VAUGHAN (TEULU), Hergest, neu Herast, ym mhlwyf Ceintun ('Kington'), sir Henffordd.

Y cyntaf o'r FYCHANIAID hyn oedd THOMAS AP RHOSIER FYCHAN, mab Rhosier Fychan, Brodorddyn, a laddwyd ar faes Agincourt - gweler teulu Vaughan, Brodorddyn. Gwladus ferch Dafydd Gam oedd ei fam. Yr oedd, felly, yn frawd cyflawn i Watcyn Fychan, Brodorddyn, a Syr Rhosier Fychan, Tre'r Tŵr - gweler teulu Vaughan, Tre'r Tŵr, ac yn frawd unfam i Syr William Herbert, iarll Penfro, ac i Syr Rhisiart Herbert. Ei wraig oedd Elen Gethin, ferch Dafydd ap Cadwgan ap Phylip Dorddu, un o Fychaniaid Tyleglas. Y cofnod cynharaf amdano yw ei fod yn gwnstabl castell Huntingdon (ryw ddwy filltir o Hergest), yn 1422. Yr oedd yn rhysyfwr arglwyddiaethau Aberhonddu, y Gelli, a Huntingdon, yn 1453-4. Yn Senedd Coventry, 1457, rhoddwyd pardwn cyffredinol iddo ef fel i nifer o'i berthnasau a'i gymdogion, arwydd yn ddiamau fod cynghorwyr Harri VI yn gobeithio eu cadw rhag myned yn llwyr drosodd at blaid Iorc. Yn 1460 eto gosodwyd ef ar gomisiwn i gymryd meddiant o gestyll a maenorau 'r dug Iorc ac iarll Warwig yn Elfael, Maeliennydd, Gwerthrynion, a gororau sir Henffordd, yn enw'r brenin. Yn 1461, fe'i penodwyd eto yn rhysyfwr y tair arglwyddiaeth tra y byddai aer dugiaeth Buckingham o dan oed. Ond fel ei frodyr, drosodd at yr Iorciaid yr aeth yntau. Fe'i gwelir gyda hwy ar gomisiynau ' oyer et terminer ' yng Ngogledd Cymru yn 1467, ac yn eu cwmni hwy yr ymdeithiodd i'w dranc ar faes Edgecote, ger Bambri, 1469. Y mae ansicrwydd am ddydd ei farw. Tybiai Evans (Wales and the Wars of the Roses, 177), ar sail awgrym gan Guto'r Glyn, mai mewn sgarmes ragarweiniol ddydd Llun, 23 (24 sy'n gywir) Gorffennaf, y syrthiodd. O'i farwnadau, gan Lewis Glyn Cothi, gellid casglu mai yn y brif ornest ar y 26ain y lladdwyd ef, ac yr oedd traddodiad yn y teulu yn amser y Dr. Siôn Dafydd Rhys mai ef, ac nid Syr Rhisiart Herbert, oedd gwron y frwydr honno. Cludwyd ei gorff adref i Geintun i'w gladdu, ac, er bod arno olion cryn adnewyddu, erys y beddrod alabastr a gododd ei weddw yn yr eglwys honno hyd heddiw. Dywedir ei fod yn 69 oed pan fu farw. Yn y llyfrau achau, disgrifir ef fel arglwydd Hergest, Bleddfach, Nash, a Llaneinion. Yr oedd ei weddw yn byw yn Nash, ger Llanandras, yn 1474, pryd y sicrhaodd bardwn y pab i'r sawl a weddïai dros enaid ei gŵr. Y mae traddodiad iddi hi, â'i llaw ei hun, ladd ei chefnder Siôn Hir ap Phylip Fychan, am iddo ef ladd ei brawd Dafydd Fychan o Linwent yn Llanbistair. Bu i Domas ac Elen dri mab, Watcyn Fychan, Rhisiart Fychan, a fu farw yn fuan ar ôl ei dad (gweler marwnad Lewis Glyn Cothi iddo - ' Pregeth i Elen Gethin'), a Rhosier Fychan - teulu gweler Vaughan, Cleirwy - ac un ferch, Elis gwraig Robert Whitney, y canodd Lewis Glyn Cothi awdl briodas iddynt ('O Dduw! pwy 'nglan Gwy'). Cadwodd yr etifedd, WATCYN FYCHAN, at y traddodiad a wnaeth Hergest yn gyrchfan prif feirdd Cymru yn y 15fed ganrif. Am dair cenhedlaeth bu Hergest yn gartref i ddiwylliant Cymru. Yno yr oedd ' Llyfr Coch Hergest,' sydd yn awr yn llyfrgell Bodley yn Rhydychen, a ' Llyfr Gwyn Hergest,' y casgliad hwnnw o ryddiaith a barddoniaeth Gymraeg (y tybir i Lewis Glyn Cothi gopïo y rhan fwyaf ohono) a gollwyd yn nhân Covent Garden yn 1808. Gwraig Watcyn Fychan oedd Sibyl ferch Syr John Baskerville, ac ŵyres Syr Walter Devereux. Rhoes ei gefnder, William Herbert, iarll Huntingdon, iddo swyddi stiward a rhysyfwr castell ac arglwyddiaeth Huntingdon, sir Henffordd, yn 1484, a gwnaethpwyd ef yn synysgal arglwyddiaeth Aberhonddu gan Thomas ap Syr Rhosier Fychan, Tre'r Tŵr. Yr oedd yn gyflafareddwr mewn achos llofruddiaeth yn 1485 (B.M. Harl. MS. 6079). Uchel oedd clod y beirdd iddo. Dywed Tudur Penllyn ei fod yn llywodraethwr holl drethi Powys ac yn gwnstabl ar lan Fyrnwy ac ar lan Gwy. Cofnodir naw o blant iddo. Digon enwi'r etifedd JAMES VAUGHAN, a'r ail, ROGER VAUGHAN, a briododd Ellen ferch Syr Thomas Cornwall. Merch Roger oedd Sybil a briododd Huw Lewis, Tre'r Delyn, un o'r comisiynwyr a arwyddodd drwydded farddol Gruffudd Hiraethog yn 1545, a thad John Lewis, Llynwenne. JAMES VAUGHAN, Hergest, oedd y comisiynwr arall. Ei wraig ef oedd Elisabeth, ferch ac aeres Syr Edward Croft. Bu eu hetifedd, CHARLES VAUGHAN, yn aelod seneddol sir Faesyfed, 1553. Ei wraig gyntaf ef oedd Elisabeth, ferch Syr James Baskerville, Eardisley, a'i ail, Margaret ferch Syr William Vaughan, Porthaml, a gweddw Roger Vaughan, Cleirwy. Ail fab o'r wraig gyntaf oedd Robert Vaughan, siryf Maesyfed, 1562-3, a 1567-8, ac aelod seneddol bwrdeisdref Maesyfed, 1554 a 1559, yn ôl W. R. Williams, ond nid oes sicrwydd am hyn. WALTER VAUGHAN oedd yr etifedd. Dilynwyd hwnnw gan ei fab JOHN VAUGHAN, a ysgrifennodd at Syr Robert Harley ynglŷn â'r pla yn Llanandras, 23 Medi 1636. Ei etifedd ef oedd JAMES VAUGHAN, a ymaelododd yn Rhydychen yn 16 oed, 16 Tachwedd 1621. JOHN VAUGHAN oedd ei etifedd ef. Ymaelododd SILVANUS VAUGHAN, mab John Vaughan, yn Rhydychen, 17 Mawrth 1676, yn 17 oed, a graddio'n M.A. yn 1682. Bu'n rheithor Tilston, sir Gaer, a chladdwyd ef yng Ngheintun 9 Gorffennaf 1706. Drwy Frances, merch John Vaughan, yr aeth yr etifeddiaeth. Priododd hi William Gwyn Vaughan, Trebarried (a fu farw 1752), a ddisgynnai o un o blant gordderch Syr Rhosier Fychan, Tre'r Tŵr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.