn sôn hefyd am waith arall o'i eiddo - 'Ecclesiastical History of the Britains til St. Augustin's Tyme' (gweler Peniarth MS 252 , a t. 88 o'i History of Great Britain). Fel y gwelir yn Peniarth MS 252 yr oedd Lewis yn gyfeillgar â Dr. John David Rhys a John Dee. Heblaw Peniarth MS 252 bu Peniarth MS 54 i , Peniarth MS 55 Peniarth MS 60 , Peniarth MS 67 a Peniarth MS 79 , yn eiddo i John Lewis (gweler hefyd B.M. Add. MS. 6921). Priododd Ann, merch William Sais, a chafwyd dau fab a merch o'r briodas. Ceir disgrifiad o bais arfau John Lewis, 'Lluynweney,' sir Faesyfed, yn B.M. Harl. MS. 6870. Cyfeiria Hugh Thomas yn ei ewyllys (a wnaethpwyd 14 Medi 1720) at gyfrol 1729 fel hyn: 'Whereas I have receiv'd several pounds towards printing my book now in ye press and begun by Mr. John Lewis of Llanwenny' (B.M. Harl. MS. 6840; gweler Edward Owen, Catalogue of MSS. relating to Wales in the British Museum, ii, 491).

Yr oedd yn anghydffurfiwr Catholig fel aelodau eraill o'i deulu. Esgymunwyd ef gan esgob Tyddewi (Exch. Proc., 151/34/8, Jas. 1).

Bu John Lewis farw rywbryd rhwng 14 Chwefror 1614/5, dyddiad ei ewyllys, a 12 Chwefror 1615/6, dyddiad profi'r ewyllys.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.