Sefydlydd y gainc hon o'r Fychaniaid oedd ROGER VAUGHAN, ail fab Syr Rhosier Fychan, Tre'r Tŵr. Hwyrach mai ef oedd hwnnw a gafodd bardwn, 9 Gorffennaf 1491, fel Roger Vaughan, Tyleglas, a thrachefn ar rôl pardwn Harri VIII (1509) fel Roger ap Roger, Tyleglas, neu Roger Vaughan, Talgarth. Cafodd stiwardiaeth a rhysyfwriaeth arglwyddiaeth Dinas, 17 Ionawr 1509, ac yr oedd wedi marw cyn 25 Medi 1514 pan drosglwyddwyd y swyddi hynny i Syr Gruffudd ap Rhys. Ei wraig oedd Joan, ferch Robert Whitney o Constance ferch James, arglwydd Audley. Disgynyddion ei ail fab, Thomas Vaughan, oedd Fychaniaid Tregunter. Priododd yr aer, WATKIN VAUGHAN, Joan ferch Ieuan Gwilym Fychan o'r Peytyn Gwyn.
Gydag etifedd hwnnw, WILLIAM VAUGHAN, y daeth y teulu i amlygrwydd. Cafodd ef brydles tiroedd Dinas, 14 Chwefror 1529. Efe oedd ym Mhorthaml pan alwodd Leland yno, ac yn 1536 rhoes gymaint croeso i'r esgob Rowland Lee fel na flinai hwnnw ei glodfori wrth ei feistr Thomas Cromwell. Gŵr i'w feithrin ydoedd, meddai'r esgob wrth Cromwell yn 1538. Ar 17 Rhagfyr y flwyddyn honno gwnaethpwyd ef yn ganghellor a rhysyfwr arglwyddiaethau a maenorau Brycheiniog, y Gelli, Cantreselyf, Pencelli, ac Alexanderston, swyddi a ddaliodd hyd 7 Gorffennaf 1546 pan roes hwynt i fyny er mwyn ei fab Roger. Yr oedd yn siryf Brycheiniog 1540-1, ac urddwyd ef yn farchog yn 1542. Ym mis Hydref 1546 cafodd warchodaeth Joan ac Elizabeth, chwiorydd a chydaeresau Henry Myle, Newcourt. (Priododd Joan ei ail fab, Walter Vaughan, Moccas, ac Elizabeth ei ŵyr, Rowland Vaughan.) Bu farw cyn 1553, oherwydd yr oedd ei wraig Catherine ferch Jenkin Havard yn weddw ac yn byw yn y Peytyn Gwyn pan gafodd bardwn ar 6 Mai y flwyddyn honno am gefnogi llofruddiaeth.
Yr aer oedd ROGER VAUGHAN, a urddwyd yn farchog yn 1549. Yr oedd ef yn siryf Brycheiniog yn 1551/2, ac ar gomisiwn archwilio llestri'r eglwysi ym Mrycheiniog a sir Henffordd, 1553. Cafodd le ar rôl pardwn y frenhines Mari, 1 Rhagfyr 1553, a chafodd stiwardiaeth cestyll ac arglwyddiaethau Huntingdon a Cheintun ('Kington'), 6 Mai 1554. Ar rôl pardwn Elisabeth, 1559, cysylltir ef â Phorthaml a Newcourt. Ef oedd un o'r comisiynwyr a fu'n archwilio'r goeden ag arwydd y groes arni yn Sain Dunwyd ar ran y Cyngor Cyfrin, 5 Mehefin 1561. Yr oedd yn aelod seneddol dros sir Frycheiniog 1553-62, pan gymerwyd ei le gan ei fab, Rowland Vaughan, a thrachefn yn 1571. Yn y cyfamser, o 1562 i 1567, bu'n eistedd dros fwrdeisdref Aberhonddu. Yr oedd wedi marw cyn 31 Mawrth 1585 pan ganiatawyd gweinyddu ei stad.
Bu iddo nifer o blant o'i wraig Catherine, ferch Syr George Herbert, Abertawe. Bu'r hynaf, Watkin, farw'n ddiblant, ac i Catherine, merch yr ail fab, ROWLAND VAUGHAN (aelod seneddol Aberhonddu, 1559-62, a sir Frycheiniog, 1562-7; gellir casglu iddo ef farw cyn yr etholiad seneddol nesaf), yr aeth y stad. Priododd Catherine Syr Robert Knollys, aelod seneddol dros sir Frycheiniog, 1588-1603. Eu hetifeddes hwy a briododd bennaeth teulu'r Fychaniaid, Syr CHARLES VAUGHAN, Dwnrhefn ('Dunraven') - gweler teulu Vaughan, Brodorddyn. ROGER VAUGHAN, Talgarth, oedd trydydd mab Syr Roger Vaughan. Ei wraig ef oedd Frances, ferch anghyfreithlon Thomas Somerset, a briododd, wedi ef, William Vaughan, Tre'r Tŵr.
ROGER VAUGHAN oedd etifedd y Roger Vaughan uchod, a phriododd ef, yn 1608, Ann, ferch Paul Delahaie, Alltyrynys.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.