VAUGHAN (TEULU), Cleirwy ('Clyro'), sir Faesyfed.

Sefydlydd y gainc hon o'r Fychaniaid oedd ROGER VAUGHAN (I), trydydd mab Thomas ap Rhosier Fychan, Hergest - gweler teulu Vaughan, Hergest. Ei wraig oedd Jane ferch Dafydd ap Morgan ap Siôn ap Phylip. ROGER VAUGHAN (II) oedd eu hetifedd, a phriododd ef Margaret ferch Rhys ap Gwilym ap Llywelyn ap Meurug. Dichon mai ef oedd yr un y gwelir ei enw ar restr comisiynwyr y degymau eglwysig yn Ionawr 1535. Yr oedd iddo o leiaf ddau fab: ROGER VAUGHAN (III), yr etifedd, a THOMAS VAUGHAN, Llywes, a briododd Sibil ferch Hywel ap Thomas Goch. Y ddau frawd yma a syrthiodd i grafangau'r esgob Rowland Lee yn 1538. Dichon mai Thomas oedd y Thomas Vaughan, Cleirwy, a gafodd bardwn am lofruddiaeth, 14 Awst 1536. Bu'r ddau o dan groesholi gan yr esgob a Sulyard ar 18 Gorffennaf 1538, a pha beth bynnag oedd yr achos yr oedd yn ddigon difrifol i Thomas Cromwell eu galw o dan osgordd i'w wyddfod ei hun yn Llundain. Y Roger Vaughan hwn, wedi cyrraedd safle o barchusrwydd y mae'n debyg, oedd siryf Maesyfed yn 1576-7. Ei wraig ef oedd Margaret, ferch Syr William Vaughan, Porthaml, a briododd Charles Vaughan, Hergest, yn ail ŵr, a hithau yn ail wraig iddo ef. ROGER VAUGHAN (IV) oedd yr etifedd, a phriododd ef Margery ferch Richard Monington. Yr oedd ef yn ustus heddwch yn siroedd Maesyfed, Henffordd, a Brycheiniog, yn ddirprwy-raglaw Maesyfed, a bu'n aelod seneddol dros sir Faesyfed o 1572 i 1583 ac yn siryf Brycheiniog yn 1595-6. Yr oedd yn gyfeillgar â Syr Gelly Meyrick, a daeth o dan ddrwgdybiaeth drom pan gododd iarll Essex mewn gwrthryfel yn 1601. Yr oedd ei fab JOHN VAUGHAN yn siryf Maesyfed yn 1607-8. Priododd ef aeres Richard Baynham, Aston Ingham, sir Henffordd, a thuag yno y trodd golygon y teulu o hynny allan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.